Gwrthod cais i godi tai gwerth £500,000 yn Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae cais cynllunio i adeiladu tai fyddai'n costio dros hanner miliwn o bunnoedd yr un wedi ei wrthod gan gynghorwyr yng Ngwynedd.
Brynhawn Llun fe gyflwynwyd cais i adeiladu saith tŷ ar gyn-safle Eglwys Babyddol Santes Fair ym Morfa Nefyn.
Er bod dau dŷ fforddiadwy ynghlwm â'r cynllun, yn ôl y datblygwyr, argymhelliad swyddogion cynllunio oedd ei wrthod ar sail nad oedd yn ateb anghenion lleol a bod pryderon ynglŷn â'r effaith ar y Gymraeg.
Roedd Cyngor Tref Nefyn hefyd yn gwrthwynebu'r cynlluniau yn chwyrn, gan ddadlau na fyddai'r datblygiad yn ateb gofynion pobl leol ac nad yw'r safle'n addas.
Ond gwadu hynny wnaeth y datblygwyr, gan gyhuddo Cyngor Gwynedd o fod "ar ei hôl hi" gyda chynlluniau tai wrth sicrhau na fyddai'r saith tŷ yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi na llety gwyliau.
Cynlluniau diwygiedig
Fel rhan o'r cynllun i adeiladu saith annedd byddai dau ohonynt, sef cartrefi tair ystafell wely, yn cael eu marchnata fel tai fforddiadwy gwerth tua £140,000.
Diffiniad tŷ fforddiadwy yw annedd sy'n cael ei ddarparu, naill ai ar osod neu i'w brynu, am bris is na'i werth ar y farchnad agored at ddibenion anghenion lleol.
Ond codwyd pryderon am elfennau eraill o'r cynllun, gydag adroddiad y cyngor yn nodi bod disgwyl i dri o'r tai - gyda'r bwriad o'u gwerthu ar y farchnad agored - fod gwerth dros £500,000 yr un, gyda'r ddau arall gwerth tua £380,000.
Fe wrthodwyd cais tebyg i adeiladu chwe thŷ ar y safle yn 2021, dolen allanol yn dilyn pryderon bod y cynlluniau'n groes i bolisi, gyda'r Cynllun Datblygu Lleol yn dynodi mai ond tai fforddiadwy dylid eu hadeiladu mewn pentrefi arfordirol o'r fath.
Er i'r datblygwyr lansio apêl yn erbyn penderfyniad y cyngor, cefnogwyd y cynghorwyr gan arolygwyr cynllunio, gan hefyd nodi'r posibilrwydd o effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Commercial Development Projects Ltd, a gyflwynodd y cais, mae'r datblygiad gafodd ei wrthod y llynedd bellach wedi ei ddiwygio i geisio ateb rhai o'r pryderon, a nawr yn cynnwys dau dŷ fforddiadwy.
"Mae'r cymysgedd tai arfaethedig wedi'i ddiwygio i ddarparu dau annedd tair ystafell wely llai, sy'n adlewyrchu maint tai marchnad leol ac felly'n cyfyngu eu gwerth cyffredinol," dywedodd y datblygwyr.
Ychwanegon nhw, tra na fyddai'n hyfyw iddyn nhw ddatblygu cynllun gyfan gwbl fforddiadwy, y byddai natur marchnata'r tai yn cael ei ddylunio fel bod pobl leol yn cael y cyfle cyntaf i brynu'r tai marchnad agored.
Dywedon nhw "na fyddai disgwyl i'r cynnig gael effaith annerbyniol ar y Gymraeg".
'Tai fforddiadwy go iawn'
Ond yn ôl cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, nid oes gofyn am ddatblygiad o'r fath yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Roberts, sy'n byw yn y pentref: "Mae'n meddylfryd ni ynglŷn â'r cais yma yn union 'run fath ag oedd o pan gyflwynwyd y cais am y tro cynta'.
"Mae o'n gofyn am ganiatâd i godi tai ar y farchnad agored, sy'n bris allan o gyrraedd pobl leol mewn cyfnod lle mae pobl yn diodda' yn ariannol beth bynnag.
"Mae 'na broblem yn yr ardal yma efo ail gartrefi, sydd wedi bod yn amlwg iawn dros y blynyddoedd dwytha', a dydy hwn ddim am fod ddim lles i'r gymuned leol o gwbl.
"'Dan ni'n sôn am dai a phrisiau o leia' hanner miliwn arnyn nhw. Pwy sydd am fedru fforddio hynny? Mae pobl yn cael trafferth talu rhent a morgais fel ma' hi, felly dydyn nhw ddim am ddenu trigolion lleol.
"Mae 'na ddau dŷ fforddiadwy wedi eu taflu fewn fel rhyw fath o token gesture i drio lliniaru rhywfaint ar y cynllun, ond da' ni'm yn gweld yr angen am ddatblygiad fel hyn ym Morfa Nefyn."
