Brwydr yn erbyn gangiau cyffuriau'n y gogledd yn 'heriol'

  • Cyhoeddwyd
Cyrch
Disgrifiad o’r llun,

Heddweision yn cymryd rhan mewn cyrch diweddar

Mae'r frwydr yn erbyn cyffuriau caled a rhwydweithiau 'County Lines' yn "heriol" o hyd yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae dros 50 o aelodau o gangiau cyffuriau yn yr ardal wedi'u harestio, eu herlyn a'u carcharu.

A dros y misoedd diwethaf mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn cyd-weithio gyda lluoedd yng ngogledd Lloegr i dargedu'r llif o gyffuriau sy'n dod o'r dinasoedd mawr yno.

Dywedodd un swyddog fod taclo gangiau 'County Lines' yn "heriol" ac yn "sialens ddyddiol".

Cyrchoedd

Yn ddiweddar fe gafodd BBC Cymru wahoddiad i fynychu un o gyrchoedd y llu yng Ngwynedd.

Nod y cyrch hwn a nifer o rai eraill a gafodd eu cynnal ar draws y gogledd a gogledd orllewin Lloegr oedd dod o hyd i gyffuriau fel heroin a chocên.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ffonau symudol gafodd eu darganfod yn y cyrch

Y bwriad hefyd oedd dod o hyd i ffonau symudol sy'n cael eu defnyddio i redeg rhwydweithiau cyffuriau yng nghefn gwlad Cymru.

Tra bod y cyrch diweddar wedi bod yn llwyddiant, mae mynd i'r afael â'r broblem yn "anodd" yn ôl un swyddog o Heddlu'r Gogledd.

"Mae na amryw o ffonau wedi eu meddiannu ac mae'n her, does dim modd gwadu hynny," meddai. "'Da ni'n gweithio'n galed i atal y peth ond mae rhaid gwneud yn siŵr fod y wybodaeth yn gywir."

Ffonau symudol

Mewn un tŷ gafodd ei archwilio daethpwyd o hyd i dros 10 o ffonau gydag un sydd bellach wedi ei brofi i fod yn gyswllt uniongyrchol â gwerthwyr cyffuriau o ogledd Lloegr.

"Mae'n hadnoddau ni'n brin ar adegau a 'da ni angen help y cyhoedd wrth ymgyrchu i ddod a'r peth i ben", ychwanegodd y swyddog.

"Mae'n creu tlodi a phroblemau social ac mae hynny'n ychwanegu at y problemau mawr."

Mae'r Heddlu'n credu fod problemau 'County Lines' yng Nghymru wedi dechrau nôl yn 2015.

Mae ymgyrchoedd diweddar Heddlu'r Gogledd wedi targedu nifer o gelloedd cyffuriau pwysig ac mae'r llu wedi gweithio'n agos iawn gyda lluoedd ar draws y ffin gyda'r gobaith o leihau'r llif cyffuriau.

Beth yw 'County Lines'?

Wrth i'r farchnad gyffuriau newid, mae defnyddwyr heroin a crack cocên mewn trefi rhanbarthol bellach yn galw ffonau symudol penodol i archebu eu cyffuriau'n ddyddiol.

Fe gaiff y ffonau hyn eu hateb gan gangiau yn y dinasoedd mawr yn Lloegr. Yna, fe fydd y gangiau'n derbyn archebion, cyn cysylltu gydag aelodau ifanc sydd ar lawr gwlad yn y trefi rhanbarthol yn barod, er mwyn trosglwyddo'r cyffuriau i'r defnyddwyr - a derbyn yr arian.

Mae hyn yn golygu fod arweinwyr y gangiau yn cadw'n bell i ffwrdd o'u cwsmeriaid - gan adael i eraill wynebu'r perygl o gael eu dal.

Bydd y rhedwyr yn y trefi hyn yn derbyn ailgyflenwadau o gyffuriau o'r dinasoedd yn ddyddiol mewn llawer o achosion, ac fe gaiff yr elw ei gludo'n ôl i'r ddinas.

Enw ar y dull yma o werthu ydi 'county lines', gan ei fod yn croesi ffiniau siroedd, ac yn defnyddio ffonau symudol cyfrinachol penodol.