75,000 o gleifion allanol yn disgwyl am apwyntiad
- Cyhoeddwyd
Dyw aros am apwyntiad ysbyty ddim yn brofiad newydd i Bethan Jenkins o Aberdâr.
Bu'n rhaid iddi aros deng mlynedd i gael diagnosis a thriniaeth endometriosis.
Wedi cael triniaeth breifat mae hi bellach yn gorfod aros am o leiaf chwech mis am ffisiotherapi ar y gwasanaeth iechyd.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 74,976 o bobl yng Nghymru yn aros am flwyddyn neu ddwy am apwyntiad claf allanol.
Nod Llywodraeth Cymru oedd na fyddai neb yn aros am apwyntiad allanol ar ddiwedd 2022 wedi Covid ac wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd llefarydd eu "bod yn siomedig nad yw eu targed uchelgeisiol wedi'i gyflawni".
Ond mae amseroedd ymateb ambiwlansys, ffigyrau oedi wrth drosglwyddo ac amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwella o'r lefelau isaf erioed a welwyd yn ystod y mis blaenorol.
Mae'r niferoedd sy'n aros am driniaeth ysbyty hefyd wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol.
'Methiant diymwad'
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r ffigyrau fel "methiant nad oes modd ei wadu".
Mae'r ffigyrau yn ymdrin â chyfnod o gweithredu diwydiannol gan nyrsys yn ystod Rhagfyr 2022 a gweithwyr ambiwlans yn Ionawr eleni.
O ganlyniad gwelwyd gostyngiad o bron i chwarter yn nifer y galwadau 999 dyddiol.
Roedd yna welliant yn yr ymateb i 'alwadau coch' i'r gwasanaeth ambiwlans wrth i 48.9% gael eu hateb o fewn wyth munud - sef 9.4% yn uwch na'r mis blaenorol.
Roed hyn dal yn waeth na ffigyrau cyffelyb 2022 ac yn is na'r targed o 65%.
Bu gostyngiad hefyd yn y niferoedd a ddaeth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod Ionawr er bod y niferoedd yn dal i fod ymhell o gyrraedd y targedau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedden ni'n gwybod y byddai hyn yn heriol, ond roedden ni eisiau gweld ymdrech â ffocws gwirioneddol gan fyrddau iechyd.
"Rydym yn siomedig nad yw'r targed uchelgeisiol hwn, na chafodd ei osod yn Lloegr, wedi'i gyrraedd."
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r llywodraeth yn parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar y rhai sy'n aros hiraf, ar ôl i'r achosion brys gael eu trin.
Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George AS: "Mae methu'r targed o ddim cleifion yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd y flwyddyn yn un peth, ond mae methu'r targed o ddegau o filoedd yn fethiant na ellir ei wadu."
Perfformiad canser wedi gwaethygu
Y nod yw bod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ond ffigwr Ionawr oedd 69.9%.
Yn yr un mis arhosodd bron i 9,000 o bobl 12 awr neu fwy cyn cael triniaeth.
Bu cwymp bychain yn y niferoedd oedd yn aros i ddechrau triniaeth - i 735,000.
Mae'r ffigyrau perfformiad canser wedi gwaethygu.
Dechreuodd llai o bobl eu triniaeth gyntaf ym mis Rhagfyr na'r mis blaenorol, a gostyngodd y nifer oedd wedi cael gwybod eu bod yn glir o ganser hefyd.
Syrthio hefyd wnaeth y perfformiad yn erbyn y targedau 62 diwrnod hefyd i'r ail isaf ar gofnod, sef 52.9%.
'Teimlo fel bod dim blaenoriaeth i'w hiechyd'
Wrth i Bethan Jenkins aros am driniaeth mae'n gorfod cymryd poen laddwyr cryf pan fo'r boen ar ei gwaethaf.
"Yn feddyliol, pan mae pobl yn gorfod aros mae nhw'n teimlo fel bod dim blaenoriaeth i'w hiechyd ac i'w poen nhw," meddai.
"Fi wedi teimlo ar adegau bod y doctor yn meddwl bod fi'n gwneud ffys dros ddim byd a ti'n dechrau amau symptomau dy hunan wedyn a mae hwnna'n ofnadwy."
Ychwanegodd: "Mae'n debygol iawn byddai'n gorfod cael sawl llawdriniaeth am weddill fy oes ond os dwi'n gallu cael y ffisiotherapi yma, yna o leiaf byddai'n gallu byw fy mywyd o ddydd i ddydd yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023