Cymru v Yr Alban mewn rhifau

  • Cyhoeddwyd
biggar v russellFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar 11 Chwefror bydd Cymru'n wynebu'r Alban yn Murrayfield yn ail rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023.

Yn dilyn y golled drom yn erbyn Iwerddon yn y rownd gyntaf, bydd carfan Warren Gatland yn gobeithio ymateb gyda pherfformiad gwell yn erbyn yr Albanwyr.

Dyma ambell ffaith am y ddau dîm dros y blynyddoedd.

Detholion y byd

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf, mae'r Alban wedi neidio dros Awstralia a Lloegr yn netholion y byd a bellach yn y pumed safle yn ôl yr IRB.

Mae Cymru ar y llaw arall yn y nawfed safle, rhwng Yr Ariannin sydd yn wythfed, a Japan sy'n 10fed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Duhan van der Merwe yn croesi am gais cofiwady yn Twickenham yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr (23-29), 4 Chwefror, 2023

Nifer o gapiau

Mae 1,137 o ddynion wedi cynrychioli'r Alban ers gêm ryngwladol gyntaf y wlad, a hynny yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth, 1871.

Mae 1,184 o chwaraewyr wedi cynrychioli Cymru ers gêm ryngwladol gyntaf tîm y dynion ym mis Chwefror, 1881 - hefyd yn erbyn Lloegr.

Y bachwr Ross Ford sydd wedi gwneud y mwyaf o ymddangosiadau dros Yr Alban - enillodd 110 cap rhwng 2004 a 2017.

Alun Wyn Jones, sydd dal yn y garfan genedlaethol, sydd â'r record capiau dros Gymru. Mae wedi ennill 156 o gapiau dros Gymru ers 2006, ac 12 cap dros y Llewod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ross Ford ac Alun Wyn Jones; y chwaraewyr sydd â record capiau'r ddwy wlad

Y gêm gyntaf

Yr Alban oedd yn fuddugol yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad o dair gôl i un, fel oedd y sgorio yr adeg hynny. Chwaraewyd y gêm yn Raeburn Place, Caeredin, ar 8 Ionawr, 1883.

Canlyniadau ben-ben

Mae Cymru a'r Alban wedi chwarae yn erbyn ei gilydd 128 gwaith, gyda 75 buddugoliaeth i Gymru, 50 i'r Alban, a thair gêm gyfartal.

Dros y gemau yna mae'r Alban wedi sgorio 1,373 o bwyntiau, a Chymru'n sgorio 1,778.

Daeth buddugoliaeth fwyaf Cymru dros Yr Alban yn 2014, pan enillodd y cochion 51-3 yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

George North yn sgorio yn y fuddugoliaeth swmpus yn erbyn Yr Alban, 15 Mawrth, 2014

Yn y 10 gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad fe enillodd Cymru dim ond unwaith, gyda un gêm gyfartal ac wyth buddugoliaeth i'r Alban.

Daeth rhediad orau'r Alban yn erbyn Cymru rhwng Chwefror 1923 ac 1927, gan ennill pum gêm yn olynol. Rhediad orau Cymru yn erbyn Yr Alban yw rhwng Chwefror 2008 a 2016 - naw buddugoliaeth yn olynol.

Ond mae record diweddar Cymru yn erbyn Yr Alban yn un arbennig. Yn y 21 gêm rhwng y ddwy wlad ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2003, mae Cymru wedi ennill 18 gwaith.

Record ddi-guro Gatland

Rhwng 2007 a 2019, pan oedd Gatland yn rheoli Cymru am y tro cyntaf, fe enillodd Warren Gatland yn erbyn Yr Alban ar bob achlysur.

Roedd un colled i Gymru yn y blynyddoedd hynny, yn 2017, ond Rob Howley oedd yn rheoli y garfan y flwyddyn honno gan fod Gatland yn hyfforddi'r Llewod ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gêm gartref gyntaf Warren Gatland yn y Chwe Gwlad, yn erbyn Yr Alban, 9 Chwefror, 2008. Enillodd Cymru 30-15 y diwrnod hwnnw gyda dau gais i Shane Williams, ac un i James Hook

Y dorf fwyaf

Roedd tîm Cymru'n dipyn o atyniad ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad 1975, gyda sêr fel Phil Bennett, Gareth Edwards, Mervyn Davies, JJ Williams a JPR Williams yn gwisgo coch.

Daeth 104,000 i Murrayfield ar 1 Mawrth y flwyddyn honno i weld Yr Alban yn ennill 12-10, ond Cymru enillodd y Bencampwriaeth y flwyddyn honno.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Gerald Davies yn chwarae yn y gêm ym Murrayfield o flaen 104,000 o bobl, 1 Mawrth, 1975

Roedd y dorf yn record byd ar gyfer gêm ryngwladol rygbi'r undeb, ac fe safodd y record tan i 107,042 o bobl wylio Awstralia yn erbyn Seland Newydd yn Sydney yn 1999.

Cic Paul Thorburn

Ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad 1986 fe dorodd Paul Thorburn record byd am y gic gosb hiraf yn hanes rygbi rhyngwladol.

Roedd y gic yn mesur 70 llath ac wyth modfedd a hanner (64.2m). Enillodd Cymru y gêm 22-15, ond y gic gan Thorburn y diwrnod hwnnw sy'n dueddol o aros yn cof, yn hytrach na'r canlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Cic anferthol Paul Thorburn yn erbyn Yr Alban, 1986

Hefyd o ddiddordeb: