Amaeth: 'Pwysig deall o ble ddaw ein bwyd'
- Cyhoeddwyd
Fferm lysiau gydweithredol ar gyrion Caernarfon ydy Tyddyn Teg. Cynhyrchu bwyd lleol i bobl leol tra'n gofalu am yr amgylchedd yw'r nod.
Deuddeg aelod sydd yn gyfrifol am y fferm a phob un yn gweithio 18 awr yr wythnos yn tyfu llysiau i'w gwerthu yn siop y fferm neu mewn bocsys bwyd.
Ar hyn o bryd, mae 170 o focsys yn cael eu dosbarthu bob wythnos ac mae'r siop yn gwerthu bara maen nhw'n pobi ar y fferm a bwyd gan gynhyrchwyr lleol eraill.
Yn ôl un o'r aelodau, Sally Mees, mae'n hollbwysig fod pobl yn deall o ble y daw eu bwyd.
"Mae'n bwysig i bobl ddysgu am y tir a mwynhau y llysiau am eu bod nhw'n flasus heb y plaladdwyr."
"'Dyn ni'n tyfu ystod mawr o lysiau heb blaladdwyr. 'Da ni'n gweithio hefo egwyddorion organig.
"'Dan ni ddim yn defnyddio plaladdwyr achos mae o'n ddrwg i'r bywyd gwyllt. A 'dan ni'n cael llai o broblemau. Os oes gynnon ni bioamrywiaeth da ar y tir mae'r llysiau yn tyfu'n iach, mae natur yn ffeindio'r balans."
'Anodd dal deupen llinyn ynghyd weithiau'
I Aglaé Bindi, sy'n wreiddiol o Ffrainc ond nawr yn aelod o'r fferm gydweithredol, mae gwneud pethau'n wahanol "yn her enfawr."
"Dim ond canran fach o'r tir sydd ganddom ni sy'n cael ei drin, mae'r gweddill yn wlypdiroedd sy'n llawn bywyd gwyllt.
"Dyw bwyd ddim yn dod â llawer o arian. Rhaid i ni fod yn ofalus faint ry'n ni'n gwario ac mae'n anodd dal deupen llinyn ynghyd weithiau.
"I ateb yr heriau yma rhaid i ni gael mwy o lefydd fel hyn. Felly mae annog mwy yn beth da ond mae'n dechrau gyda chydnabod bod y rhai sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn ei chael hi anodd."
Mwy o fentrau cymunedol fel Tyddyn Teg y mae'r llywodraeth am eu hannog. Mae'r mesur amaeth - y ddeddfwriaeth gyntaf wedi'i chynllunio'n benodol i Gymru - yn gwneud ei ffordd drwy'r Senedd ar hyn o bryd.
Cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, byddai polisi amaeth yn cael ei lunio ym Mrwsel fel rhan o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Roedd yn gwobrwyo ffermwyr am faint o dir oedd ganddyn nhw, heb ystyried a oedd y tir yn cael ei ffermio er budd yr amgylchedd - rhywbeth oedd yn cael ei feirniadu.
Mae mesur y Senedd, fydd yn cael ei drafod ddydd Mawrth, yn uchelgeisiol ac yn cael ei ystyried yn newid hanesyddol yn y ffordd y bydd Cymru'n cael ei ffermio - gyda mwy o bwyslais ar ffermio'n gynaliadwy yn hytrach na blaenoriaethu cynhyrchu bwyd.
Adfer Natur
Ar hyn o bryd, mae'r mesur am i ffermwyr "gynnal a gwella" yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth er mwyn cael cymorthdaliadau.
Ond mae'r elusen amgylcheddol WWF Cymru am i'r llywodraeth fynd ymhellach. Maen nhw'n dweud bod cynnal a gwella'r tirwedd yn annigonol ac y dylai'r mesur weithio tuag at "adfer" yr amgylchedd naturiol, yn dilyn uchelgais cynhadledd bioamrywiaeth COP 15 yng Nghanada y llynedd.
"Y ffaith amdani yw ein bod ni'n wynebu argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur," meddai Rory Francis, ymgyrchydd gyda'r mudiad.
"Mae un o bob saith rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu o'r wlad. Mae 90% o dir Cymru yn cael ei ffermio ac felly os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â'r sialensau hynny mae rhaid i ni sicrhau bod ffermwyr yn rhan o'r ateb, eu bod nhw'n cael eu talu yn iawn am wneud hynny, yn cynhyrchu bwyd, yn cynnig gwasanaethau amgylcheddol hefyd.
