Cwpan Pinatar: Yr Alban 1-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Jess Fishlock gap rhif 139 dros ei gwlad

Mae ymygyrch Cymru yng Nghwpan Pinatar wedi gorffen gyda gêm gyfartal yn erbyn eu cefndryd Celtaidd.

Aeth yr Alban ar y blaen wedi peniad Sophie Howard o gic gornel ar ôl wyth munud yn ne-ddwyrain Sbaen.

Ond er y dylai'r Alban fod wedi mynd ymhellach ar y blaen, tarodd Cymru'n ôl yn erbyn rhediad y chwarae gyda Ceri Holland yn manteisio ar bas hyfryd gan Jess Fishlock wedi 42 munud.

Cyn yr hanner, serch hynny, bu'n rhaid i Fiona Brown adael y maes wedi'i hanafu yn dilyn gwrthdrawiad gyda Jess Fishlock.

Roedd yr ail hanner lawer mwy agored gyda chyfleodd i'r ddau dîm, ond doedd dim mwy o goliau i ddod wrth i'r gêm ddarbi orffen yn gyfartal.

Bydd y sylw nawr y troi at yr un gêm sy'n weddill rhwng Gwlad yr Iâ a'r Philippines i ddarganfod pwy fydd yn codi'r tlws.