Mark Drakeford: 'Ni fydd galar yn atal fy ngwaith'
- Cyhoeddwyd
Mewn araith emosiynol, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud na fydd ei alar yn dilyn marwolaeth ei wraig yn atal ei waith.
Ag yntau'n agos at ddagrau, fe ddiolchodd pawb am eu harwyddion o garedigrwydd a chydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford ym mis Ionawr.
Wrth annerch cynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno, fe alwodd hefyd ar arweinydd Llafur yn y DU, Syr Keir Starmer i gyflwyno newidiadau mawr i'r system bleidleisio, gan gael gwared ar y drefn 'cyntaf heibio'r postyn'.
Ond dywedodd Syr Keir nad yw hynny'n flaenoriaeth i lywodraeth Lafur newydd".
Yn gynharach fe wnaeth Syr Keir addewid y byddai'n datganoli pwerau dros gronfeydd sydd wedi disodli rhai'r Undeb Ewropeaidd yn ôl i Gymru pebai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi derbyn "geiriau o garedigrwydd a chydymdeimlad, gan bobl o fewn y blaid a phobl nad yw erioed wedi eu cyfarfod" ers marwolaeth ei wraig.
"Mae hynny wedi bod o nerth i mi, yn bersonol - diolch o galon i chi i gyd," meddai.
"Hyd yn oed pan mae ein calonnau dan bwysau baich annioddefol galar, fe wyddwn beth yw ein dyletswydd, ein rhwymedigaeth foesol..."
Ychwanegodd bod "rhaid i'r blaid hon redeg tuag at y peryglon sy'n amharu ar gymaint o fywydau, a byth rhedeg oddi wrthynt."
Fe wnaeth ai alwad cryfach hyd yn hyn am newidiadau mawr i system etholiadol San Steffan.
Galwodd ar Syr Keir Starmer i gael gwared ar y drefn 'cyntaf heibio'r postyn', sy'n ethol ASau ar sail pa ymgeisydd sy'n sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth.
Mae Mr Drakeford o blaid trefn sy'n adlewyrchu'n well sut wnaeth pobl bleidleisio.
"Rhaid i'r lywodraeth Lafur nesaf arwain y dasg o adnewyddiad democrataidd," dywedodd.
"Nid wy'n credu y gallwn ni gario ymlaen i dderbyn system sydd dros ar ôl tro yn rhoi mwyafrif i'r Ceidwadwyr ar sail lleiafrif y pleidleisiau a gafodd eu bwrw."
Gan ymddangos fel ei bod yn cyfeirio at wrthwynebwyr cynrychiolaeth gyfrannol o fewn ei blaid ei hun, dywedodd Mr Drakeford: "I'r rheiny sy'n parhau i ofni newid i'r system etholiadol, dywedaf yn syml: edrychwch ar beth ry'n ni wedi ei wneud yma yng Nghymru - 25 mlynedd o ennill a gweithio o fewn system cynrychiolaeth gyfrannol."
Cyhuddodd y Ceidwadyr o niweidio democratiaeth gyda "brand ofnadwy o wleiddyddiaeth hunanol, hunan-gyfoethogi, ble mae disgwyl hyd yn oed i sylwebydd pêl-droed lynu wrth bolisi'r Ceidwadwyr neu beryglu eu swydd."
Dadansoddiad Felicity Evans, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru
Roedd hon yn araith emosiynol gan Mark Drakeford, ac mae'n amlwg nad yw ei frwdfrydedd dros fywyd cyhoeddus heb bylu er ei golled diweddar.
Gyda holl sylw'r gynhadledd ar etholiad cyffredinol sydd i'w ddisgwyl yn 2024 fe roddodd gefnogaeth frwd i arweinydd Llafur yn y DU, Syr Keir Starmer.
Ond tra bod Mr Drakeford yn danbaid dros sicrhau buddugoliaeth i Lafur yn San Steffan, mae'n deg dweud bod yna wahaniaeth barn ymhlith y ddau arweinydd mewn rhai meysydd.
Roedd yna olwg anghyfforddus ar Syr Keir pan alwodd Mr Drakeford am newidiadau etholiadol yn Sab Steffan, ac roedd y sosialydd cyffesedig, Mark Drakeford, yn edrych yn llai brwd gan bwyslais Syr Keir ar ariannu "call".
Mae cynhadledd Llafur Cymru wastad wedi gwerthfawrogi Mark Drakeford fel prif weinidog ac roedd yna gymeradwyaeth orfoleddus iddo unwaith eto y tro hwn.
Fe roddodd y cynadleddwyr groeso fwy cynnes i Syr Keir nag yng nghynadleddau'r gorffennol yng Nghymru - arwydd efallai o hyder cynyddol y blaid cyn yr etholiad nesaf.
Gan ymateb i alwad Mr Drakeford am ddiwygiadau pleidleisio, fe wnaeth Syr Keir ganmol araith "rymus" prif weinidog Cymru.
"Dydw i ddim yn meddwl allai neb fod heb eu cyffwrdd gan araith Mark," meddai, ond fe ychwanegodd: "Nid yw'n flaenoriaeth i lywodraeth Lafur newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023