Dyn yn euog o lofruddio ei ffrind yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio'i ffrind mewn fflat yn Wrecsam yn 2021.
Fe wnaeth Mark Jones, 20, rannu fideos o'i ymosodiad ar Kyle Walley, 19, ar ap cymdeithasol Snapchat.
Roedd Jones wedi cyfaddef yn Llys y Goron Yr Wyddgrug iddo drywanu Mr Walley, ond wedi gwadu llofruddiaeth.
Roedd y ddau ddyn wedi cwrdd er mwyn gwylio ffeinal Euro 2020, ond fe wnaeth Jones ymosod Mr Walley ar ôl i'r ddau ddechrau dadlau.
'Rho'r gyllell i lawr'
Roedd fideos a gafodd eu rhannu ar Snapchat yn dangos Jones yn yfed seidr ac yn gwneud ystumiau trywanu tuag at Mr Walley tu ôl i'w gefn.
Mewn fideo arall dywedodd Jones ei fod yn "meddwl am drywanu rhywun ar hyn o bryd."
Roedd Jones hefyd wedi anfon neges destun at Mr Walley y diwrnod blaenorol oedd yn cynnwys llun ohono gyda chyllell cartŵn a'r neges: "Dwi'n mynd i dy drywanu di yfory."
Dywedodd ffrind Mr Walley, a oedd ar alwad ffôn gydag ef yn fuan cyn yr ymosodiad, ei bod wedi'i glywed yn gweiddi: "Rho'r gyllell i lawr."
Cafodd fideos arall eu dangos yn y llys, gan gynnwys un lle'r oedd Mr Walley yn gorwedd yn farw tra bod Jones yn ei gicio ac yn stampio arno.
Gwnaeth fideo arall a recordiwyd tu allan i'r fflat dangos Mr Jones gyda gwaed ar ei ddwylo.
Wynebu carchar am oes
Fe wnaeth ffrindiau gysylltu â'r heddlu ar ôl gweld y fideos ar Snapchat.
Roedd Jones wedi mynnu ei fod yn amddiffyn ei hun oherwydd bod Mr Walley wedi dod ato gyda chyllell.
Dywedodd Mr Justice Stephen Eyre y byddai Jones yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Bydd Jones yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021