Yr her - a’r freuddwyd - o fyw drwy’r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Byw eich bywyd gyfangwbl yn Gymraeg... 'Y ddelfryd' meddai rhai. 'Cwbl amhosib', medd eraill.
Ond dyna'r her mae Rhys Parry wedi ei gosod iddo'i hun. Yn wreiddiol o Fwcle yn Sir y Fflint, a bellach yn byw ym Metws Gwerful Goch yn Sir Ddinbych, mae'r 'Clwydian i'r core' yn ceisio dechrau bob sgwrs yn Gymraeg yn 2023 er mwyn dechrau trafodaeth am yr iaith.
Ac os yw'n methu, neu'n anghofio? Mae'n cyfrannu £1 i elusen ganser y brostad - achos arall sy'n agos at ei galon.
Cafodd Rhys sgwrs gydag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am ei benderfyniad i orfodi ei hun i siarad y Gymraeg yn ei her 'Tin Iawn?'.
'Hanner Cymro'
Marwolaeth ei ewythr, Adrian Parry, pan oedd Rhys yn byw yn Awstralia oedd yr ysgogiad mewn ffordd.
Eglura: "O'n i wrth fy modd yn byw yn Awstralia ond pan ddaeth y Cyfnod Clo, teimlais i braidd yn locked in yna. A 'nath fy yncl farw o ganser y brostad pan o'n i yna, a dwi'n cofio eistedd ar step ar Bondi Beach yn trio gwylio'r funeral ar y ffôn, ac o'n i fel 'Na, bydd rhaid i rywbeth newid rŵan'."
Pan ddychwelodd i Gymru, penderfynodd fynd ati i geisio gwireddu breuddwyd o fyw'n gyfangwbl drwy'r Gymraeg - un roedd wedi ei chael ers ei fod yn ifanc.
"Pan o'n i'n tyfu fyny, ni theimlais i ddigon Cymraeg; o'dd o'n galed byw mewn ardal rili Saesnig, ond yr un pryd, eisiau siarad yr iaith drwy'r amser. Os oedd rhywun yn gofyn cwestiynau am yr iaith, o'n i'n gallu ateb. Ond doedd o ddim yn gwestiwn o wybodaeth, oedd o'n gwestiwn o hyder.
"Oedd 'na wastad teimlad 'dwi jyst ddim digon'. O'n i hanner Cymro a dweud y gwir."
'Rhaid i bopeth newid'
Ieithydd ydi Rhys a astudiodd Eidaleg a Ffrangeg yn y brifysgol, a sydd hefyd yn siarad Sbaeneg ac Almaeneg. Fodd bynnag, doedd o ddim digon cyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg; iaith mae wedi bod yn ei dysgu a'i siarad ers llawer hirach.
Ond ar ôl dychwelyd o Awstralia, a gweld y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad, dyna pryd roedd "rhaid i bopeth newid", meddai, a dyna pryd y gosododd her iddo'i hun.
"Eleni, wna i her i fyw'r holl flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg; cychwyn bob sgwrs yn Gymraeg, gweithio yn Gymraeg, addoli yn Gymraeg, mynd i siopa yn Gymraeg, sgwrsio efo'n ffrindiau i yn Gymraeg, i ddarllen yn unig yn Gymraeg, i wylio yn unig yn Gymraeg. Achos dyna'r unig ffordd i fod yn llwyddiannus ydi i drochi ac i gael yr iaith i fyw.
"Os dwi ddim yn cychwyn bob sgwrs yn Gymraeg, bydd rhaid i mi dalu £1 i gronfa i godi arian i ganser y brostad."
Dod dros sgwrs lletchwith
Ond pam her yn ymwneud â'r Gymraeg a chanser y brostad? Maen nhw'n bynciau tebycach na fyddech chi'n ei feddwl, meddai Rhys.
"Dydyn ni ddim yn siarad am ganser y brostad achos ei fod o bach yn lletchwith. A dydyn ni ddim yn dechrau bob sgwrs yn Gymraeg, hyd yn oed os ydyn ni'n Gymry Cymraeg, rhag ofn bod rhywun yn teimlo'n rhy anghyfforddus.
