Defnyddio technoleg i reoli parcio Eryri dros ŵyl y banc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o gerbydau wedi parcio'n anghyfrifol sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf

Bydd nifer y bobl sy'n gallu parcio yn rhai o fannau mwyaf poblogaidd Eryri yn cael ei reoli dros ŵyl y banc wrth i nifer yr ymwelwyr "barhau i gynyddu" ers y pandemig.

Bydd dros 500 o synwyryddion yn monitro meysydd parcio er mwyn rhoi gwybodaeth fyw ar y we i ymwelwyr.

Y gobaith yw y bydd pobl yn gwirio sawl lle sydd ar gael o flaen llaw ac na fydd pobl yn gyrru o gwmpas y Parc Cenedlaethol yn chwilio am fan parcio.

Bu trafferthion parcio mawr yn yr ardal yn ystod y pandemig wrth i fwy o bobl aros yn lleol dros gyfnodau'r gwyliau.

Disgrifiad o’r llun,

Bu trafferthion parcio difrifol yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri yn ystod y pandemig gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr

Yn ystod y pandemig, cafodd maes parcio ger yr Wyddfa ei gau, gan fod cymaint o ymwelwyr wedi heidio yno wrth i'r cyfyngiadau lacio.

Cafodd ceir eu tynnu mewn un ardal o Eryri am i bobl "barcio'n beryglus".

Dros y penwythnos, bydd gwybodaeth electronig ar gael ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) ac ap Smart Parking i nodi sawl lle parcio sydd ar gael.

Y nod yn yr hir-dymor yw datblygu system fydd yn cynnwys map byw rhyngweithiol sy'n dangos faint o lefydd parcio sydd ar gael.

Y gobaith yw gallu darparu gwybodaeth am gyfleusterau y meysydd parcio fydd hefyd yn galluogi pobl i ragarchebu safle parcio mewn rhai meysydd.

'Parhau i weld cynnydd ymwelwyr'

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau APCE, bod y parc yn dal i fod dan bwysau ers y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod nifer yr ymwelwyr yn parhau yn uchel ers y pandemig

"Rydym yn parhau i weld cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn dilyn cyfyngiadau'r coronafeirws a'r pwysau ychwanegol mae arosiadau byr yn achosi.

"Ein nod yw gwella profiad yr ymwelydd tra ar yr un pryd yn gwarchod ein tirweddau, a chymunedau lleol trwy welliannau eang i'r rhwydwaith drafnidiaeth yn Eryri," ychwanegodd.

Ychwanegodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Gogledd, Canolbarth a Chymru Wledig, bod datblygu atebion i'r problemau parcio yn yr ardal yn "un o'r heriau mwyaf".

"Mae'r dechnoleg gyfoes yma sydd wedi ei ddatblygu gan Smart Parking yn un o nifer o atebion fydd yn weithredol gan gynnwys gwelliant mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau teithio."