Chwe Gwlad: Disgwyl penderfyniad ar gêm Cymru-Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud ddydd Mercher a fydd gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad yn mynd yn ei blaen.
Wrth i'r ffrae am gytundebau barhau, mae chwaraewyr rygbi Cymru wedi rhoi tan 22 Chwefror i Undeb Rygbi Cymru (URC) ddatrys yr anghydfod.
Maen nhw wedi bygwth gwrthod chwarae yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Dywedodd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles y gallai gohirio neu ganslo'r gêm fod yn "ddechrau diwedd" URC.
"Mae rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ar groesffordd," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher.
"Mae delwedd Rygbi Cymru wedi cael ei sarnu fel ma'i dros y misoedd diwethaf, ond petai'r gêm yma ddim yn cael ei chwarae, i mi dyma ddechrau diwedd Undeb Rygbi Cymru.
"Mae sylw'r byd rygbi arnyn nhw ac mae sylw'r byd yn gyffredinol arnyn nhw."
Wynebu colli £12m?
Hefyd ar y rhaglen rhybuddiodd Huw Jones - cyn-bennaeth Chwaraeon Cymru ac aelod o Ymddiriedolaeth Rygbi CF10, corff annibynnol sy'n cynrychioli clybiau Caerdydd - am yr oblygiadau ariannol os na fydd y gêm yn cael ei chwarae.
"Ar y funud 'dan ni 'di gweld yr undeb yn colli rhyw £1.5m ar ôl diswyddo Wayne Pivac ac arwyddo Warren Gatland," meddai.
"Mi fyddan ni wedi colli arian ar ôl colli'r ddwy gêm gyntaf o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Hefyd, 'w'rach y bydd URC yn cael dirwy gan bwyllgor y Chwe Gwlad os na fyddai'r gêm yn mynd yn ei blaen.
"Felly byddai'n hawdd gweld ni'n colli rhywbeth fel £12m, yn hawdd, ac mae hynny yn mynd i effeithio ar bopeth, a fydd y gêm yn cael ei rheoli, os ydan ni'n lwcus, gan fanc NatWest."
Ddydd Mawrth, fe ddywedodd Warren Gatland ei fod yn "hyderus" y bydd y gêm yn mynd yn ei blaen ac y bydd "datrysiad" yn dilyn trafodaethau.
Roedd Gatland wedi gohirio cyhoeddi'r tîm ar gyfer y gêm oherwydd "diffyg eglurder y sefyllfa".
Ond dywedodd ei fod yn clywed "pethau positif" gan chwaraewyr a staff URC ynghylch parhau â'r gêm ddydd Sadwrn.
Ar hyn o bryd, mae gan hyd at 70 o chwaraewyr yng Nghymru gytundebau sy'n dod i ben ddiwedd y tymor, ac felly dydyn nhw ddim yn gwybod a fydd ganddyn nhw swydd wedi mis Mehefin.
Mae URC yn dweud eu bod wrthi'n ffurfio cytundebau ariannol gyda'r pedwar rhanbarth - Y Dreigiau, Caerdydd, Gweilch a'r Scarlets.
Dechreuodd y trafodaethau ym mis Ionawr 2022, a rhoddodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol sêl bendith i gytundeb ariannol chwe blynedd rhwng URC a'r rhanbarthau fis Rhagfyr, ond dyw'r cytundeb ddim wedi'i arwyddo hyd yma.
Heb gytundeb cadarn dyw'r rhanbarthau ddim yn gallu ffurfio cytundebau gyda chwaraewyr - ac fe allai rhai fod yn ddi-waith mewn rhai misoedd.
Mae'r chwaraewyr hefyd yn galw am gynrychiolaeth mewn cyfarfodydd o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) yn ogystal â chael gwared ar y rheol 60 cap.
Mae hynny'n golygu na fydd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 o gapiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023