Galw am ymestyn cynllun sy'n lleddfu pwysau ar ambiwlansys

  • Cyhoeddwyd
Janice John
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna alw am barhau â'r gwasanaeth, sy'n gweld pobl fel Janice John yn helpu'r rheiny sydd wedi cwympo yn eu cartrefi

Mae yna alw i barhau ac ehangu cynllun peilot sy'n ymateb pan fydd rhywun yn cwympo, gan leddfu pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Cafodd cynllun Ymateb i Gwympiadau ei ddechrau yn Sir Benfro gan Ambiwlans St John Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddechrau'r flwyddyn.

Yn ôl yr elusen mae'r cynllun wedi arbed 50 ambiwlans rhag cael eu darparu yn ddiangen yn Ionawr a Chwefror, ond bydd y peilot yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Mae gwirfoddolwyr yr elusen a staff y GIG wedi galw am barhau'r gwasanaeth er mwyn arbed adnoddau i'r gwasanaeth iechyd.

'Hala amser i'r ambiwlans ddod mas'

Mae gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau yn cael ei ddefnyddio pan fydd rhywun yn cwympo.

Pan fydd 999 yn cael ei alw gall y gwasanaeth ambiwlans drosglwyddo'r digwyddiad i dîm Ambiwlans St John Cymru, ac mi fyddan nhw'n ymateb gan gludo'r claf i'r ysbyty neu eu trin yn eu cartrefi.

Mae Ben Morris yn gynorthwyydd cwympiadau gydag Ambiwlans St John Cymru, ac yn gallu derbyn hyd at bum galwad yn ddyddiol.

"Mae'n dangos pa mor bwysig yw e i gael y car mas fan hyn," dywedodd.

"Yn enwedig lawr yn Sir Benfro. Achos ma' fe'n eithaf rural felly ma'n hala amser i'r ambiwlans ddod mas i bobl.

"Mae rili yn bwysig i'r service i gadw i fynd, achos mae wedi safio llawer o ambiwlansys i ddod mas i jobyn ble does dim angen i'r person fynd mewn i'r ysbyty.

"Felly ma'n rhyddhau ambiwlansys arall i fynd i alwadau os ma' rywun yn marw yn anffodus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynorthwywyr Ymateb i Gwympiadau yn defnyddio cerbyd fel hyn i gyrraedd cleifion

Mae cynllun Ageing Well in Wales yn amcangyfrif bod rhwng 230,000 a 460,000 o bobl dros 60 oed yn cwympo yn flynyddol yng Nghymru.

Un a gafodd cymorth fel rhan o'r cynllun oedd Teifion Davies o Hwlffordd wedi iddo ddisgyn yn ei gartref.

Mi wnaeth Janice John, cynorthwyydd o Ambiwlans St John Cymru ei godi gan ddefnyddio teclyn arbennig o'r enw Mangar Camel, ac yn dilyn asesiad nid oedd yn rhaid i Mr Davies fynd i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynorthwywyr yn defnyddio teclynnau fel hyn i godi pobl o'r llawr

Dywedodd ei wraig, Sandra Davies, bod y gwasanaeth wedi bod o gymorth mawr ac wedi osgoi straen diangen iddynt.

"Dwi'n meddwl mae'n arbennig, achos doeddwn i ddim yn gallu ei godi fy hun," meddai.

"Mae'n byw gydag Alzhimers a dementia felly dyw e ddim yn deall popeth o hyd, felly mae'n handi iawn cael pobl St John i ddod allan.

"Mae'n dweud ei fod ddim isie mynd mewn i'r ysbyty, ma' fe'n mynd yn worked up iawn, felly mae hwn wedi arbed lot o straen bore ma'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sandra Davies bod y gwasanaeth wedi arbed llawer o straen iddi hi a'i gŵr

Dywedodd Robert James, sy'n arweinydd tîm gweithredol gydag Ambiwlans St John Cymru: "Yn enwedig gyda chleifion hŷn mae yna elfen o fear factor o fynd mewn i'r ysbyty.

"Felly dyw e ddim jest yn arbed y gwasanaeth ambiwlans ond hefyd yn golygu bod cleifion ddim yn mynd mewn i'r ysbyty yn ddiangen i gael asesiadau gallwn ni wneud yn eu cartrefi.

"Mae'n arbediad i'r gwasanaeth ambiwlans. Mae 60% o bobl rydym ni'n ymweld ag yn aros adref.

"Felly allwch chi ddychmygu os y'ch chi'n danfon criw ambiwlans allan mae'n wastraff o 60% o'u hamser.

"Felly mae'n arbediad mawr i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r gwasanaeth ambiwlans."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robert James fod cynllun yn atal cleifion rhag bod yn yr ysbyty yn ddiangen

Yn Hwlffordd mae'r cynllun i fod i ddod i ben ar ddiwedd y mis, ond mae Mr James yn credu y dylai'r gwasanaeth gael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan.

"Mae angen cefnogaeth. Efallai dylai Llywodraeth Cymru edrych ar y cynllun yn gyffredinol," meddai.

Rhyddhau ambiwlansys ac adnoddau

Mae dyfodol y cynllun yn Sir Benfro ar ôl mis Mawrth yn ddibynnol ar fuddsoddiad pellach gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae nifer o fewn y gwasanaeth iechyd yn gweld ei werth.

Mae Jessica Svets yn rheolwr cyflenwi ar gyfer gofal brys a chyfryngol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn Sir Benfro, ac mae'n gweld yr angen am y gwasanaeth.

"Wnaethon ni sylwi fod 'na fylchau yn y gwasanaethau, yn enwedig pan mae rhywun yn disgyn yn eu cartref a'r amser mae'n cymryd cyn i'r ambiwlans gyrraedd," meddai.

"Wnaethon ni ffeindio arian er mwyn dechrau'r peilot hwn. Wrth i'r pwysau gynyddu, ni ddim eisiau pobl i fynd i'r ysbyty yn ddiangen.

"Ni eisiau cadw nhw'n ddiogel adref a gweld nhw'n gwella a ni'n gweld trwy'r gwasanaeth hwn bod hynny'n digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jessica Svets yn credu bod y gwasanaeth yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth

Dywedodd Ben Scott, arweinydd gwella cwympiadau i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, bod y cynllun hefyd yn helpu rhyddhau adnoddau gwerthfawr i gleifion.

"Llynedd, galwadau am gwympiadau oedd ein categori uchaf o alwad, sef 55,000 o alwadau ar draws Cymru gyfan. O'r rheiny, ychydig dros 38,000 oedd angen ymateb.

"Trwy ein hymatebion Lefel 1, roedden ni'n gallu ymateb i 6,000 o'r galwadau hynny.

"Mae'r cynllun yn Sir Benfro yn cefnogi ein hymatebion i alwadau llai difrifol. Trwy flaenoriaethu'r galwadau yn gywir, gallwn ryddhau ambiwlans wrth ymateb i'r galwadau hynny."