Bendithio priodas cwpl hoyw yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Priodas Matthew Dicken a David Williamson fydd y briodas hoyw gyntaf i gael ei bendithio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

"Dydi bod heb grefydd byth wedi bod yn opsiwn... Mae'n rhan annatod o fywyd. Yr un ffordd ag ydw i'n hoyw."

I Matthew Dicken, mae ei rywioldeb a'i ffydd yn rhannau o'i fywyd sy'n cyd-fynd yn naturiol.

Ond mae'r berthynas rhwng crefydd a'r gymuned LHDTC+ wastad wedi bod yn gymhleth.

Ar ddiwrnod olaf mis hanes LHDTC+, dyma hanes pedwar dyn a sut maen nhw wedi troedio'r berthynas rhwng eu rhywioldeb a'u crefyddau.

Tra bod diwrnod priodas pob cwpl yn gyffrous mae elfen o ddiwrnod mawr Matthew a'i ddyweddi, David, yn arbennig iawn iddyn nhw.

Ar ôl seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, bydd priodas y cwpl, sy'n byw yng Nghwmbrân, yn cael ei bendithio yng Nghadeirlan Llandaf ym mis Mai.

Dyma'r tro cyntaf i eglwys gadeiriol y brifddinas gynnal seremoni fendithio i gwpl hoyw.

"Mae pobl wedi bod yn addoli ar y safle ers dros 1,000 o flynyddoedd felly mae rhywbeth go arbennig am hynny ac i gael dathlu ein cariad yno," meddai Matthew, 34, sy'n bennaeth ysgol gynradd.

Iddo ef a'i bartner David Williamson, 46, sy'n gweithio yn esgobaeth Llandaf, mae wedi bod yn siwrnai wahanol a chymhleth ar adegau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd byw heb grefydd "byth" yn opsiwn i Matthew Dicken (chwith), yma gyda David Williamson (dde)

"Wrth dyfu i fyny, roeddwn i wastad yn gwybod fy mod yn hoyw, ond roedd hynny'n rhywbeth i'w gadw'n gudd neu beidio â siarad amdano," medd David.

"Fe gymerodd hi tan fy nhridegau i dderbyn hynny drosof fy hun, ac yna taith i weld fy mod yn dal yn berson o ffydd, ac mae fy mherthynas â Duw yn hanfodol i bwy ydw i."

Fel ei grefydd, mae ei rywioldeb yn "rhan annatod" o'i fywyd ac mae'n dweud bod astudio a deall y Beibl wedi bod yn rhan o'r broses o gymodi ei ffydd a'i rywioldeb.

"Yn gychwynnol roeddwn i wedi drysu ychydig bach sut oedd y ddau beth yn gallu cyd-fynd," meddai.

"Wrth i fi ddod trwy bywyd mae gallu cael rhyw fath o angor i fywyd yn rhywbeth arbennig, felly dyna beth yw crefydd."

Mae'n dweud ei bod hi'n "anodd iawn" pan mae pobl o fewn yr eglwys yn credu "gwahanol bethau", ond eu bod nhw fel cwpl yn credu ei bod hi'n "iachus i drafod" pan mae yna wahaniaethau barn.

'Duw Cariad Yw'

Mae'r gyfraith yn gwahardd yr Eglwys rhag cynnal priodasau ar hyn o bryd.

Ond yn 2021 fe bleidleisiodd yr Eglwys o blaid caniatáu seremonïau bendithio ac fe gafodd y cyntaf ei chynnal fis Tachwedd 2021.

Dywedodd y Parchedig Ddoethur John Gillibrand bod yr Eglwys yng Nghymru wedi gweld bod peidio darparu ar gyfer cyplau hoyw yn "anghynaladwy".

Yn siarad am briodasau un rhyw yn eglwysi, dywedodd yr offeiriad gydag Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu bod 'na "amrywiaeth fawr o fewn yr eglwys" a bod 'na "anghytundeb llwyr rhwng rhai ohonom ni ar y pwnc yma", ond fod rhaid "cynnal trafodaeth mewn ysbryd cariadus".

Ychwanegodd: "Dwi yn bersonol yn gobeithio y bydd rhagor o newid i ddod ond wrth gwrs un eglwys ydyn ni a 'da ni'n gwrando ar leisiau ein gilydd."

Er bod Eglwys Lloegr wedi dilyn esiampl Cymru eleni ar gynnal seremonïau bendithio, fe wrthodwyd gwelliant fyddai wedi caniatáu i'r eglwys briodi cyplau o'r un rhyw fis Chwefror.

Er eu bod wedi profi heriau ar adegau, mae David a Matthew yn bositif ynglŷn â'r camau y mae'r Eglwys yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys cynnal seremoni bendithio eu priodas nhw hefyd.

