Gobeithio newid y byd gwyddonol o gwch yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae Anahita Laverack yn gobeithio newid sut rydyn yn deall y tywydd. Ei breuddwyd fawr ydy cyflawni hynny oll o'i chwch yng Nghaernarfon.
Yn 23 oed, mae'r gwyddonydd ifanc o Lundain a'i phartner, Ciaran Dowds, wedi ennill nifer o wobrau am eu prosiect, Oshen.
"Cwch hwyliau bach ydy Oshen sy'n gallu hwylio ar y môr ar ei ben ei hun i gasglu data," esbonia Anahita.
Gobaith y cwpl ydy defnyddio'r dechnoleg i ddeall yn well sut mae'r môr yn effeithio ar newid hinsawdd.
"Mae'r moroedd yn cael effaith enfawr ar ein systemau tywydd ac eto, does dim digon o wybodaeth gennym ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn y dŵr."
Mae Oshen yn gynllun sydd wedi ennill canmoliaeth fawr i Anahita a Ciaran. Ers iddyn nhw raddio o'r brifysgol yn Llundain, mae'r ddau wedi cael cymorth ariannol gwerth tua £100,000.
Y nod dros y flwyddyn nesaf, gyda chefnogaeth ariannol Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, ydy hwylio Oshen ar draws yr Iwerydd.
"Mi fydd hi'n ddigwyddiad technolegol arloesol os ydyn ni'n llwyddo gwneud hi," meddai Anahita.
Defnyddio Cymru i ddatblygu'r wyddoniaeth newydd
Ers symud i Gaernarfon flwyddyn yn ôl, mae Anahita a Cairan wedi hwylio ar hyd arfordir Ceredigion tuag at Gaernarfon er mwyn cwblhau arbrofion ar Oshen.
"Mae gennym bopeth sydd angen arnom yng Nghaernarfon. Dwi ddim yn siŵr be' fyddai angen arnom yn y dyfodol sydd ddim ar gael i ni yma."
Yn mesur 1.2m mewn hyd ac yn pwyso 50kg, mae Oshen yn rhad i'w chynhyrchu, o ystyried fod hi'n llong, meddai Anahita.
Ar hyn o bryd, bwiau (buoys) traddodiadol sy'n casglu data ar y môr - system sydd angen newid, yn ôl Anahita.
"Mae mwy na 1,000 o fwiau plastig yn drifftio ar y môr ar hyn o bryd a dy' nhw ddim yn gynaliadwy," meddai.
Gobaith y ddau yng Nghaernarfon ydy datblygu prosiect ar raddfa fawr sy'n effeithiol yn economaidd ac yn amgylcheddol.
Os yn llwyddiant, mi fydd Oshen, yn ôl Anahita, yn trawsnewid sut mae gwyddonwyr a busnesau yn defnyddio data o'r moroedd, ac yn gwneud cynlluniau yn fwy effeithiol wrth fynd ar y dŵr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022