Pryder am effaith rhagor o gyfyngiadau parcio yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Fe allai rheolau parcio newydd gael eu cyflwyno gan Gyngor Conwy ar ddegau o ffyrdd yn Llandudno.
Mae'r cynlluniau am gyfyngiadau posib yn cynnwys rhannau o strydoedd amlwg yng nghanol y dref dwristaidd, yn ogystal â chymunedau cyfagos Craig y Don a Bae Penrhyn.
Yn ôl y cyngor, mae'r newidiadau - sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd - wedi eu seilio ar awgrymiadau preswylwyr a chynghorwyr lleol.
Ond mae rhai'n poeni y byddan nhw'n rhwystr i dwristiaeth ac yn ergyd i siopau'r stryd fawr.
'Digon o gyfyngiadau'n barod'
Ar y cyfan, mân newidiadau ydy'r mesurau sydd dan ystyriaeth, dolen allanol.
Byddai'r cynllun yn creu mwy o barthau ble does dim modd parcio, a llefydd ble does dim hawl parcio na llwytho, a hynny'n aml ar strydoedd preswyl neu ar gyffyrdd.
Dywedodd AS Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, bod "digon" o gyfyngiadau parcio yn y dref yn barod.
"Beth mae Llandudno ei angen rŵan ydy i ni gadw'r stryd fawr am ddim," meddai wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.
"Er fy mod i'n deall bod coffrau'r cyngor yn eithaf gwag ar y funud, ddylen nhw ddim cosbi'r rheiny sydd eisiau dod a gwario'u pres yn ein tref er mwyn cadw'r stryd fawr yn fyw."
Cymysg oedd yr ymateb ymhlith perchnogion busnesau, gyda rhai'n poeni ac eraill ddim.
Dywedodd Ian Richardson, sy'n rheolwr siop lyfrau, nad oedd y cynlluniau penodol yma yn destun pryder iddo, ond fod parcio yn bwnc dadleuol yn y dref.
"Mae o'n reit anodd i ffeindio rhywle i barcio," meddai. "Maen nhw'n cymryd yr holl car parks away a dydyn nhw ddim yn replacio nhw.
"Mae o wastad yn anodd ffeindio rhywle lle ti'n gallu aros am fwy na awr a hanner."
Er hynny, dydy o ddim yn teimlo bod y sefyllfa'n cael effaith fawr ar ei fusnes.
"Dim llawer, na," meddai. "Ond os 'sa 'na fwy o barcio - nid wrth y retail parks ond yn nes at yr High Street - 'sa 'na fwy o bobl yn dod."
Dywedodd Vernon Thompson y bu'n chwilio am le parcio am ddwy awr ddydd Sadwrn
Dywedodd rhai ymwelwyr eu bod wedi cael trafferth dod o hyd i rywle i barcio yn agos at ganol y dref.
"'Naeth o gymryd dwy awr i ffeindio lle i barcio," meddai Vernon Thompson, sy'n wreiddiol o Bwllheli ond bellach yn byw yn Lloegr.
"Mae'r parcio yn Llandudno yn shocking."
Yn ôl Carwyn Hughes fe benderfynodd barcio ar gyrion y dref gan ei bod hi'n haws.
"Fydda' i'n mynd i'r out of [town] site i gael mwy o le, ond mae'n nightmare yn fan'ma [yn y canol]," meddai.
"90 munud gei di [i barcio] anyway, a ti methu gwneud unrhyw beth mewn 90 munud."
Ond dywedodd un ymwelydd cyson â'r dref bod y "parcio yn eithaf da yn Llandudno" a bod 'na "ddigon ohono fo".
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n dibynnu pa mor bell ti'n fodlon cerdded," ychwanegodd. "Does dim ots ganddon ni gerdded, felly 'dan ni'n parcio ar y cyrion ac yn cerdded i'r canol."
'Cynnal llif traffig a gwella diogelwch'
Mae'r newidiadau i orchmynion rheoleiddio traffig dan ymgynghoriad tan 1 Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy mai'r nod "yw cynnal llif traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd yn Llandudno".
Ychwanegodd: "Mae nifer o'r cyfyngiadau yma ar gyffyrdd, ac maent wedi cael eu cynnig yn dilyn sylwadau gan breswylwyr lleol neu gynghorwyr.
"Rydym ni'n annog preswylwyr i daro golwg ar y cynigion.
"Mae'r cynigion, ynghyd â map ar gyfer pob lleoliad, ar gael i'w gweld ar ein gwefan, yn Llyfrgell Llandudno ac yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021