Apêl newydd 20 mlynedd wedi llofruddiaeth postmon

  • Cyhoeddwyd
Paul SavageFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul Savage yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ymosodiad arno tra roedd yn dosbarthu llythyrau yn Yr Wyddgrug

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio o'r newydd am wybodaeth all ddatrys achos llofruddiaeth postmon yn Sir Y Fflint union 20 mlynedd yn ôl.

Bu farw Paul Savage o ganlyniad anafiadau difrifol y cafodd mewn ymosodiad arno wrth iddo ddosbarthu llythyrau yn Yr Wyddgrug ar 4 Chwefror 2003.

Er gwaethaf ymholiadau helaeth, a gwobr ariannol sylweddol am wybodaeth gan y Post Brenhinol, does neb wedi cael eu cyhuddo o'i ladd.

Mewn ymgais newydd i ddatrys yr achos, mae'r elusen annibynnol Crimestoppers wedi adnewyddu gwobr ariannol o £20,000 am wybodaeth sy'n arwain at erlyn y sawl sy'n gyfrifol am y llofruddiaeth.

'Dim cyfiawnder' hyd yn hyn

"Rydym yn meddwl am deulu Paul heddiw, sy'n dal heb gael y diweddglo maen nhw'n ei haeddu, a bu dim cyfiawnder o ran marwolaeth Paul," dywedodd y Ditectif Arolygydd Myfanwy Kirkwood.

"Rydym yn credu bod rhywun neu rywrai allan yna sydd â gwybodaeth allweddol a fyddai'n ein helpu i gael datrysiad positif i'r ymchwiliad yma.

"Rwy'n deall y gallai pobl deimlo'n amharod i ddod ymlaen wedi gymaint o flynyddoedd, ond rwy'n eich sicrhau y byddai unrhyw wybodaeth sy'n cael ei derbyn yn cael ei drin yn gyfrinachol...

"Dydy'r un achos heb ei ddatrys yn cael ei gau, ac mae gofyn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth newydd a sylweddol i'w gynnig i ddod ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu'r archwilio Ffordd Clayton yn 2003 ble ddigwyddodd yr ymosodiad ar Paul Savage

Dywedodd Gary Murray o'r elusen Crimestoppers: "Bob dydd rydym yn clywed gan bobl sy'n dweud wrthom pa mor anodd yw rhoi gwybodaeth am drosedd, yn enwedig os mae'n ymwneud â phobl gallech chi fod yn agos atyn nhw, drwy berthnasau a ffrindiau.

"Mae hwn yn achos wirioneddol drist ac mae ein elusen yn awyddus i helpu'r heddlu trwy gynnig hyd at £20,000 am wybodaeth rydym yn ei dderbyn yn ddienw sy'n arwain at erlyniad.

Ychwanegodd: "Wnawn ni fyth ofyn na chadw unrhyw fanylion personol fel eich enw neu rif cyswllt. Y cwbl rydym yn gofyn yw i chi rannu'r hyn rydych yn ei wybod fel y gallwn ei basio ymlaen ar eich rhan a chaniatáu cyfiawnder i Paul a'i deulu serchus."