"'Dy ni wir yn edrych ymlaen a ni'n ddiolchgar am ba mor garedig a chynhwysol ma' nhw wedi bod.

"Ni'n deall fod pob un ddim yn mynd i gytuno ond mae'r ffaith eu bod nhw'n trio bod yn berthnasol i'r unfed ganrif ar hugain yn rhywbeth mor bwysig i ni."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Huw
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dafydd Huw nag ydyw'n gweld unrhyw rwystrau o gwbl fel Cristion hoyw

Mae Dafydd Huw yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd.

Yn 29 oed, dyw e ddim wedi gweld unrhyw rwystr iddo fyw'n gwbl agored fel Cristion hoyw.

"Dwi erioed 'di teimlo unrhyw fath o dyndra rhwng bod yn Gristion a mynd i'r capel a bod yn hoyw," meddai.

"Dwi'n cymryd yr egwyddor o'r Beibl mai Duw Cariad Yw a ni ddylid rhoi unrhyw ffiniau o amgylch hynny.

"Dwi ddim wedi gweld unrhyw rwystre' o gwbl [fel Cristion hoyw]. Dwi wedi cael fy nghroesawu mewn i gapel yma yng Nghaerdydd. Dwi erioed wedi cuddio fy rhywioldeb i."

'Amhosib' i mi fynegi rhywioldeb

Tra bod David, Matthew a Dafydd yn gallu cysoni eu rhywioldeb â'u ffydd, mae'r daith wedi bod yn anoddach i eraill.

Wedi'i fagu mewn teulu Mwslemaidd ym Mhacistan, roedd yn "amhosib" i Numair Masud fynegi ei rywioldeb.

"Roedd yn fagwraeth o orthrwm a gormes," meddai'r dyn 32 oed.

"Wrth fod mewn cariad â'r un rhyw, gallwch gael eich erlid yn ôl y gyfraith.

"Roedd ofn oherwydd dydych chi ddim eisiau i'r gwir ddod allan oherwydd fe allai eich niweidio chi."

Ym Mhacistan, mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon, a gellir ei gosbi gan garchar am oes.

Er mwyn dechrau gradd mewn sŵoleg ym Mryste y symudodd Numair i Brydain am y tro cyntaf.

Symudodd wedyn i Gymru i astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Numair Masud yn ymgyrchydd sy'n helpu eraill sy'n cael trafferth delio gyda'u rhywioldeb a chrefydd

Gan lywio ei hunaniaeth fel dyn hoyw, daeth yn feirniadol o'i berthynas ag Islam a phenderfynodd adael y ffydd.

Pan syrthiodd mewn cariad â dyn arall, sylweddolodd Numair na allai ac na fyddai'n dychwelyd i Bacistan.

Yn 2017, hawliodd a chafodd loches yn y DU. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Efallai mai'r rhyddid pwysicaf oll wnes i ddarganfod oedd y rhyddid i allu helpu eraill trwy ddysgu gan yr heriau dwi wedi wynebu. Er mwyn gallu helpu eraill i ddarganfod eu llais eu hunain," meddai.

Ar ôl gadael Islam, mae Numair bellach yn ymgyrchydd LHDTC+, yn helpu eraill sy'n cael trafferth i ddelio gyda'u rhywioldeb a chrefydd.

Mae'n poeni bod peryg pan fydd ffydd yn llywio safbwyntiau a allai fod yn niweidiol.

"Mae gennych chi hawl i gredu yn yr hyn 'dych chi ei eisiau, ond mae'r foment y mae eich cred yn fy niweidio i neu unrhyw un arall neu unrhyw gymuned arall, mae hynny'n annerbyniol," meddai.

Mae'n cydnabod bod ei brofiadau yn bersonol a bod yna Fwslemiaid LHDTC+ sy'n gallu aros yn grefyddol.

Er bod rhai agweddau'n newid tuag at bobl LHDTC+ mewn cymunedau Mwslemaidd nid oedd yn bersonol yn gallu parhau â'i ffydd.

Fel yw'r achos gyda nifer o grefyddau, mae agweddau Mwslemiaid ar y pwnc yn eang ac mae agweddau ym Mhrydain yn aml yn wahanol i'r rheiny ym Mhacistan.

"Mae'n teimlo'n chwerw-felys, oherwydd rydw i wedi gorfod rhoi'r gorau i lawer yn fy mywyd i fod lle rydw i heddiw. Nid yw'n hawdd ffarwelio â'r bobl rydych chi'n eu caru," meddai.

"Mae'r elfen felys, y teimlad o lawenydd yn dod o sylweddoli bod gen i'r rhyddid i fod yn fi fy hun, i garu a chael fy ngharu heb ormod o farn yma yng Nghymru… dwi mor ddiolchgar am hynny."

Pynciau cysylltiedig