Betsi Cadwaladr: 'Disgwyl newidiadau eithaf sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond dwy flynedd yn ôl yr oedd bwrdd iechyd y gogledd wedi dod allan o fesurau arbennig

Mae cyn-bennaeth o fewn y gwasanaeth iechyd yn disgwyl gweld "newidiadau eithaf sylweddol" yn nhîm arweinyddiaeth bwrdd iechyd y gogledd.

Mae'r Athro Marcus Longley, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn credu bydd wynebau newydd ar frig tîm gweithredol Betsi Cadwaladr yn rhoi cyfle i'r bwrdd iechyd "ailosod ei hun".

Dywedodd y gweinidog iechyd iddi "ddweud y drefn" wrth rai o swyddogion gweithredol Betsi, ond nad oes ganddi'r grym i'w diswyddo ei hun.

'Holltau clir a dwfn'

Mae Eluned Morgan wedi rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ôl o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

Daeth y penderfyniad ddwy flynedd wedi i'r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig, ar ôl bron i 2,000 o ddiwrnodau o fod dan arolygiaeth fwy uniongyrchol gan y llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, nad oedd hi'n gallu diswyddo'r tîm gweithredol.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth adroddiad damniol i'r casgliad fod arweinyddiaeth Betsi Cadwaladr yn gamweithredol.

Mae'r bwrdd iechyd yn cael ei arwain gan fwrdd o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau annibynnol, gyda'r adroddiad yn canfod "holltau clir a dwfn o fewn y tîm gweithredol sy'n atal y tîm hwnnw rhag gweithio'n effeithiol".

Ymddiswyddodd 11 aelod annibynnol o'r bwrdd ddydd Llun ar ofyn y gweinidog iechyd.

Dywedodd cyn-aelodau annibynnol y bwrdd nad oedd ganddyn nhw "hyder" yng ngafael llywodraeth Cymru o'r sefyllfa.

Yn dilyn beirniadaeth gan y gwrthbleidiau ei bod wedi targedu'r aelodau bwrdd anghywir, dywedodd y gweinidog nad oedd hi'n gallu diswyddo'r tîm gweithredol.

'Sefydlu perthynas waith'

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd yr Athro Marcus Longley, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fod y gweinidog yn gywir oherwydd bod y swyddogion gweithredol yn "gweithio i'r bwrdd iechyd."

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Marcus Longley: "Dyma gyfle o leiaf i ailosod a chael pethau'n iawn y tro hwn"

Ond ychwanegodd ei fod yn disgwyl newidiadau pellach: "Byddwn i'n synnu pe na bai rhai newidiadau eithaf mawr o ran personél, o leiaf.

"Rydym wedi cyrraedd sefyllfa...lle mewn gwirionedd mae'r bwrdd yn mynd i droi drosodd a dod yn set hollol newydd o bobl. Mae'n ymddangos mai dyna'r sefyllfa.

"Nawr, mae'n gwbl hanfodol bod yr 20 o bobl newydd hynny o amgylch y bwrdd yn sefydlu perthynas waith.

"Hollol hollbwysig, oherwydd os bydd y set newydd o bobl yn dechrau cweryla ac ymddwyn fel y mae rhai o'r lleill wedi gwneud, yna rydyn ni'n mynd i fod yn ôl lle rydyn ni nawr eto.

"Felly, dyma gyfle o leiaf i ailosod a chael pethau'n iawn y tro hwn," meddai Mr Longley.

'Wedi cael digon'

Dywedodd Gareth Davies, Aelod Senedd Ceidwadol Dyffryn Clwyd, wrth Politics Wales fod ei etholwyr "wedi cael digon o fwrdd iechyd sy'n tanberfformio am y rhan orau o ddeng mlynedd ac mae angen i ni weld gwelliannau gwirioneddol i'w perfformiad yn y bwrdd iechyd".

Ychwanegodd, "Os na all llywodraeth Cymru a'r gweinidog iechyd gyflawni eu hamcanion yna mae angen i'r gweinidog iechyd ystyried ei sefyllfa ac a yw hi'n ffit i wneud y swydd."

Dywedodd Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wrth y rhaglen y byddai'n "bryderus iawn" pe bai hi'n un o'r aelodau bwrdd annibynnol sydd newydd ei phenodi.

Ychwanegodd yr Aelod Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: "Oherwydd wrth siarad allan, pan gododd yr aelodau annibynnol blaenorol eu pryderon, fe gawson nhw eu diswyddo.

"Felly, sut gallwn ni fod yn hyderus nad yw'r aelodau bwrdd annibynnol newydd yn mynd i deimlo y byddan nhw mewn gwirionedd yn cael cais i ymddiswyddo neu gael eu diswyddo os ydyn nhw'n codi pryderon?"

'Problemau eithaf cronig'

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y prif weinidog i ddiswyddo Eluned Morgan fel gweinidog iechyd.

Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales: "Mae gennym ni rai problemau eithaf cronig yn y GIG, argyfwng dwys mae hynny wedi dod i i'r amlwg yn ddramatig iawn yn Betsi Cadwaladr ond dim ond un enghraifft ddiweddaraf yw honno o GIG yng Nghymru sydd mewn argyfwng.

"Dydyn ni ddim wedi clywed dim byd, dim byd gan y gweinidog a allai ein darbwyllo neu, a dweud y gwir, unrhyw un arall fod ganddi'r atebion i'r problemau yn Betsi Cadwaladr neu'r problemau yn y GIG yn ei gyfanrwydd, a dyna pam mae angen syniadau newydd a newid arweinyddiaeth," ychwanegodd.

Wrth ymateb i'r galwadau am ddiswyddo Ms Morgan, dywedodd Llafur Cymru: "Mae hyn yn annheg gan Blaid Cymru.

"Mae'r gweinidog iechyd yn gwneud gwaith ardderchog."