Lola James: Cwestiynu a wnaeth y ferch ddisgyn lawr grisiau

  • Cyhoeddwyd
Lola JamesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lola James o'i hanafiadau ym mis Gorffennaf 2020

Mae llys wedi clywed bod anafiadau merch dwy oed fu farw yn ei chartref yn Hwlffordd yn annhebygol iawn o fod wedi'u hachosi wrth ddisgyn i lawr y grisiau.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 ar ôl dioddef anaf "catastroffig" i'w phen, a dros 100 o anafiadau allanol.

Mae cariad ei mam, Kyle Bevan, 31 o Aberystwyth, yn gwadu ei llofruddio, gan honni fod ci y teulu wedi achosi ei hanafiadau a'i gwthio i lawr y grisiau.

Mae mam Lola, Sinead James, 30, yn gwadu achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Lola anaf "catastroffig" i'w phen a dros 100 o anafiadau allanol

Dywedodd Dr Neil Stoodley, niwroradiolegydd fu'n adolygu sganiau o ben a gwddf Lola cyn iddi farw, nad oedd yr anafiadau yn cyd-fynd â disgyn lawr y grisiau.

"Dyw patrwm yr anaf i'r ymennydd ddim yn ffitio gyda chwympo i lawr set o risiau," meddai yn Llys y Goron Abertawe.

Gofynnwyd i Dr Stoodley gan yr erlyniad a oedd yr anafiadau yn cyd-fynd ag achosion o gam-drin.

Dywedodd y byddai hynny'n egluro'r anafiadau, gan ychwanegu eu bod yn "gyson iawn" gydag enghreifftiau o "anafiadau ysgwyd".

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig