Angen codi Treth Cyngor er mwyn 'diogelu gwasanaethau'
- Cyhoeddwyd
Codi Treth Cyngor yw'r unig ffordd i ddiogelu gwasanaethau hanfodol, yn ôl y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru.
O fis Ebrill ymlaen bydd pob cyngor yng Nghymru yn cynyddu faint o dreth sy'n cael ei godi, er bod y swm yn amrywio o ardal i ardal.
Yn ôl elusen yn sir Conwy, ble gallai'r ganran fod ar ei huchaf, mae 'na bryder y bydd y costau ychwanegol yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi.
Mae nifer o gynghorau yn edrych ar wneud toriadau mewnol hefyd i leddfu'r pwysau.
O blith y 22 o siroedd mae'r ganran yn amrywio, gyda darlun cyllidebol pob sir yn wahanol.
Dydd Iau mae sawl cyngor yn pleidleisio dros dderbyn cyllideb, ac un o'r rheiny ydy Cyngor Conwy - lle mae'r cyngor wedi codi canran y dreth 9.9%, sef un o'r uchaf yn genedlaethol.
Yn ôl arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, mae'r ganran o blith yr uchaf gan fod cyn-arweinwyr a chynghorwyr y sir wedi penderfynu cadw'r dreth yn isel dros gyfnod o 10 mlynedd gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, sydd rŵan ar eu lefel isaf drwy Gymru.
"Mi ydan ni wir yn deall bod pobl yn gweld hi'n anodd, ac mi ydan ni'n gwneud ein gorau i gadw'r ganran mor isel ag sy'n bosib," meddai.
"Ond yn draddodiadol 'da ni wedi bod efo lefel treth isel o gymharu â'n cymdogion, ac o ganlyniad i hynny mae ein cronfeydd wedi gostwng.
"'Da ni ddim mewn sefyllfa i'w defnyddio i helpu'r gyllideb.
"Mae'n gydbwysedd - dwi'n gwybod bod pobl yn gweld hi'n anodd."
Mae'r cyngor hefyd yn edrych ar wneud toriadau o 10% i bob adran o fewn y cyngor oni bai am adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol, sy'n gweld gostyngiadau ychydig yn llai.
Lai na phum munud o swyddfeydd y cyngor yng nghanol Bae Colwyn mae canolfan elusen y CVSC, sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n gweld hi'n anodd ymdopi.
Mae Jason Edwards, sy'n delio â cheisiadau am gymorth, yn poeni y gallai'r cynnydd mewn treth arwain at ragor yn wynebu tlodi.
"Dydi pobl ddim yn cael digon o bres. Mae rhenti yn codi a ma' 'na dipyn o bobl yn y gymuned sydd methu ffeindio tŷ, yn byw ar soffa neu mewn ceir," meddai.
"Dydi o ddim yn deg nac yn iawn."
Mae'n dweud fod unrhyw gynnydd fel codi Treth Cyngor yn siŵr o arwain at fwy o bobl yn gwneud cais am gymorth gan CVSC, sydd eisoes dan bwysau enfawr wedi'r argyfwng ynni.
"Fe allwn ni afael yn llaw pobl os oes angen, allwn ni 'neud y galwadau ffôn, gyrru'r e-byst ar eu rhan nhw a thrïo lleihau'r boen i fedru helpu nhw ffeindio'r mudiadau," meddai Mr Edwards.
Gyda'r darlun yn un digon llwm ar draws Cymru, mae arweinydd Cyngor Gwynedd, sydd hefyd yn llefarydd dros Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn dweud fod awdurdodau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu gwasanaethau craidd.
"Ma' hi'n anodd a 'da ni'n ymwybodol iawn o hynny," meddai.
"Mae bob un cyngor yn gwneud gwaith o liniaru effaith y cynnydd mewn costau byw ond y dewis arall ydy... ydan ni'n barod i dorri ar ofal i oedolion neu blant?
"Dyna'r dewis anodd mae'n rhaid i ni wneud."
Mae Treth Cyngor yn talu am gyfres o wasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys gofal i blant ac oedolion, gwastraff tai a bwyd a chefnogi gwasanaethau ffyrdd.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roedd setliad nifer o gynghorau gan Lywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl er bod y cynnydd mewn costau ynni, cyflogau gweithwyr a chwyddiant yn rhoi cyllidebau dan straen.
Ar hyn o bryd mae rhai cynghorau eto i roi sêl bendith derfynol ar union faint y cynnydd, ond mae pob awdurdod lleol yn dweud y bydd rhaid gwneud cynnydd o rywfaint er mwyn llenwi bwlch eu cyllidebau.
Bydd y newidiadau mewn Treth Cyngor yn dod i rym o fis Ebrill ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022