Rhybuddion am eira a rhew i'r rhan fwyaf o Gymru tan ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd ar y chwith mewn grym tan fore Iau, a'r rhybudd ar y dde rhwng bore Iau a 14:00 ddydd Gwener
Mae rhybuddion am eira a rhew "difrifol" wedi eu cyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Mae rhybudd melyn am eira rhew mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer pob sir yn y canolbarth tan 07:00 fore Iau.
Bydd rhybudd pellach am eira mewn grym o 07:00 fore Iau tan 14:00 ddydd Gwener, sy'n cynnwys pob man oni bai am y de-orllewin.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd yn arwain at amodau gyrru anodd mewn mannau.
Mae'r swyddfa yn dweud mai dim ond mewn rhai mannau y bydd eira, ac mai 1-2cm fydd yn disgyn yn y llefydd hynny.
Ond mae rhybudd y gallai gael effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac y bydd mannau o rew yn fwy eang ar draws ardal y rhybuddion.

Mae rhybudd i yrwyr gymryd gofal - dyma'r M4 yng ngogledd Caerdydd fore Mercher
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023