Kaylea Titford: 'Sut allai merch ddiflannu oddi ar y radar?'

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Titford
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea Titford yn mwynhau chwaraeon, ac roedd yn chwarae tennis a phêl-fasged cadair olwyn

Mae swyddog diogelu plant wedi cwestiynu sut y gwnaeth merch yn ei harddegau "ddiflannu oddi ar y radar" cyn ei marwolaeth.

Bu farw Kaylea Titford, 16 oedd yn byw â chyflwr spina bifida, mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer anifail" yn ei chartref yn Y Drenewydd, Powys, fis Hydref 2020.

Roedd yn ordew i raddau peryglus, a chanddi nifer o ddoluriau wedi eu heintio ar ei chorff.

Fe wnaeth ei mam, Sarah Lloyd-Jones, gyfaddef dynladdiad drwy esgeulustod, ac fe gafwyd ei thad, Alun Titford, yn euog mewn achos.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys y byddai adolygiad ymarfer plant yn cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol a fydd yn cynnwys yr holl asiantaethau perthnasol, gan ddilyn fframwaith statudol clir.

Dywedodd David Niven, sy'n arbenigwr diogelwch plant: "Mae nifer y bobl fyddai wedi bod yn gysylltiedig â merch 16 mlwydd oed, oedd â nam difrifol a hynny yn hysbys, ac yna yn sydyn fe wnaeth hi ddiflannu oddi ar y radar.

"'Dw i'n meddwl fod 'na rywun ar hyd ffordd y gallai fod wedi pwyso botwm."

Roedd Kaylea yn pwyso bron i 23st (146kg) pan fu farw.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea wedi mynd yn ordew i raddau peryglus cyn ei marwolaeth

Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast fe wnaeth Mr Niven gwestiynu a allai unrhyw un yn y gymuned fod wedi sylwi ar arwyddion o rybudd.

"Oedd 'na deulu ehangach? Oedd 'na gymdogion? Wnaeth hi siarad â phobl ar gyfryngau cymdeithasol?

"Roedd hi'n sicr yn siarad â'r ysgol, hyd yn oed os nad oedd hi'n mynychu [yr ysgol], roedd yn rhaid bod meddygon yn darparu rhywbeth iddi ar gyfer ei spina bifida," ychwanegodd.

"I bob pwrpas, roedd 'na ddigon o bobl yn y gymuned, o ystyried ei chysylltiad cyn hynny, a allai o leiaf fod wedi dweud 'oes unrhyw un wedi siarad, gweld neu ymweld â Kaylea?'"

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd rheithgor fod yr amodau yn ystafell wely Kaylea "ddim yn addas ar gyfer anifail"

Dywedodd Mr Niven ei fod yn "cymryd nad oedd unrhyw un yn mynd i'r tŷ" yn ystod y pandemig ac "nad oedd neb yn gweld y plentyn hwn dan risg".

"Ar unrhyw bwynt, os oedd unrhyw asiantaeth a oedd yn nes at Kaylea fel yr heddlu, meddygon neu ei hysgol, gallent fod wedi cyfeirio unrhyw bryd at y gwasanaethau cymdeithasol, a 'dw i ddim yn credu eu bod wedi gwneud hynny.

"Efallai na fydd 'na berson penodol i'w feio fan hyn heblaw y rhieni, 'dw i ddim yn gwybod, ond yn sicr mae 'na dipyn i gael ei ddysgu.

"Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid inni gofio na all blant siarad ar ran eu hunain bob amser."

Bydd Alun Titford a Sarah Lloyd-Jones yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Mawrth.

Pynciau cysylltiedig