Anniddigrwydd wedi i gost datblygiad Hwlffordd ddyblu
- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi dweud nad yw'n difaru ymrwymo i ddatblygiad sydd wedi costio miliynau yn fwy na'r disgwyl i'r cyngor.
Mae costau prosiect Cei'r Gorllewin yn Hwlffordd - lle cafodd dros 240 o sgerbydau eu darganfod - wedi cynyddu o'r cais cyfalaf o £6.1m a gafodd ei gymeradwyo, i £12.3m.
Yn ôl y Cynghorydd Paul Miller, sydd hefyd yn Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, mae'n hyderus bydd tref Hwlffordd yn elwa o'r buddsoddiad, er gwaethaf nifer o ffactorau annisgwyl gyda'r datblygiad.
Llynedd, cafodd cannoedd o sgerbydau eu darganfod ar y safle o dan hen siop Ocky White gyda thua hanner ohonynt yn blant.
O ganlyniad, cafodd gwaith adeiladu ar gyfer farchnad fwyd newydd ei oedi tra bu archeolegwyr yn cloddio.
Y gred yw taw dyma oedd safle hen Briordy St Saviour, gafodd ei sefydlu ger y Cleddau Wen yn 1256 gan Urdd o Fynachod Dominicaidd.
Mae'r darganfyddiadau ar y safle yng nghanol y dref yn un o'r cloddfeydd archeolegol mwyaf cynhwysfawr yn hanes Hwlffordd.
Ond mae'r Cynghorydd Miller yn dweud fod y gwaith archeolegol wedi ychwanegu £1.5-2m at gyfanswm y prosiect.
"Pe baech chi'n gofyn i mi a fyddwn i'n gwario £1.5m-2m ar waith archeolegol yng nghanol tref Hwlffordd, na fyddai'r ateb," meddai.
"Wedi dweud hynny, mae'r darganfyddiadau hyn yn rhan bwysig o hanes Hwlffordd a dwi'n gwybod fod pobl sydd â diddordeb yn y math yna o beth wedi rhyfeddu gyda'r hyn sydd wedi ei ddarganfod."
'Covid, Wcráin a Brexit' wedi effeithio
Ynghyd â'r gwaith archeolegol, mae'r cynghorydd Miller yn dweud fod nifer o ffactorau eraill hefyd wedi ychwanegu at gyfanswm y gost ar gyfer y prosiect.
"Pan ddechreuon ni hyn, fe wnaethon ni neilltuo cyllideb gwariant cyfalaf o tua £6m," meddai.
"Mae'n werth nodi nad oedd hynny ar unrhyw adeg yn cynnwys y ffitiad, felly roedden ni bob amser yn gwybod y byddai hynny'n gost ychwanegol, sy'n mynd â chi i tua £8m i £8.5m.
"Ers hynny, fel y gallwch ddychmygu - Covid, Wcráin, Brexit - mae'r holl bethau hynny wedi eu cyfuno yn golygu bod y prosiect hwn yn ddrytach nag yr oeddem wedi ei ddychmygu.
"Mae prisiau adeiladu a chwyddiant ymhell dros 10% ar hyn o bryd, ac mae cyfnod sylweddol wedi bod pan nad oedd contractwyr yn gallu cael mynediad at rannau o'r safle fel roedden nhw'n dymuno."
Ansicrwydd pobl leol
Er yr esboniad dros gost ddiweddaraf y datblygiad o £12.34m, teimladau cymysg sydd gan bobl Hwlffordd dros ymrwymiad parhaus y cyngor i'r prosiect.
Dywedodd Rhianon Howells o'r dref: "Rwy'n deall pam mae'r gost wedi cynyddu - costau byw - a dwi'n siŵr fod mewnforio nifer o ddeunyddiau yn costio llawer yn fwy nawr
"Ond mae'n fy ngwneud yn eithaf blin ei fod yn costio gymaint."
Ychwanegodd Margaret Andrews o'r dref: "Dwi'n credu mai'r farn gyffredinol gan bobl Hwlffordd yw y gallai'r arian fod wedi cael ei wario ar ddatblygu Stryd y Bont, gyda nifer o siopau bach.
"Byddai hynny wedi gweddu'n well â chymeriad y dref."
Dywedodd Chris Jenkins, sy'n rhedeg busnes yn y dref: "Rwy'n meddwl ei fod yn dangos cynllunio gwael yn y lle cyntaf.
"Mae'n rhaid i bawb gynnwys chwyddiant i fewn i gostau yn does, felly a oedd yn realistig i'w brisio ar £6m, pwy a ŵyr."
Costau'n 'syfrdanol'
Daeth gorwariant y cyngor i'r amlwg wedi i'r Cynghorydd Andrew Edwards ofyn am ddiweddariad ar safle Ocky White mewn cyfarfod o'r cyngor.
Ers hynny, mae'r Cynghorydd Edwards wedi disgrifio cost prosiect Cei'r Gorllewin fel "syfrdanol".
"Mae'n ymddangos fel bod y weinyddiaeth yn gwario llawer o arian ar bethau sydd ddim o reidrwydd yn hanfodol i'r dref," meddai.
"Rwy'n teimlo y gallai'r hyn sydd wedi'i gynllunio i fynd yno fod wedi'i leoli'n hawdd mewn ardaloedd eraill yn Hwlffordd am gost llawer rhatach.
"Gallai'r pethau hyn fod wedi'u rhagweld, ac i brosiect fynd ddwywaith dros y gyllideb, pryd ydyn ni'n rhoi'r gorau i ddweud na wrth brosiectau sydd wedi gorwario?"
Er gwaethaf beirniadaeth leol dywedodd y Cynghorydd Miller nad yw'n difaru ymrwymo i'r prosiect.
"Rwy'n gwbl hyderus mai ein cynlluniau ar gyfer Hwlffordd yw'r rhai cywir. ac ry'n ni'n mynd i weld budd mawr o'r buddsoddiad yma," meddai.
Mae'r gwaith adeiladu wedi ailgychwyn erbyn hyn, gyda hen safle Ocky White yn cael ei drawsnewid yn siop fwyd a bar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023