Apêl i drosglwyddo Neuadd yn Y Bala i ddwylo'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Buddug
Disgrifiad o’r llun,

Fe godwyd Neuadd Buddug tua diwedd y 19eg ganrif ac fe gaeodd ddiwedd 2018

Mae yna alw ar Gyngor Gwynedd i drosglwyddo Neuadd Buddug Y Bala i ddwylo'r gymuned yn hytrach na'i gwerthu.

Dyna apêl ymgyrchwyr sy'n dweud bod bron i 1,000 o bobl wedi arwyddo deisebau ar y we ac ar bapur yn eu cefnogi.

Fe gaeodd y neuadd ei drysau am y tro olaf ddiwedd Rhagfyr 2018, er gwaethaf apêl i'w chadw ar agor, ac fe gafodd y sinema oedd yno ei throsglwyddo i'r theatr yn Ysgol Godre'r Berwyn.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud na chyflwynwyd cynllun busnes er ymdrechion ar y pryd i drosglwyddo'r neuadd.

'Be' mae pobl ei angen?'

Sylfaenydd yr ymgyrch i drosglwyddo'r adeilad i ddwylo'r gymuned yw'r awdures Clare Mackintosh.

Pwysleisiodd nad oes bwriad cael sinema eto yn y neuadd oherwydd "mae gennom ni sinema fendigedig yn Theatr Derek Williams yn Ysgol Godre'r Berwyn".

Y nod yn hytrach, meddai, yw cadw'r adeilad "achos mae Neuadd Buddug yn adeilad hanesyddol ac mae'n bwysig iawn yn y dref".

"Mae Cyngor Gwynedd eisiau gwerthu yr adeilad, ond mae Neuadd Buddug yn perthyn i'r dref," meddai.

"Roedd o ddim ond yn pasio i Gyngor Gwynedd achos bod y ffiniau wedi newid yn 1996.

"'Dan ni angen lle mawr yn y dref ac mae'n adeilad pwysig. 'Dan ni isio siarad efo pobl yn y dref a gofyn be' ma' nhw isio.

"Be 'dach chi angen? Ella wal ddringo neu lle am sesiynau dawnsio - ella marchnad, crefftau.

"Y peth pwysig ydy cadw adeilad Neuadd Buddug fel lle cymunedol i bobl Y Bala."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac yma ar wal y neuadd yn amlygu hanes hir yr adeilad yn y dref

Mae'n bosib y byddai angen cannoedd o filoedd i adnewyddu Neuadd Buddug, a'r cwestiwn ydy o lle fyddai'r arian yn dod.

Dywedodd Clare Mackintosh ei bod hi'n deall "bod angen gwario lot o bres i adnewyddu'r adeilad".

"Ond mae 'na grants ar gael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Prydain drwy'r Levelling Up Fund i gymunedau i brynu adeiladau yn union fel Neuadd Buddug," meddai.

"Mae bron i 600 wedi arwyddo deiseb ar-lein ac mae gennom ni lot o ddeisebau papur yn y siopau yn Y Bala. Mae'n fendigedig gweld y gefnogaeth at yr achos."

'Ni chyflwynwyd cynllun i'r cyngor'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned leol am eu diddordeb yn y mater yma. Rhoddwyd cyfle i'r gymuned gyflwyno cynllun busnes ar gyfer trosglwyddiad cymunedol Neuadd Buddug yn 2018/2019 a rhoddwyd estyniad ar y dyddiad cau i'r grŵp i allu cyflwyno cynllun busnes.

"Ond gwaetha'r modd, ni chyflwynwyd cynllun i'r cyngor.

"Yn dilyn hynny, rhoddwyd ystyriaeth a fyddai'r safle'n addas ar gyfer datblygiad tai gan y Cyngor - ond daethpwyd i'r casgliad bod safleoedd eraill yn y dref yn fwy priodol ar gyfer y math yma o ddatblygiad.

"Felly, yn unol â'r polisi arferol sy'n ymwneud â safleoedd sydd dros ben yn stad y Cyngor, bwriedir symud ymlaen i werthu ar y farchnad agored trwy broses dendr."

Pynciau cysylltiedig