Cymru yn 'sefyll ochr yn ochr â phobl Wcráin'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yng Nghymru wedi cynnal munud o dawelwch i nodi blwyddyn union ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin.
Yn ystod deuddeg mis o dywallt gwaed ers i luoedd Rwsia ymosod ar y wlad, mae miloedd o filwyr a phobl gyffredin wedi eu lladd.
Wrth i gartrefi gael eu chwalu mae miloedd wedi'u gorfodi i adael eu gwlad i ddarganfod noddfa diogel dramor.
Yng Nghymru cafodd digwyddiadau eu trefnu yn Wrecsam, Aberystwyth a Chaerfyrddin ymhlith lleoedd eraill.
Mewn neges fore Gwener dywedodd Llywodraeth Cymru fod "Cymru yn sefyll ochr yn ochr â phobl Wcráin."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn Kyiv, roedd yna araith gan yr Arlywydd Zelensky cyn cyflwyno gwobrau milwrol i deuluoedd y rhai sydd wedi eu lladd yn y brwydro.
Dywedodd y byddai Wcráin yn gwneud popeth i sicrhau buddugoliaeth eleni.
Daw wrth i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd gefnogi cynnig yn condemnio ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Yn galw am dynnu milwyr allan o Wcráin a rhoi'r gorau i ymladd, cefnogwyd y cynnig gan 141 o wledydd gyda 32 yn ymatal a saith - gan gynnwys Rwsia - yn pleidleisio yn erbyn.
'Fel yr Ail Ryfel Byd'
Yn ôl y newyddiadurwr Iolo ap Dafydd, sydd wedi treulio'r diwrnodau diwethaf yn Wcráin, mae'r ymladd yn parhau i fod yn ffyrnig iawn mewn rhai ardaloedd o ddwyrain y wlad.
"Fel Bakhmut, sydd agosaf i lle ydw i bore 'ma, neu Vuhledar lawr yn y de lle roeddwn i ddeuddydd yn ôl, yn fanno mae hi'n rhyfel dwys," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Mae artillery, tanciau a dynion yn agos i'w gilydd yn tanio, yn rhyfel draddodiadol.
"Yn llefydd eraill, trefi efallai 20 milltir i ffwrdd o'r ymladd, yn rhyfeddol mae bywyd yn cario yn ei flaen.
"O'n i'n gyrru drwy rai trefi ac roedd fel petai doedd y rhyfel heb gyffwrdd... ond ar hyd y llinell flaen mae hi fel yr Ail Ryfel Byd neu'r Rhyfel Byd Cyntaf a phobol yn swatio mewn ffosydd."
Ychwanegodd, "Be' dwi'n gael o siarad hefo milwyr a dynion sy'n gweithio yma ydi does ddim dewis, mae'n nhw'n teimlo fod nhw'n gorfod ymladd.
"Y rheswm pam mae [yr Arlywydd] Zelensky yn gofyn am arfau mwy cyfoes, mwy modern, ydi achos o be dwi wedi'i weld faint o hen arfau, gynnau, tanciau, cerbydau o'r cyfnod Sofietaidd mae Wcráin yn eu defnyddio.
"Da chi'n teimlo'r rhwystredigaeth yma pan fod nhw'n trio ymladd yn erbyn milwyr Rwsia sy'n fwy niferus, ac mae nhw'n teimlo fod hynny'n llesteirio'r ffordd mae nhw'n ceisio amddiffyn Wcráin."
'Y pris yn ormod'
Dywedodd Dr Brieg Powell, sy'n uwch ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerwysg, fod gan Volodymyr Zelensky "gefnogaeth gref" gan bobl a lluoedd arfog ei wlad.
"Mae cymaint yn dibynnu ar allu Rwsia i barhau i ymosod," meddai.
"Os nad yw Wcráin yn mynd i beidio ymladd - a dwi ddim yn gweld eu bod yn mynd i wneud - y cwestiwn yw pa mor hir mae Rwsia am allu parhau.
