Cefnogaeth ariannol i saith o sinemâu annibynnol Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd saith sinema annibynnol yng Nghymru yn derbyn cymorth ariannol gan Ganolfan Ffilm Cymru er mwyn helpu gyda chostau cynyddol rhedeg y safleoedd.
Y gobaith yw sicrhau bod ffilmiau annibynnol yn dal i gyrraedd cynulleidfaoedd am bris fforddiadwy.
Mae sinemâu yn dweud bod costau cynyddol ynni wedi effeithio ar eu busnesau, gyda chynulleidfaoedd yn llai parod i wario arian oherwydd yr argyfwng costau byw.
Dywedodd rheolwr Canolfan Ffilm Cymru ei bod am gynorthwyo sinemâu Cymru i aros ar agor ac i addasu i'r "normal newydd".
Cyllid yn hanfodol i sicrhau dyfodol sinemâu
Dywedodd Charlotte Spencer, sy'n gweithio i Ganolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt, wrth Cymru Fyw: "Mae'r celfyddydau wedi bod o dan lawer o bwysau gyda Covid-19 a nawr yr argyfwng costau byw.
"Ers i ni ailagor ar ôl y cyfnodau clo, rydyn ni wedi gorfod ailadeiladu ein cynulleidfa, sydd wedi bod yn broses araf, oherwydd yn ddealladwy roedd dal llawer o bryder oherwydd y pandemig.
"Rydyn ni hefyd yn wynebu toriadau ariannol pellach i'n cyllid refeniw flwyddyn nesaf, felly mae'r cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru yn hollol hanfodol i sicrhau ein dyfodol ac mae'n ein galluogi i barhau i ddod â'r gorau mewn sinema Brydeinig ac annibynnol i'r ardal."
Ychwanegodd Ms Spencer: "Rydyn ni'n gymuned ynysig iawn, a ni'n gwasanaethu pobl hyd at awr o daith wrthon ni.
"I lawer o bobl ifanc yn yr ardal ni yw eu prif fynediad at y celfyddydau a ffilm, ac rydyn ni'n falch i fod wedi helpu ysbrydoli pobl yn yr ardal i ddod yn rhan o'r celfyddydau, fel yr actor a chyfarwyddwr Tom Cullen a'r dramodwyr Owen Thomas a Brad Birch, felly mae cyllid fel yma yn helpu sicrhau ein bod yma i ysbrydoli pobl ifanc am genedlaethau i ddod.
"Ni yw'r sinema hynaf yng Nghymru, ni wedi bod yn dangos ffilmiau ers 1911, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Ganolfan Ffilm Cymru, y BFI a'r Loteri Genedlaethol am y cyllid yma er mwyn helpu gadw Wyeside yma am 100 mlynedd arall gobeithio."
Heriau'r argyfwng costau byw
Yn Theatr Gwaun, Abergwaun, bydd y cyllid yn helpu'r sinema i barhau gyda'u clwb fore Sadwrn i blant, a gwaith gyda'r ganolfan ieuenctid leol.
Dywedodd rheolwr y theatr, Paul Howe fod "hwn yn gyfnod anodd iawn i sinemâu".
"Fel nifer o sinemâu annibynnol bach un sgrin ledled Cymru, mae Theatr Gwaun yn delio gyda heriau'r argyfwng costau byw ac yn benderfynol o ddod trwyddi.
"Mae ein costau gweithredu dan bwysau gan fod costau tanwydd a chostau masnachu yn cynyddu a chwyddiant a pholisi'r llywodraeth yn arwain at gynnydd anochel ac angenrheidiol yng nghyflogau staff.
"Dim ond un ochr i'r geiniog yw hyn wrth gwrs. Mae ein cynulleidfaoedd hefyd yn gwneud penderfyniadau anodd ynghylch eu cyllidebau personol.
"Mae ffocws tynn ar gostau, ynghyd â rhaglennu arloesol a chreadigol, marchnata atyniadol a chydweithredu'n agosach gyda chyrff cyllido cefnogol, megis Canolfan Ffilm Cymru yn strategaethau sy'n bwysicach nag erioed wrth i ni ddod drwy'r cyfnod anodd hwn."
'Yr esgid yn gwasgu' ar gynulleidfaoedd
Mae sinemâu eraill hefyd wedi gweld y cynnydd yma mewn costau, ac yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar niferoedd eu cynulleidfaoedd.
Dywedodd Annie Grundy o sinema The Magic Lantern yn Nhywyn: "Mae ein cynulleidfaoedd wedi dweud wrthon ni nad ydynt yn gallu fforddio gweld yr holl ffilmiau maent am eu gweld, ond mae'n fwy pwysig nag erioed i ni eu bod yn gallu mynychu.
"Felly rydyn ni'n lansio ein cynnig £3 'Wonderful Wednesdays' yn ystod mis Mawrth, yn ogystal â chydweithio â Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd er mwyn cynnig dangosiadau am ddim i'r rheiny sy'n 11-25 mlwydd oed.
"Rydyn ni hefyd yn cynnal diwrnod agored i gychwyn sgwrs ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu cynulleidfaoedd ifanc a hŷn, sy'n teimlo'r esgid yn gwasgu."
'Argyfwng i'r canolfannau'
Y saith sinema fydd yn derbyn y cyllid yw Canolfan Gelfyddydau Wyeside (Llanfair-ym-Muallt), Y Torch (Aberdaugleddau), Theatr y Ddraig (Y Bermo), Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe (Cwm Tawe), CellB (Blaenau Ffestiniog), Theatr Gwaun (Abergwaun) a The Magic Lantern (Tywyn).
Dywedodd Hana Lewis, rheolwr Canolfan Ffilm Cymru: "Dros y misoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld sawl sinema boblogaidd ar draws y DU - megis Kinokulture ar y ffin a Premiere Cinema Caerdydd - yn cau.
"Mae sinemâu yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw ar sawl lefel - o gynnydd yng nghostau cyflenwi, i gyllid sy'n aros yn stond neu sy'n lleihau.
"Rydyn hefyd yn gweithredu mewn 'normal newydd' - yn ailadeiladu cynulleidfaoedd ar ôl Covid ac yn esblygu fel sefydliadau.
"Gwyddwn na fydd y cyllid yma yn datrys yr argyfwng i'r canolfannau, ond rydyn ni wrth ein boddau'n cefnogi'r canolfannau hyn sydd wrth galon cynifer o gymunedau Cymreig, ym mha bynnag ffordd y gallwn, a rhoi'r cyfle i bobl ffoi i fyd newydd ar y sgrin."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023