"Wrth gwrs mi oedd yna uwch-gynhadledd natur fawr y llynedd. Mi ddaru holl genhedloedd y byd ymrwymo mwy neu lai i adfer natur. Os ydyn ni o ddifri ddylem ni gynnwys y geiriau hynny yn y bil."
I ffermwyr, mae'n gwbwl synhwyrol i ffermio mewn ffordd amgylcheddol, a mynnu bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn llwyr ddibynnol ar gynaliadwyedd economaidd.
"Mae'n gweithio dwy ffordd," medd Rhodri Jones, sy'n ffermio ar y mynyddoedd uwchlaw Llanuwchllyn.
"Ar ddiwedd y dydd ma' be' sydd ganddom ni yma, yma ers cenedlaethau. 'Da ni'm isio'i golli o.
"'Dan ni isho gweithio efo'n gilydd. Ond os na 'dan ni yma ac yn gallu bod yn broffidiol fydd 'na neb yma i edrych ar ôl y gwaith yma chwaith."
'Her tyfu llysiau'
Mae teulu Rhodri Jones wedi ffermio ar y mynyddoedd ers pedair cenhedlaeth. Mae'n egluro mai dim ond anifeiliaid y gellir eu ffermio ar y tir.
Byddai'n her a hanner i dyfu llysiau yno. Ers 30 mlynedd, mae'r fferm wedi bod yn rhan o gynlluniau amgylcheddol - y diweddaraf yw Glastir.
Mae Glastir yn digolledu ffermwyr am ffermio'n llai dwys.
"Mae o'n gytundeb pori i gychwyn," eglura'r ffermwr. "Mae'r mynydd yn ran o ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu SSSI.
"Felly 'dan ni'n rheoli'r pori hwnnw. Ac wedyn lawr 'ma, mae gynnon ni dipyn o gynefinoedd wedi cael eu hehangu drwy gytundeb Glastir ac wedyn mae 'na wrychoedd wedi cael eu rhoid i fewn, gwrychoedd wedi'u hehangu a'u plygu."
Mae'n mynnu bod gofalu am yr amgylchedd yn hanfod o'i swydd.
"Mae amaeth cynaliadwy yn golygu bod o'n gynaliadwy i'r ecosystem ond hefyd yn gynaliadwy yn economaidd hefyd.
"Mae rhaid i'r cynllun yma weithio ar y cyd rhwng amaeth a'r cynulliad er budd cynhyrchu bwyd ac er budd y lle arbennig yma da ni'n byw ac yn gweithio yn ei ganol o. Mae o hefyd yn cynnal wrth gwrs economi llawer iawn mwy. Mae economi cefn gwlad i gyd yn ffynnu yn ôl beth sy'n digwydd mewn amaeth."
Pryderon am ariannu i'r dyfodol
Mae disgwyl i arian cynllun Glastir ddod i ben ddiwedd eleni. Dan y ddeddf amaeth newydd, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd y taliadau nesaf ar waith yng ngwanwyn 2025.
Mae rhybudd clir gan undeb amaeth NFU Cymru y gall gwaith amgylcheddol o dros gyfnod o dri degawd fod mewn perygl am nad yw llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymestyn Glastir tan y daw'r polisi newydd i rym.
"Mae'n bwysig bod (Glastir) yn cael ei gario 'mlaen nes bydd y cynllun newydd yn dod i fodolaeth yn 2025," medd Hedd Pugh, Cadeirydd Materion Gwledig NFU Cymru.
"Mae gwneud gwaith amgylcheddol yn holl-bwysig. Mae ffermwyr dros y canrifoedd wedi bod yn edrych ar ôl yr amgylchedd ond hefyd cynhyrchu bwyd ac mae mor bwysig bod y ddau yn cyd-redeg efo'i gilydd.
"Mae o'n holl-bwysig bod y cynlluniau i'r dyfodol yn gwneud yn siŵr bod y ddau yn cyd-redeg.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mesur amaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru yn "uchelgeisiol a thraws ffurfiannol.
"Un o nodau'r mesur yw i gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r manteision sy'n dod gyda nhw.
"Fe gyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig y byddai Glastir yn cael ei ymestyn tan Rhagfyr 2023 ac rydym yn ystyried ein dewisiadau ar barhau'r cynllun. Fe fydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau'n nodwedd o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy trwy gydol a thu hwnt i dymor y Senedd hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021