Talu 'beth allwch chi' i weld drama costau byw

  • Cyhoeddwyd
Actorion yn ymarfer perfformio The Cost of LivingFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau'r cast yn ymarfer perfformio The Cost of Living

Fe all pobl ddewis talu beth maen nhw eisiau i weld cynhyrchiad newydd gan National Theatre Wales.

Bydd rhestr o brisiau mynediad gwahanol ar gyfer The Cost of Living yn Theatre y Grand Abertawe, gyda'r nod o ddenu pobl o gefndiroedd gwahanol.

Mae prisiau'r cynhyrchiad tair rhan yn amrywio o £8 i £22, ac fe all pobl ddewis ble maen nhw'n eistedd.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio rhwng 17 a 25 Mawrth.

Yn ôl National Theatre Wales, mae bron i 43% o bobl o grwpiau economaidd cymdeithasol mwy breintiedig yn debygol o fynd i'r theatr unwaith y flwyddyn.

Ond 29.4% yw'r ffigwr cyfatebol ymhlith pobl llai breintiedig.

Mae'r cwmni wedi cyflwyno cynllun mynediad tebyg yn y gorffennol, ac yn bwriadu parhau i'w ystyried ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol.

Yn sgil yr argyfwng costau byw mae The Cost of Living yn ceisio adlewyrchu hynny a'i effaith ar bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o ddrama The Cost of Living

Mae'r rhan gyntaf yn gyfle i'r gynulleidfa rannu eu profiadau o'r argyfwng costau byw gyda rhai o arweinwyr cymdeithas.

Sioe yw'r ail ran, Joseph K and the Cost of Living, gyda'r rhan olaf yn gig cerddorol gan HMS Morris ymysg artistiaid eraill gyda chanu protest.

'Rhyw fath o ddrych i gymdeithas'

Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae gwneud theatr yn hygyrch yn rhan annatod o'n gwaith.

"Dyma pam bod ganddo ni gynllun 'talu beth allwch chi dalu' am docynnau i weld The Cost of Living. Gall pobl ddewis talu £8, £16 neu £22 am docyn - heb unrhyw wahaniaeth mewn seddi neu fynediad i'r sioe.

"Mae pob tocyn yn cynnwys mynediad i'r tair rhan - ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich lle i ran un os hoffech chi ymuno ar gyfer hwnna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae byd y theatr "yn dioddef ac wedi colli cynulleidfaoedd", medd yr actor Ioan Hefin

Yn ôl Ioan Hefin, un o'r perfformwyr ac aelod o'r cast, mae'r theatr yn rhoi "rhyw fath o ddrych i gymdeithas".

"Mae'r theatr yn dioddef ac wedi colli cynulleidfaoedd," meddai.

"Mae hwnna'n drychinebus ac mae hefyd yn gyfle i chwilio am rywbeth newydd - beth yw'r llais, beth yw'r gofynion, beth yw'r dyfodol.

"O ran hynny rwy'n gobeithio y bydd y gynulleidfa yn cael rhywbeth sy'n plesio."

Dywedodd Glesni Price Jones: "Ni'n trio edrych ar yr argyfwng costau byw a dangos fod pawb yn byw yn y sefyllfa yma, a sut mae'n gwneud i bobl deimlo, sut mae'n effeithio ar fywydau pobl.

"Wedyn erbyn diwedd y noson pan chi'n canu'r gân brotest, mae'n ffordd i bobl ddod at ei gilydd a siarad am y peth, a theimlo nad ydyn nhw ar ben eu hunain."

Pynciau cysylltiedig