Cyhoeddi enw dyn 68 oed fu farw wedi ffrwydrad Treforys

  • Cyhoeddwyd
TreforysFfynhonnell y llun, Robert Melen

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn ffrwydrad yn Abertawe fore Llun.

Yn ôl Heddlu De Cymru roedd Brian Davies yn 68 oed.

Fe wnaeth y digwyddiad, ar Ffordd Clydach yn ardal Treforys, ddinistrio un tŷ yn llwyr ac achosi difrifol sylweddol i sawl un arall.

Cadarnhaodd y llu fod y corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol brynhawn Mawrth, gyda theulu Mr Davies yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Ffynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un tŷ ei ddymchwel yn llwyr, a sawl tŷ arall ei ddifrodi'n sylweddol

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Brian, ar adeg sy'n anodd iawn iddyn nhw a'r rhai sydd wedi'u hanafu yn dilyn y ffrwydrad.

"Mae ein hymholiadau'n parhau i ganfod achos y digwyddiad, ac mae'r ymholiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol gan gynnwys y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Mae amynedd a dealltwriaeth trigolion Ffordd Clydach, a'r gymuned ehangach yn Nhreforys, yn cael ei werthfawrogi'n fawr tra bod y gwaith hwn yn parhau."

Mwyafrif wedi dychwelyd i'w cartrefi

Dywedodd tad bachgen 14 oed a gafodd ei anafu yn dilyn y ffrwydrad bod ei fab, a'i fam yntau, yn "lwcus i fod yn fyw".

Fe gafodd Ethan Bennett, ac un person arall, eu rhyddhau o'r ysbyty ar ôl cael eu hanafu ddydd Llun. Mae mam Ethan, Claire, yn parhau yn yr ysbyty.

Mae cwmni nwy Wales & West Utilities yn parhau i ddweud nad yw'n eglur eto beth achosodd y ffrwydrad, ond bod y difrod yn "ddifrifol".

Dywedodd Cyngor Abertawe nos Fawrth bod y mwyafrif o'r rheiny oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ar ôl y digwyddiad wedi cael dychwelyd adref.

Ond ychwanegwyd nad yw trigolion wedi cael mynd yn ôl i 12 o gartrefi tra bo'r gwaith i glirio'r difrod yn mynd rhagddo.

Roedd dirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis, wedi dweud yn gynharach fod pobl sy'n byw mewn 21 o dai wedi aros mewn llety dros dro dros nos.

Ychwanegodd mai gobaith y cyngor yw y gall trigolion ddychwelyd adref cyn gynted ag sy'n bosib, ond does dim awgrym hyd yma pryd fydd hynny.

Pynciau cysylltiedig