Traean ysmygwyr ifanc wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Ysmygwyr ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arolwg, mae 32% o blant 11-16 oed sy'n ysmygu yn barod wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon

Mae traean ysmygwyr ifanc Cymru wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon rhad, yn ôl arolwg newydd.

Wrth lansio ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol, dywedodd elusen ASH Cymru bod hon yn "broblem sylweddol" sy'n magu dibyniaeth nicotin ymhlith pobl yn eu harddegau.

Maen nhw'n galw ar gymunedau i roi gwybod i'r awdurdodau ble mae'r cynnyrch anghyfreithlon - sy'n 10% o'r holl dybaco ar y farchnad yng Nghymru - yn cael ei werthu.

Er bod llai o bobl yn ysmygu bellach, mae'n parhau i achosi mwy o farwolaethau y gellid eu hosgoi nag unrhyw ffactor arall, meddai swyddogion iechyd.

Beth ydy tybaco anghyfreithlon?

Mae diffiniad yr awdurdodau o beth ydy tybaco anghyfreithlon yn cwmpasu sawl math gwahanol o gynnyrch.

Yn eu plith mae sigaréts ffug mewn pecynnau sy'n edrych fel rhai go iawn; cheap whites, sef sigaréts wedi eu cynhyrchu'n rhad dramor; a thybaco go iawn sydd wedi ei smyglo i'r Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cynnig sigaréts rhad yn awgrymu eu bod yn anghyfreithlon, medd Roger Mapelson

"Os ydy rhywun yn cynnig sigaréts i chi am £4, £5 neu £6 am 20, yna mae'n anghyfreithlon - mae hi mor syml â hynny," meddai Roger Mapelson, sy'n arwain gwaith Safonau Masnach Cymru ar dybaco anghyfreithlon.

"Mae pob math o ffordd o ddod o hyd i dybaco anghyfreithlon, ond i bob pwrpas mae o i'w gael yn yr economi anffurfiol - y farchnad lwyd.

"Hynny ydy, o dan y cownter mewn siopau pob dim, yn newid dwylo yn y gweithle neu'r dafarn, ac wrth gwrs mae'r we yn chwarae ei ran ac mae 'na hysbysebion am dybaco ar y cyfryngau cymdeithasol."

'Hawdd i'w brynu ac yn rhad'

Fe holodd yr arolwg gan NEMS ar ran ASH Cymru dros 1,000 o bobl 11-16 oed yng Nghymru.

Mae'r data'n dangos fod 32% o bobl ifanc sy'n ysmygu yn barod wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon, a bod 25% wedi ei brynu.

Dywedodd 39% o'r rheiny sydd wedi'i brynu mai teulu neu ffrindiau wnaeth ei werthu iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzanne Cass yn apelio ar bobl i ddweud wrth yr awdurdodau os ydyn nhw'n gwybod am lefydd ble mae'r cynnyrch ar gael

Yn ôl Suzanne Cass, prif weithredwr yr elusen, y brif broblem gyda'r cynnyrch yma yw ei fod yn hawdd i'w brynu ac yn rhad.

"Mae dibyniaeth [tybaco] yn cychwyn yn ystod plentyndod, felly mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod plant ddim yn cael gafael ar y cynnyrch, sy'n golygu ein bod ni'n gorfod taclo'r farchnad dybaco anghyfreithlon," meddai.

Dywedodd y dylai pobl ddweud wrth yr awdurdodau os ydyn nhw'n gwybod am lefydd ble mae'r cynnyrch ar gael.

Mae adroddiadau drwy borth ar-lein arbennig eisoes wedi arwain at gyrchoedd ar draws Cymru, gyda chwarter miliwn o sigaréts a 20kg o dybaco rhydd anghyfreithlon wedi eu canfod yn y gogledd ym mis Ionawr.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae diffiniad yr awdurdodau o beth ydy tybaco anghyfreithlon yn cwmpasu sawl math gwahanol o gynnyrch

"'Dyn ni wedi creu gwefan i adrodd achosion o dybaco anghyfreithlon o'r enw Dim Esgus, Byth, dolen allanol a 'dyn ni eisiau i'r gymuned gyfrannu," meddai Ms Cass.

"'Dyn ni eisiau iddyn nhw sylweddoli bod plant yn cael gafael ar y cynnyrch yma a bod hyn yn niweidiol i'r holl bolisïau rheoli tybaco sydd mewn grym."

'5,000 o farwolaethau'

Yng Nghymru, mae tua 4% o bobl ifanc a 13% o oedolion yn ysmygu yn gyson, yn ôl amcangyfrifon, dolen allanol.

Mae'n parhau i achosi problemau i wasanaethau iechyd, yn ôl Nel Griffith, ymarferydd iechyd cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

"'Smygu ydy'r achos mwyaf o afiechyd yng Nghymru - afiechyd y gellid ei osgoi - a hefyd yr achos mwyaf o farwolaethau cynnar yng Nghymru," meddai.

"Mae smocio, boed hynny yn gyfreithlon neu anghyfreithlon, yn costio oddeutu £302m i'r gwasanaeth iechyd ac yn achosi tua 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn."

Ychwanegodd: "'Dan ni yn ffeindio bod tybaco anghyfreithlon fel porth sy'n denu ac yn dal pobl ifanc i 'smygu ar hyd eu hoes."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nel Griffith fod ysmygu yn costio dros £300m i'r GIG pob blwyddyn, ac yn achosi tua 5,000 o farwolaethau

Mae'r ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth yn cael ei redeg ar y cyd gan ASH Cymru, Safonau Masnach Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi gosod nod o ostwng y ganran sy'n ysmygu i lai na 5% o'r boblogaeth erbyn 2030.

Dywedodd Lynne Neagle AS, y dirprwy weinidog dros iechyd meddwl a lles, bod yr ymchwil newydd yn "peri pryder" iddi.

"Pan 'dyn ni gwarchod ein plant rhag tybaco anghyfreithlon, 'dyn ni'n eu gwarchod nhw rhag dibyniaeth bosib ar hyd eu hoes," meddai.

"Dwi'n arbennig o benderfynol o gadw sigaréts allan o ddwylo plant a dwi'n annog pawb i riportio'r rheiny sy'n gwerthu cynnyrch sy'n torri'r gyfraith."

Pynciau cysylltiedig