Toriadau 'anoddach' i wasanaethau cyngor o 2024, medd arweinydd
- Cyhoeddwyd
Bydd toriadau "anoddach" i wasanaethau lleol yng Nghymru yn dechrau yn 2024 yn hytrach na mis Ebrill eleni, meddai arweinydd cyngor.
Dywedodd Llinos Medi o Gyngor Môn fod cynghorau yn defnyddio arian wrth gefn, yn gwneud toriadau llai ac yn codi treth y cyngor i baratoi ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.
"Dwi'n meddwl mai dyna pryd y byddwn ni'n gweld toriadau gwirioneddol" yn effeithio ar wasanaethau, meddai.
Dywedodd arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, fod chwyddiant, costau ynni, pwysau i godi cyflogau a galwadau ar wasanaethau wedi rhoi cynghorau ynghanol "storm berffaith".
Dywedodd Mr Morgan, sydd hefyd yn arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, "fe fydd rhai penderfyniadau anodd".
Ymddangosodd y ddau gynghorydd gerbron pwyllgor llywodraeth leol a thai Senedd Cymru.
'Gorau posib'
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cyllid "gorau posib" i gynghorau.
Daw'r rhan fwyaf o incwm awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddodd fis diwethaf y byddai ei chyllid ar eu cyfer yn cynyddu 7.9% o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd gweinidogion Llafur eu bod yn blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ond rhybuddiodd cynghorau fod y cynnydd ond yn hanner y bwlch yn y cyllid y maen nhw'n ei wynebu.
Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru, Ms Medi wrth y pwyllgor ddydd Iau: "Yr hyn mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ceisio'i wneud eleni yw ceisio mantoli'r cyfrifon, wrth ddefnyddio arian wrth gefn, wrth wneud mân doriadau a chodi treth cyngor wrth baratoi ar gyfer 2024-25.
"Dwi'n meddwl mai dyna pryd y byddwn ni'n gweld y toriadau gwirioneddol yn cychwyn ar wasanaethau.
"Felly yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw awdurdodau lleol yn defnyddio cronfeydd wrth gefn er mwyn paratoi ar gyfer y torri anoddach hwnnw i ddod.
"Rydyn ni i gyd yn rhagweld y bydd y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn waeth i ni."
Roedd cynghorau'n edrych ar "bopeth" i weld lle mae modd arbed arian, meddai.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau penodol, megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, tra bod gwasanaethau eraill, a elwir yn anstatudol, y tu allan i'r gofynion cyfreithiol.
"Yr her i ni yw bod gwasanaethau anstatudol yn cael effaith ar wasanaethau statudol," meddai Ms Medi.
"Mae hamdden ac iechyd yn gysylltiedig.
"Os ydyn ni'n cau canolfan hamdden, efallai'r rhai sydd leiaf proffidiol yn yr ardal fwyaf difreintiedig, fe allech chi ddadlau mai dyna lle mae eu hangen fwyaf, ond dyna lle mae'r costau ar eu huchaf."
Dywedodd arweinydd Llafur Rhondda Cynon Taf, Mr Morgan, bod "cydbwysedd i'w daro rhwng naill ai codiadau treth cyngor ar gyfradd sylweddol [a] gwneud arbedion lle bo modd heb effeithio ar wasanaethau".
"Ond, heb os, fe fydd yna doriadau eraill i wasanaethau neu newidiadau i wasanaethau, dwi'n meddwl fy mod i'n iawn wrth ddweud, y bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol eu hystyried i raddau."
Gallai hyn gynnwys "newid pethau fel gwasanaethau bin, gallai fod yn torri neu gau rhai cyfleusterau chwaraeon, mae yna lu o bethau y mae awdurdodau lleol yn eu hystyried".
"Ond mae'n amlwg mai cyfrifoldeb yr awdurdodau unigol hynny yw gwneud y penderfyniadau anodd hynny."
Dywedodd y Gweinidog Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru wedi darparu "y setliad gorau posib" i gynghorau "o dan yr amgylchiadau".
"Mae'n dal yn wir y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn rheoli'r gyllideb oherwydd nid yw'r cyllid ychwanegol a gawsom gan Lywodraeth y DU yn gwneud i fyny am bwysau chwyddiant," meddai wrth y pwyllgor.
"Bydd bylchau o hyd y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â nhw a bydd hynny'n gwneud penderfyniadau anodd.
"Ond, yn gyffredinol, rwy'n meddwl ein bod ni wedi gwneud y gwaith gorau posib y gallen ni fod wedi'i wneud o dan yr amgylchiadau ac, yn amlwg, mae'n adeiladu ar setliad da y llynedd ac yn y blynyddoedd blaenorol cyn hynny hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022