"Be da ni'n gallu clywed a gweld yw bod arweinyddiaeth Rwsia yn dal i sôn am ddiddymu Wcráin fel cenedl.
"Bwriad gwreiddiol Rwsia oedd cipio'r wlad yn ei chyfanrwydd ond blwyddyn wedyn mae nhw'n dal i straffaglu i gipio rhanbarth o'r wlad, y Dombas, oedd eisoes yn cynnwys miloedd o'u milwyr nhw.
"Mae Rwsia eisoes wedi dioddef colledion erchyll, yn y degau os nad y cannoedd o filoedd, ac mae offer Rwsia wedi dirywio cryn dipyn yn ei ansawdd, yn ôl i'r 50au.
"Fe fydd na bwynt, fel unrhyw ryfel, pan mae'r pris yn ormod, un ai i Wcráin neu Rwsia."
'Blwyddyn waedlyd'
Mae Gareth Roberts o Drawsfynydd â chysylltiadau agos gyda Wcráin, ac wedi treulio cyfnodau yn byw yn y wlad.
Wrth ddisgrifio y flwyddyn ddiwethaf fel "un waedlyd a digalon", dywedodd nad yw'r ymateb wedi bod yn ddigon cyflym.
"Mae'r ofn yn y wlad yn rhywbeth normal rŵan, mae pobl yn mynd i'r seler pan mae'r siren yn canu. Mae hyn yn digwydd pob dydd mwy na lai.
"Mae'r pobl isho ennill y rhyfel yma a rhaid i ni wneud ein gorau glas i gefnogi nhw, gwneud yn siŵr fod yr arfau ganddyn nhw.
"Da ni di bod yn rhy araf."
'Rhaid i Wcráin ennill'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies AS, fod Vladimir Putin eisiau dychwelyd i "ddyddiau'r Undeb Sofietaidd" a bod yn rhaid amddiffyn Wcráin a gweddill dwyrain Ewrop.
"Mae Llywodraeth y DU wedi arfogi llywodraeth Wcráin ers cyn ddechrau'r rhyfel ac hyfforddi aelodau o'u byddin," meddai.
"Da ni wedi penderfynu darparu tanciau ac mae'n edrych fel fod y llywodraeth yn symud tuag at weithio gyda gwledydd eraill i sicrhau fod Wcráin yn cael beth mae nhw angen.
"Mae'n bwysig fod Wcrain yn ennill, allwn ddim caniatáu i Russian aggression ennill yn Ewrop, felly mae llywodraeth ni yn benderfynol i wneud beth bynnag sy'n rhaid ei wneud fel fod Wcráin yn ennill."
Galw am heddwch
Ond mae Cymdeithas y Cymod yn galw eto am gymod a chreu heddwch hir dymor yn Wcráin.
"Tristwch ydi'r teimlad mwyaf a rhwystredigaeth o gael ein tynnu i ganol y gyflafan, mae ymosodiad Putin yn gywilydd rhyngwladol," meddai Anna Jane Evans o'r Gymdeithas.
"Ond mae cynnal munud o dawelwch tra 'dan ni'n gwybod fod na sŵn saethu a bomio yn digwydd yn gwbl ddi-ystyr os nad ydan ni ar yr un pryd yn galw am gadoediad ac yn dod a pobl at y bwrdd i drafod.
"Mae pob rhyfel wedi dod i ben gyda phobl yn dod i eistedd lawr a thrafod, ond mae gwledydd y gorllewin a ni yn arbennig fel petai ni'n benderfynol o barhau'r rhyfel mor hir a fedrwn ni ac arfogi ac arfogi.
"Does ddim ffasiwn beth ac ennill rhyfel, mae pob arf yn mynd i ladd mwy o bobl a dinistrio mwy o adeiladau a chreu mwy o gyflafan yn Wcráin.
"Mae'n rhaid i Zelensky a Putin ddod at y bwrdd ac mae'n rhaid i arweinwyr y byd wneud i hynny ddigwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023