Senedd: Zoom nid Microsoft Teams oherwydd dwyieithrwydd
- Cyhoeddwyd
Penderfynodd Senedd Cymru ddefnyddio Zoom ar gyfer ei chyfarfodydd rhithwir ers dechrau'r pandemig oherwydd y gallai weithio'n ddwyieithog, er na chafodd Zoom gymeradwyaeth gan Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol tan Chwefror 2022.
Roedd Microsoft "yn araf iawn yn cyflwyno swyddogaethau dwyieithog i'w meddalwedd Teams" yn ôl prif weithredwr a chlerc y Senedd, Manon Antoniazzi.
Dywedodd Microsoft bod Teams, ers haf eleni, yn galluogi cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd.
Mae ystadegau'r Senedd ar y defnydd o'r Gymraeg mewn trafodion yn dangos cynnydd yng nghanran y cyfraniadau yn yr iaith ers dechrau pandemig y coronafeirws.
Cyfarfod rhithwir y Senedd ar Zoom ar 1 Ebrill 2020 oedd y cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae'r cyfarfodydd llawn a phwyllgorau yn parhau ar ffurf hybrid gyda rhai Aelodau yn y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Eglurodd Manon Antoniazzi, "roedd llawer o reolau a rheoliadau a phrotocolau yr oedd yn rhaid eu gosod o'r neilltu oherwydd bod angen i ni ddal ati".
"Roedd yn rhaid i ni godi materion mor uchel ag y gallem gyda Microsoft, ond roeddent yn araf iawn yn cyflwyno swyddogaethau dwyieithog i'w meddalwedd Teams.
"Felly er na chafodd ei gymeradwyo mewn gwirionedd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar y pryd i ddefnyddio Zoom, oherwydd ei fod yn rhywbeth a oedd yn cael ei brif ffrydio'n sydyn, cynigiodd Zoom y swyddogaeth ddwyieithog honno inni.
"Felly neidion ni'n syth i mewn."
Derbyniodd Zoom ardystiad "hanfodion seiber" y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ym mis Chwefror eleni.
Nid yw'r ganolfan - sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) - yn rheoleiddiwr ond mae'n darparu cyngor seiberddiogelwch.
Mae'r cynllun ardystio gan y ganolfan yn helpu sefydliadau i ddangos i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid bod eu diogelwch yn amddiffyn rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin.
Ychwanegodd prif weithredwr y Senedd, yn y sgwrs gyda chyn-fyfyrwyr Coleg Iesu Rhydychen, dolen allanol: "Fe wnaethon ni roi gwahanol fesurau lliniaru diogelwch ar waith ac rydyn ni wedi gweithio gyda Zoom i wella eu sgôr diogelwch nawr, felly rydyn ni'n hyderus iawn bod hynny wedi digwydd.
"Ond wnaethon ni ddim oedi o ran cyflwyno cyfieithu ar y pryd i'n trafodion pan aethom yn rhithwir."
Dywedodd Microsoft wrth y BBC bod y cyfleuster newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn "caniatáu pennu cyfieithydd ar y pryd fel bo modd i fynychwyr cyfarfodydd Teams sydd wedi eu trefnu ddewis pa iaith maen nhw am wrando arni, a hynny mewn amser go iawn. Mae modd i fynychwyr newid rhwng ieithoedd yn ystod y cyfarfod hefyd."
Ychwanegodd y "bydd o fudd i gyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cynnal cyfarfodydd wedi'u trefnu mewn gwahanol ieithoedd, a bydd yn sicrhau eu bod nhw'n gynhwysol a bod modd i fynychwyr ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud".
'Cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg'
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, sydd yn gyfrifol am gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd, "bu cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg wrth i'r Senedd arbrofi â modelau rhithwir a hybrid o weithio, a bydd angen adeiladu ar hynny".
"Roedd y ffordd yr aethpwyd ati i drefnu a chynnal ein cyfarfodydd o'r cychwyn cyntaf yn brawf o'r cynnydd a wnaed a'r feddylfryd sydd bellach wedi ymwreiddio.
"Y cwestiwn bob amser yw sut y gallwn ni ddarparu gwasanaeth dwyieithog yn hytrach nag a oes rhaid i ni ddarparu gwasanaeth dwyieithog, gyda'r pwyslais ar ddwyieithrwydd diofyn."
Dywed Comisiwn y Senedd bod sawl rheswm posibl am y cynnydd yng nghanran y cyfraniadau yn Gymraeg ers dechrau pandemig, "gan gynnwys y ffaith y gall siaradwyr Cymraeg a dysgwyr deimlo'n fwy hyderus i ddefnyddio'u sgiliau pan fyddant yn cyfrannu'n rhithwir, a'r ffaith nad oes angen i'r sawl sy'n defnyddio gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ddefnyddio clustffonau pan fyddant yn cyfrannu'n rhithwir".
O ganlyniad, dywed y comisiwn y bydd yn "ystyried sut y gellir cefnogi Aelodau i barhau i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg yn hyderus mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ar yr ystâd" ac "edrych ar ffyrdd o ddarparu cyfarpar a thechnoleg cyfieithu ar y pryd sy'n fwy hylaw a hwylus i'w defnyddio".
Bydd hefyd yn "datblygu cynlluniau unigol a rhoi cefnogaeth wedi'i deilwra i unrhyw Aelodau sy'n dymuno teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg mewn trafodion neu ddigwyddiadau".
Rhegi
Ar 22 Ebrill 2020, ymddiheurodd y gweinidog iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, wrth gyd-Aelod Llafur, Jenny Rathbone, am regi wrth gyfeirio ati yn ystod cyfarfod o'r Senedd oedd yn cael ei gynnal ar Zoom.
Symudodd y Senedd yn ddiweddarach i fformat hybrid, lle gallai aelodau fod yn bresennol mewn niferoedd cyfyngedig.
Ar ôl cyfnod byr pan ddychwelodd trafodion rhithwir y gaeaf diwethaf, cafodd cyfyngiadau eu lleddfu ar faint o wleidyddion all fynd i'r siambr.
Ers 1 Mawrth eleni mae pob un o'r 60 aelod yn cael mynychu'r siambr os ydyn nhw'n dymuno.
Roedd disgwyl i weithio a phleidleisio o bell ddod i ben ar ôl yr haf, ond wedi adolygiad fe wnaeth uwch aelodau'r Senedd ar y pwyllgor busnes trawsbleidiol gynnig caniatáu i Aelodau barhau i ymuno â'r cyfarfodydd llawn a phwyllgorau o bell.
Mae'r rhai sydd o blaid yn dweud y gallai helpu i ddenu mwy o bobl amrywiol i wasanaethu fel Aelodau o'r Senedd, ond mae prif chwip y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar wedi dweud bod "pobl Cymru yn ethol pobl i'w cynrychioli yn y Senedd, nid i'w cynrychioli o'u soffa".
Daeth sesiynau hybrid yn Nhŷ'r Cyffredin i ben yn haf 2021.
Dywed Senedd Cymru eu bod, ers dechrau'r pandemig, wedi cynghori nifer o seneddau, cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol ar gynnal cyfarfodydd rhithwir gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020