£292,944 oedd y pris gwerthiant cyfartalog am dŷ ym Morfa Nefyn dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl gwefan Rightmove.
Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts y byddai'n well gan lawer o bobl leol weld y tir yn cael ei ddefnyddio i ehangu mynwent gyfagos.
"O ran tai yn yr ardal 'sa ni'n licio gweld tai fforddiadwy go iawn achos dydy tai sy'n cael eu disgrifio fel rhai fforddiadwy ddim wir yn fforddiadwy o gwbl," meddai.
"Tai â phrisiau teg arnyn nhw fysa'n addas ar gyfer trigolion Nefyn, Morfa Nefyn ac Edern da' ni isio'i weld."
'Ateb gofynion lleol'
Ond mewn llythyr yn ategu'r cais cynllunio, dywedodd arwerthwr tai o Wynedd y byddai'r cais yn ateb gofynion llawer o bobl leol am dai o'r fath yn yr ardal.
Yn y llythyr at Gyngor Gwynedd, dolen allanol dywedodd Dafydd Hardy: "Rydym yn credu y byddai galw lleol da am y math hwn o ddatblygiad gan ei fod yn caniatáu i brynwyr lleol allu symud i fyny o'u heiddo teras presennol am resymau teuluol.
"Mae'r plotiau'n hael o ran maint ac nid yw'r safle, yn ein barn ni, wedi'i or-ddatblygu.
"Rydym o'r farn bod galw lleol am gartrefi teuluol yn yr ardal ond nad oes cyflenwad o dai o'r fath ar hyn o bryd.
"Ym Mhenrhyndeudraeth cawsom gyfarwyddyd gan Brenig Homes i werthu pedwar tŷ sengl 4/5 ystafell wely ac rydym wedi gwerthu'r cyfan i brynwyr lleol o ardaloedd Porthmadog a'r Felinheli ac un i deulu oedd yn dychwelyd o Gaerdydd gan fod ganddynt deulu yn byw yn yr ardal.
"Rydym yn credu y byddai'r un senario yn digwydd yn ardal Morfa Nefyn. Byddem yn argymell ymgyrch farchnata leol am gyfnod o dri mis cyn rhyddhau i'r farchnad genedlaethol."
'Cyngor Gwynedd ar ei hôl hi'
Ceisiodd y datblygwyr gynnig sicrwydd na fyddai'r saith tŷ yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau nag ail gartrefi, gan gyhuddo Cyngor Gwynedd o fod "ar ei hôl hi" gyda chynlluniau tai.
"Rydym yn darparu 30% o dai fforddiadwy ar y cynllun, sydd deirgwaith yn fwy na'r hyn sy'n ofynnol gan bolisi cynllunio, ac ar golled ariannol o wneud hynny," meddai Commercial Development Projects Ltd.
"Nid yw'r cyflenwad o dai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy [ym Morfa Nefyn] wedi cadw i fyny â'r galw yng Ngwynedd ac yn arbennig ym Mhen Llŷn.
"Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol wedi nodi'r angen am 707 o dai fforddiadwy ychwanegol yn flynyddol dros gyfnod y cynllun (2018-2023).
"Bydd parhau i wrthod cynlluniau tai newydd a chytbwys o fewn y ffin ddatblygu ond yn gwaethygu'r sefyllfa o ran prinder a phrisiau tai, ac yn prisio pobl leol allan o'r farchnad ymhellach."
'Abersoch arall'
Ond yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio brynhawn Llun fe wrthodwyd y cais yn unfrydol.
Cyfeiriodd swyddogion at farn uned iaith y cyngor y byddai gwerth y tai "yn sylweddol fwy na'r hyn all ei fforddio ar gyfartaledd incwm yr ardal", gyda'r cais yn methu ag ateb gofynion polisi.
Er gwaethaf dadleuon y datblygwyr na fyddai datblygiad gyda mwy o dai fforddiadwy yn hyfyw yn ariannol, gofyn i aelodau wrthod y cais wnaeth y cynghorydd sir lleol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Tudor Jones: "Clwt o dir bychain llai na acer i gyd ydy hwn, dydy o ddim yn addas ar gyfer saith o dai sylweddol, drudfawr hefo gardd pob un, drives a lle parcio i ddau a mwy o geir ar gyfer pob tŷ.
"Dyma or-ddatblygiad os bu un erioed, does ddim galw am bump o dai marchnad agored fydd yn costio £400,000, £500,000, mae'r cais yn groes i bolisi gan mai tai fforddiadwy yn unig a ganiateir gan fod gormodedd o dai marchnad agored ym Morfa Nefyn eisoes.
"Fyddai neb lleol yn gallu prynu'r tai a does na neb am weld Morfa yn troi yn Abersoch arall, yn cul-de-sac o stadau tai a'r tai hynny yn wag am hanner y flwyddyn.
"Mae galw am dai yn lleol ond ddim am y prisiau yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022