"Felly beth am gael sgwrs am y ffaith bod nhw lletchwith. Ac os ydyn ni'n gwneud y pethau lletchwith, 'da ni'n ennill, a bydd rhaid i ni wneud rhywbeth yn wahanol i greu canlyniad gwahanol."
A sut ymateb mae wedi ei chael wrth ddod dros y teimlad lletchwith honno, a mynnu dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid yn Gymraeg?
"Rŵan dwi'n byw yn Betws Gwerful Goch, a phan ddes i yna, o'n i'n disgwyl pentref bach o Gymry Cymraeg, yn siarad Cymraeg drwy'r amser. A welis i un o fy nghymdogion i draws y cae, a dweud 'Helo, Rhys dwi', a fo'n deud 'No, we don't speak that language'.
"Es i i'r siop a gofyn 'oes gennych chi gopi o'r Cymro yma?', a 'nath y ddynes roi smirk i fi... Dyna'r profiad dwi'n wynebu weithiau.
"Ond ar yr un pryd, dwi 'di cwrdd â llwyth o bobl ffantastig a phan ti'n cychwyn bob sgwrs yn Gymraeg, mae pobl, yn gyffredinol, yn ymateb a dweud 'mond dysgwr ydw i' neu 'o'dd gen i ddim syniad bo' ti'n siarad Cymraeg'.
"Es i i le dros y ffin, a nes i anghofio mod i'n Lloegr, a dechrau sgwrsio yn Gymraeg, a'r ymateb oedd 'Esgob mawr!'... ac o'dd hi o Bwllheli!"
'Dim ond dysgwr...'
Ag yntau wedi astudio llawer o ieithoedd dros y blynyddoedd, mae Rhys yn ymwybodol mai nid drwy astudio gwerslyfr mewn ystafell ddosbarth y mae dysgu iaith, ond drwy ei defnyddio a'i hymarfer.
Mae'n teimlo fod rhai pobl yn gyndyn o ddefnyddio iaith os nad ydyn nhw'n rhugl ynddi, ond mae'n rhaid cael gwared ar y ffordd yna o feddwl, meddai.
"Dwi byth yn fy mhrofiad o ddysgu Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg, Almaeneg wedi dweud wrtha fi fy hun 'rŵan dwi di cyrraedd y pwynt lle dwi'n rhugl - llongyfarchiadau i fi!' Dydi o ddim yn digwydd.
"'Da ni i gyd yn siaradwyr. Yn Seland Newydd, mae pawb yn gallu siarad o leiaf tipyn bach o Māori, mae pawb yn gallu dweud Kia Ora. Yng Nghymru mae 'na bach o tabŵ; mae pobl yn dweud 'dwi ddim rili'n gallu siarad yr iaith, ond liciwn i'.
"Ond does neb yn ddi-Gymraeg; gall pawb ddweud 'Araf', neu enwau llefydd, neu 'dwi'n hoffi coffi'..."
Gwneud y cam cyntaf
Mae Rhys wedi bod wrthi ar ei her ers bron i ddeufis bellach, ac yn parhau'n frwdfrydig. Mae'n codi arian er cof am ei ewythr, drwy ei gamgymeriadau ei hun a rhoddion gan eraill, ac wrth ei fodd, meddai, yn ceisio byw ei fywyd drwy'r Gymraeg.
"Mae o'n ffantastig. Bydd pobl yn dy synnu di os ti jest yn penderfynu gwneud y cam cyntaf i gychwyn y sgwrs.
"Weithiau, ydi mae o'n anghyfforddus. A weithiau, ydi, mae o bach yn lletchwith. Ond 'da ni ddim yn iwsio iaith academig, 'da ni angen iaith sy'n fyw.
"Mae'r iaith yn fyw os 'da ni'n ei ddefnyddio fo, ac mae'n perthyn i ni i gyd."
Gallwch ddilyn her Rhys ar dudalen Instagram Tin Iawn?, dolen allanol