Gwahardd TikTok o ffonau gwaith Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
TikTok
Disgrifiad o’r llun,

Mae TikTok wedi gwadu'n gryf honiadau ei fod yn rhoi data defnyddwyr i lywodraeth China

Mae ap cyfryngau cymdeithasol TikTok wedi'i wahardd o ffonau gwaith gweision sifil a gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae'n dilyn adolygiad gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol a chamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i wneud yr un peth.

Mae TikTok wedi gwadu'n gryf honiadau ei fod yn rhoi data defnyddwyr i lywodraeth China.

Mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth i'w wneud am ei chyfrif ei hun ar y platfform.

Yn y cyfamser mae Senedd Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i gyfyngu ar ddyfeisiau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu canllawiau heddiw gan Swyddfa'r Cabinet mewn perthynas â TikTok a byddwn yn eu gweithredu'n llawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ap yn destun craffu cynyddol dros bryderon diogelwch a phreifatrwydd data

Mae cyfyngiadau tebyg eisoes wedi'u gosod gan lywodraethau'r UD a Chanada a'r Comisiwn Ewropeaidd.

'Rhagofalus'

Dywedodd datganiad gan Swyddfa'r Cabinet: "O ystyried natur sensitif posibl gwybodaeth sy'n cael ei storio ar ddyfeisiau'r llywodraeth, bydd polisi'r llywodraeth ar reoli ceisiadau trydydd parti yn cael ei gryfhau ac mae gwaharddiad rhagofalus ar TikTok ar ddyfeisiau'r llywodraeth yn cael ei gyflwyno."

Dywedodd fod yr ap yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr roi caniatâd i TikTok gyrchu data sydd wedi'i storio ar y ddyfais, sydd wedyn yn cael ei gasglu a'i storio.

"Mae'r llywodraeth, ynghyd â'n partneriaid rhyngwladol, yn pryderu am y ffordd y gellir defnyddio'r data hwn."

Dywedodd gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Oliver Dowden, sydd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford, ddydd Iau: "Nid yw'r gwaharddiad yn berthnasol i adrannau'r llywodraeth ganolog yn unig, mae'n berthnasol i holl asiantaethau'r llywodraeth, gan gynnwys cyrff hyd braich."

Dywedodd llefarydd ar ran Senedd Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i gyfyngu ymhellach ar y defnydd o ddyfeisiadau'r Senedd ond rydym yn monitro ac yn diweddaru ein systemau seibrddiogelwch a chyngor i ddefnyddwyr yn gyson."