Heddlu yn arestio 72 o bobl mewn cyrch cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
rtc llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu eu bod wedi cipio gwerth £100,000 o gyffuriau

Dywed yr heddlu fod 72 o bobl wedi eu harestio yng Nghymru o ganlyniad i ymgyrch i rwystro gweithgareddau gangiau sy'n cyflenwi cyffuriau.

Nod ymgyrch Tarian - sy'n cynnwys swyddogion heddluoedd De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys a'r Heddlu Trafnidiaeth - yw rhwystro gangiau 'County Lines' a hefyd diogelu pobl fregus.

Dywedodd llefarydd fod ymgyrch, gafodd ei chynnal dros yr wythnos ddiwethaf, yn golygu eu bod wedi atal pedwar o 'lwybrau' cyffuriau yng Nghymru.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i 28 o blant ac oedolion bregus a'u diogelu.

Yn ychwanegol at hyn cafodd gwerth dros £100,000 o gyffuriau eu cipio, gan gynnwys un cilogram o heroin.

Ymhlith yr arfau gafodd eu canfod oedd cyllyll, clefydau Samurai, gynau ffug a morthwylion.

Dywedodd y ditectif arolygydd Richard Weber o Tarian: "Pwrpas y cyrchoedd hyn yw amharu ar gangiau troseddol, sydd â'r bwriad hunanol o achosi poen meddyliol a chorfforol i'r rhai bregus sy'n cael eu hecsploetio ganddynt.

"Rydym yn deall y goblygiadau i bobl ifanc sydd o bosib wedi eu gorfodi i gyflawni'r math yma o droseddau, ac rydym yn gwneud popeth i'w hamddiffyn drwy eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd mewn lle i'w cefnogi."

Pynciau cysylltiedig