'Dim ond £5 yn fwy fydden i'n ennill ar ôl cost gofal plant'

  • Cyhoeddwyd
Danny Carter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Danny Carter yn dweud fod y costau'n golygu na allen nhw fforddio babi arall nawr

Mae rhai rhieni yn dweud bod costau gofal plant yng Nghymru wedi effeithio ar eu gallu i weithio, a'u cynlluniau i gael mwy o blant.

Mae Llywodraeth Cymru dan bwysau i sicrhau fod eu cynlluniau gofal plant yr un peth â chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr.

O 2025 ymlaen, bydd rhieni yn Lloegr yn cael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim - os ydyn nhw'n gymwys - ar gyfer plant naw mis a hŷn.

Ar hyn o bryd, mae'r cynnig yng Nghymru ar gyfer rhieni plant sy'n dair a phedair oed.

'Methu cael ail blentyn nawr'

Mae Danny Carter, 32, sy'n rheolwr canolfan ddringo yng Nghaerdydd, yn dweud ei fod yn poeni "o hyd" am gostau gofal plant.

"Mae'n cyllideb ni'n llawer tynnach nag oedd e'n arfer bod, ond 'dyn ni'n ennill mwy o arian na 'dyn ni erioed wedi," meddai.

Dywedodd ei fod ef a'i bartner wedi cael swyddi newydd yn ddiweddar oedd yn talu "tipyn yn fwy", ond am fod hynny'n golygu mwy o ddyddiau yn y feithrinfa i'w mab dwy oed, maen nhw ar eu colled yn ariannol.

"Cyn hyn dwi'n meddwl ein bod ni'n talu tua £200 y mis ar gyfer diwrnod yr wythnos yn y feithrinfa," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Heb gymorth aelodau'r teulu, mae gofal plant yn gallu bod yn gostus tu hwnt i rieni

"Nawr 'dyn ni'n edrych ar £900 y mis, bob mis. Mae'n lot o bres, mae'n llawer mwy na'n morgais ni - hwn yw'r peth mwya' 'dyn ni'n ei wario arno o bellffordd."

Yn ôl elusen plant Coram, mae prisiau gofal plant wedi cynyddu'n gynt yng Nghymru nac yn Lloegr a'r Alban - gyda 50 awr yr wythnos o blant dan ddwy oed wedi cynyddu dros 4% ers 2021.

Dywedodd Mr Carter fod meithrinfa ei fab wedi cysylltu'n ddiweddar i ddweud y byddai eu ffioedd dyddiol yn codi o £63 i £70 ym mis Ebrill.

"Dydyn ni ddim yn gwario ar bethau bach ychwanegol bellach, mae'r arian yn mynd yn syth," meddai.

"Ddylai hi ddim fod felly. Rydyn ni'n ennill £60,000 rhyngddo ni. Ddylen ni ddim fod gyda chyn lleied fel ein bod ni'n poeni os allwn ni fforddio bwyd o un wythnos i'r llall.

"Allwn ni ddim cynllunio i gael ail blentyn nawr nes bod ein mab yn dair oed ac yn gymwys i gael gofal am ddim, achos bydd y pwysau ariannol yn llai wedyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai rhieni'n dweud fod gofal plant yn costio mwy nag y bydden nhw'n ennill o wneud mwy o oriau yn y gwaith

"Mae'r bwlch oedran yn cael ei orfodi. 'Dyn ni wastad wedi bod eisiau mwy o blant, ond allen ni ddim fforddio cael plentyn arall nawr heb ryw fath o gymorth."

Mae addysg a gofal plant wedi ei ddatganoli yng Nghymru, felly byddai unrhyw newid i gymorth gofal plant yn fater i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru "eisoes yn ehangu ein cynnig gofal plant i'r rheiny sy'n ddwy oed", fel rhan o'u cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

"Byddwn yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio'r arian ychwanegol o'r cyhoeddiad hwn [ar gyfer Lloegr] fel cabinet, i weld beth sydd orau ar gyfer anghenion polb Cymru," meddai.

Effaith ar yrfa

Mae Liz Jeffries, 38, wedi bod eisiau mwy o oriau yn ei swydd ers i'w merch, Elsie, droi'n ddwy llynedd.

Ond mae'r fam i ddau, sy'n gweithio rhan amser fel rheolwr gweinyddol i gwmni gwerthu tai yn Y Fenni, yn dweud mai dim ond £5 yn ychwanegol y byddai hi'n ennill unwaith roedd costau gofal plant yn cael eu hystyried.

"Ges i gynnig mwy o oriau yn y gwaith, ond pan nes i 'neud y syms doedden nhw ddim yn adio lan," meddai.

"Roeddwn i wir eisiau ei wneud e, ond nes i droi lawr [rhagor o waith] jyst am resymau ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Jeffries wedi gorfod gwrthod gwaith ychwanegol am nad oedd gwerth ariannol iddi wneud

"Mae gofal plant mor ddrud. Mae'r sefyllfa yn fy ngwneud i'n rhwystredig achos dwi'n gwybod alla i roi mwy i fy nghyflogwr presennol, ond dwi'n cael fy nal yn ôl gan y system gofal plant.

"Dwi'n poeni y gallai e effeithio ar fy ngyrfa i, achos dwi ddim yma cymaint.

"Dwi wastad wedi gweithio llawn amser - dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd i mi weithio rhan amser."

Dywedodd Ms Jeffries na fydd ei merch yn gymwys ar gyfer cynnig presennol Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant am ddim tan fis Medi, a bod angen mwy o gymorth.

"Os ofynnwch chi i bobl - ffrindiau, teulu, cydweithwyr - maen nhw'n gwybod mod i jyst yn cyfri'r misoedd nes ga'i y cyllid," meddai.

"O'r bobl eraill dwi 'di siarad efo hefyd, mae llawer o rieni eraill sy'n cael cynnig mwy o waith ond methu ei gymryd oherwydd gofal plant."

Pynciau cysylltiedig