Dyn yn osgoi carchar wedi gwrthdrawiad laddodd dynes, 65

  • Cyhoeddwyd
Judith Ann PenningtonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gŵr Judith Pennington mai hi oedd ei "bopeth - fy ngwraig, fy ffrind gorau, fy mywyd"

Mae dyn ifanc wedi osgoi cyfnod o garchar am ei ran mewn gwrthdrawiad ble bu farw dynes 65 oed ar Ynys Môn.

Bu farw Judith Pennington, o Lannerch-y-medd, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar 25 Chwefror 2022.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd Stephen Whitehead, 22, o Gaergybi, ddedfryd o 42 wythnos, wedi'i ohirio am 18 mis.

Roedd wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus oherwydd amodau.

Clywodd y llys fod Whitehead wedi bod yn gyrru cerbyd gyda threlar y tu ôl iddo pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ond nad oedd ganddo'r drwydded gywir oedd yn caniatâu iddo wneud hynny.

'Judith yn bopeth i mi'

Bu farw Judith Pennington yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar y B5111 rhwng Llannerch-y-medd a Choedana.

Roedd ei char, Peugeot 208, a'r Nissan Nivara gyda threlar y tu ôl iddo oedd yn cael ei yrru gan Whitehead, wedi taro'n erbyn ei gilydd.

Yn dilyn ymchwiliad cafodd Whitehead ei gyhuddo o droseddau gyrru'n beryglus, oherwydd cyflwr y trelar.

Dywedodd yr heddlu nad oedd brêcs gweithredol ar y cerbyd hwnnw, ac mai trelar ar gyfer cael ei dynnu gan dractor amaethyddol oedd hi yn unig.

Doedd gan Whitehead ddim chwaith y drwydded gywir i'w thynnu, a doedd dim ail gyplydd i gadw'r trelar yn sownd petai'r un cyntaf yn dod yn rhydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerbyd Nissan Stephen Whitehead yn tynnu'r trelar hwn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

"Mae'n hanfodol bod gyrwyr sy'n towio yn ymwybodol mai eu cyfrifoldeb nhw ydy sicrhau bod eu cerbyd yn saff i fod ar y ffordd cyn dechrau eu taith, a bod ganddyn nhw drwydded yn y categori cywir," meddai'r Sarsiant Meurig Jones o Undeb Plismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd.

Yn ogystal â'r ddedfryd ohiriedig, mae Whitehead hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, a bydd yn rhaid iddo hefyd wneud 15 diwrnod o waith adfer, a 50 awr o waith di-dâl.

Mewn datganiad yn dilyn y ddedfryd dywedodd gŵr Mrs Pennington, Richard, fod Judith yn "bopeth - fy ngwraig, fy ffrind gorau, fy mywyd".

"Rydyn ni'n ei methu hi a'i hysbryd positif yn fwy nag y gall geiriau ddisgrifio," meddai.

Ychwanegodd na fyddai unrhyw ddedfryd yn "dod yn agos at lenwi'r twll mawr sydd wedi ei adael yn fy mywyd".

"Ond mae'n dod â'r peth i derfyn i mi, i geisio rhoi hyn oll y tu cefn i mi a byw bywyd yn y ffordd y byddai Jude wedi bod eisiau i mi wneud."

Pynciau cysylltiedig