10 mlynedd o garchar am ymosod gyda bwa croes yn Aberafan

  • Cyhoeddwyd
Adam CallandFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr hyn a wnaeth Adam Calland "yn anhygoel o beryglus" medd Heddlu De Cymru

Mae dyn lleol 51 oed wedi cael dedfryd hir o garchar am ymosod ar ddyn arall gyda bwa croes mewn digwyddiad y llynedd yn Sir Castell-nedd Port Talbot.

Fe gafodd Adam Calland ddedfryd o 10 mlynedd a hanner dan glo, a phum mlynedd dan drwydded, am achosi anaf yn fwriadol yn dilyn ymosodiad mewn fflat yn Aberafan.

Daeth yr heddlu o hyd i ddyn 32 oed yn gorwedd ar y llawr gydag anaf i'r frest, ar ôl cael eu galw i Heol Victoria yn ardal Sandfields y dref tua 18:45 nos Sadwrn 17 Medi 2022.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd Calland wedi saethu'r dioddefwr yn ei frest gyda bwa croes yn dilyn anghydfod ymysg unigolion yn y fflat.

Cafodd ei arestio'n fuan wedyn ar ôl cael ei ganfod tu allan i'r fflatiau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn fflatiau yn ardal Sandfields, Aberafan

"Roedd gweithredoedd Adam Calland yn anhygoel o beryglus ac yn creu risg i'r dioddefwr ei hun ac eraill oedd yn y fflat ar y pryd," dywedodd y Ditectif Sarjant Craig Earley.

"Roedd yn ymosodiad ciaidd ac mae'r dioddefwr yn dal i ddioddef o ganlyniad ei anafiadau."

Ychwanegodd bod dedfryd y llys "yn adlewyrchu difrifoldeb ei weithredoedd ac yn ei gwneud hi'n glir na fydd defnyddio arfau o unrhyw fath yn cael ei oddef yn ein cymunedau."

Pynciau cysylltiedig