Gollwng ymchwiliad heddlu wedi i fachgen golli ei fys
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi gollwng ymchwiliad i ymosodiad honedig lle collodd bachgen 11 oed ei fys.
Honnodd Raheem Bailey, disgybl yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ym Mlaenau Gwent, iddo ddal ei fys tra'n dringo ffens pan yn ceisio dianc rhag bwlis.
Dywed Heddlu Gwent eu bod yn cymryd adroddiadau o'r fath "o ddifrif", ond wedi naw mis mae'r ymchwiliad wedi dod i'r casgliad nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â'r anaf.
Dywedodd y llu eu bod wedi cyfarfod â theulu Raheem i'w hysbysu.
'Dim camau pellach'
Dywedodd mam Raheem, Shantal Bailey, fod criw o blant wedi ymosod ar ei mab ar 17 Mai gan ei gicio pan oedd ar y llawr.
Cafodd Raheem lawdriniaeth yn dilyn y digwyddiad, ond bu'n rhaid i feddygon dorri ei fys i ffwrdd.
Yn dilyn hynny fe wnaeth Ms Bailey sefydlu ymgyrch sydd bellach wedi codi dros £100,000, ac mae'r teulu yn edrych i'r posibilrwydd o osod prosthetig.
Disgrifiodd Heddlu Gwent yr ymchwiliad fel un "cymhleth", gan ychwanegu: "Mae swyddogion wedi cyfweld â nifer o bobl o dan rybudd, ac wedi archwilio lluniau teledu cylch cyfyng o'r ysgol.
"Canfu ein hymchwiliad fod Raheem wedi gadael tir yr ysgol o'i wirfodd, ac nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig ag ef yn dioddef yr anaf i'w law.
"Ar ôl cynnal ymchwiliad manwl a thrylwyr ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach."
Ychwanegodd Heddlu Gwent: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda thîm arweinyddiaeth yr ysgol a'r awdurdod lleol ac yn gwerthfawrogi eu cydweithrediad trwy'r ymchwiliad cymhleth hwn.
"Rydyn ni i gyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gadw plant yn ddiogel."
Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent fod eu meddyliau gyda Raheem a'i deulu ac eu bod yn comisiynu adolygiad annibynnol i nodi unrhyw wersi i wella'r ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022