Pwy yw Eric Ramsay, is-reolwr tîm Cymru?

  • Cyhoeddwyd
ramsayFfynhonnell y llun, Getty Images

Yr wythnos diwethaf daeth y newyddion bod Robert Page, prif hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, wedi penodi aelodau newydd i'w dîm hyfforddi.

Bydd Eric Ramsay yn ymuno â'r garfan genedlaethol fel is-reolwr, gan gyfuno'r swydd gyda'i waith fel hyfforddwr yn Manchester United. Mae'n olynu Kit Symons a adawodd ei rôl gyda Chymru ar ddechrau'r flwyddyn.

Ond pwy yw Eric Ramsay?...

Mae'n wreiddiol o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn, yn y canolbarth. Yn 31 oed mae'n ifanc iawn i weithio ar y lefel uchaf, ond mae ganddo'r profiad o hyfforddi gydag Abertawe, Shrewsbury Town a Chelsea, cyn symud i Old Trafford dan y rheolwr ar y pryd, Ole Gunnar Solskjær.

Ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth, fe wnaeth rhaglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru gyfweld â chyfaill i Ramsay, Calum Vaughan o Lanfyllin.

"Cafon ni ein magu efo'n gilydd yn Llanfyllin, yn byw dros y ffordd i'n gilydd. Mae Eric dair blynedd yn iau na fi, yr un oed â'n chwaer i, ac mae ei frawd o, Alex, yr un flwyddyn â fy mrawd i hefyd. Felly, roedden ni gyd yn chwarae pêl-droed efo'n gilydd ers i ni fod yn fach iawn"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eric Ramsay gyda rheolwr Manchester Uniter, Erik ten Hag

Mae Alex, brawd Eric, yn chwarae fel golwr i dim pêl-droed Y Bala, sydd wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru, ac a fydd yn wynebu Y Seintiau Newydd ar 30 Ebrill.

"Mae Alex gyda'r Bala rŵan ac yn gwneud yn dda iawn - mae'r ddau frawd yn gwneud yn wych i ddweud gwir," meddai Calum Vaughan, sy'n rheolwr ar Glwb Pêl-droed Llanrhaeadr-ym-Mochnant ei hun.

Yn ôl adroddiadau roedd amryw o dimau yn y Bencampwriaeth â diddordeb mewn penodi Ramsay fel rheolwr, gyda Blackpool yn awyddus ar ddechrau'r tymor. Ond fe ddewisodd Ramsay aros gyda Manchester United fel is-hyfforddwr a dysgu ei grefft.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rob Page yn gobeithio y gall Ramsay ei helpu ddatblygu'r genhedlaeth newydd yn y tîm cenedlaethol yn dilyn canlyniadau a pherfformiadau siomedig yng Nghwpan y Byd yn Qatar

Roedd Eric yn cefnogi Lerpwl pan yn blentyn, ond yn ôl Calum mae proffesiynoldeb Eric yn gryfach nag unrhyw sentiment o'r gorffennol. Mae gan Eric ten Hag, rheolwr Manchester United, feddwl mawr o Eric Ramsay, ac mae llawer o'r chwaraewyr fel Christian Eriksen wedi ei ganmol hefyd.

Mae Calum yn credu fod gan Eric y potensial i gyrraedd pinacl y gamp; "Mae ganddo gymaint o ffocws yn ei swydd a 'di gwneud gymaint i feddwl mai ond 31 ydi o.

"Mae'r profiad sydd ganddo yn golygu bydd o'n gallu mynd mlaen i rywle mae eisiau. Mae o 'di gwneud yn andros o dda i gael y swydd newydd 'ma (gyda Chymru) ac mae'n edrych ar manylion y gêm - os edrychwch chi ar y gwaith mae wedi gwneud gyda ten Hag yn Manchester United dros y 18 mis d'wethaf, allwch chi weld hynny.

"Mae'n gweithio lot ar y darnau-gosod (ciciau cornel a chiciau rhydd), ac mae mor dda yn gweithio gyda phobl a datblygu perthynas gyda'r chwaraewyr."

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eric Ramsay'n is-hyfforddwr gyda thîm dan 23 Chelsea rhwng Gorffennaf 2019 a Gorffennaf 2021. Cyn hynny roedd yn rheolwr ar dîm dan 18 Abertawe

Bydd Ramsay'n cyfuno ei rôl â Chymru gyda'i swydd yn Manchester United, felly mi fydd yn ŵr prysur gan weithio a theithio gyda'r ddwy garfan.

"Mae ganddo deulu ifanc, felly fydd o'n brysur yn mynd o le i le," meddai Calum. "Cafodd ei fab ei eni tua blwyddyn yn ôl felly bydd hi'n anodd teithio o gwmpas Ewrop efo Manchester United a dramor efo Chymru."

Tydi Eric ddim yn siarad Cymraeg, ond mae'n gallu siarad Sbaeneg. Efallai y daw hynny'n ddefnyddiol os bydd ei yrfa hyfforddi'n parhau i flaguro fel y mae.

Un peth sy'n sicr yw y gall Eric Ramsay fod yn enw blaengar iawn ym mhêl-droed am flynyddoedd i ddod, ac fe all fod yn allweddol i lwyddiant y tîm cenedlaethol.

Hefyd o ddiddordeb: