Athrawon i streicio ar ôl gwrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
AthrawesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) wedi gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru, a bydd aelodau yn streicio fis nesaf.

Yn dilyn cyfarfod nos Fawrth, dywedodd cyd-ysgrifennydd cyffredinol NEU bod y cynnig "ddim yn ddigon da".

"Nid yw'n mynd i'r afael gyda'r argyfwng costau byw, chwyddiant cynyddol, na'r difrod i gyflogau ers 2010," meddai Kevin Courtney.

Cynnig y Llywodraeth oedd cynnydd o 1.5% ar ben y 5% gwreiddiol mewn cyflogau, yn ogystal â thaliad untro o 1.5%.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y cynnig yn "un cryf", gan annog aelodau i gytuno i'r telerau erbyn canol mis Mawrth os ydyn nhw am elwa yn llawn ar y cynnig.

Cafodd y streic ar 14 Chwefror ei ohirio tra bod yr undeb yn ymgynghori gyda'i aelodau yng Nghymru.

Ond bydd yn cael ei aildrefnu ar gyfer 2 Mawrth mewn ysgolion ar draws Cymru. Mae streiciau hefyd wedi'u trefnu ar gyfer 15 a 16 Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kevin Courtney nad oedd cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru yn ddigon da

Ychwanegodd Mr Courtney: "Rydym wedi diolch i'r Gweinidog am fod yn barod i drafod gyda ni, mewn cyferbyniad llwyr i Lywodraeth San Steffan."

Dywedodd ysgrifennydd NEU Cymru, David Evans: "Mae NEU Cymru wedi ymroi i ddarganfod datrysiad i'r anghydfod hwn ar ran aelodau sy'n athrawon a staff cymorth ar draw Cymru.

"Mae ein gofynion wedi bod yn glir, a byddwn yn cwrdd gyda'r gweinidog a'i swyddogion mor aml ag sydd angen er mwyn sicrhau bargen fydd yn datrys pob mater."

'Angen cytundeb erbyn canol Mawrth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pawb yn cydnabod gwaith rhagorol ein gweithlu, ond maen nhw hefyd yn cydnabod y cyfyngiadau ariannol heriol yr ydym yn gweithredu ynddynt.

"Credwn fod cynnig sy'n cyfateb i godiad cyflog o 8%, gyda 6.5% wedi'i gyfuno, yn un cryf yn y cyd-destun cyllideb sy'n lleihau gan Lywodraeth Cymru.

"Er mwyn i athrawon allu elwa o godiad cyflog ychwanegol wedi'i ôl-ddyddio ar gyfer 2022-23 bydd angen cytundeb erbyn canol mis Mawrth.

"Rydym yn awyddus i barhau i gael trafodaethau gyda phartneriaid er mwyn gwneud cynnydd ar frys."