Y stori tu ôl i Cân i Mam

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch sgwrs Mam a'i mab, Helen a Huw Owen

"Ni fydd yno'n gafael yn dy law, yn gymorth ac yn gefn."

Dyna un o linellau Cân i Mam gan Huw Owen a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Ysgrifennodd y cyflwynydd teledu y gân i'w fam, Helen Owen o Lanberis, ar ôl iddi gael diagnosis, triniaeth a gwella o ganser y fron.

Ar Sul y Mamau, Cymru Fyw aeth draw i sgwrsio gyda'r ddau yn eu cartref i glywed y stori tu ôl i'r gân.

Diagnosis

Roedd Cymru ar ei thrydydd cyfnod clo cenedlaethol yn Ionawr 2021 pan gafodd Helen sy'n wraig i Dafydd, yn Fam i Tomos a Huw, ac yn Nain i Macsen, ei diagnosis.

Eglura: "Ges i ddiagnosis canser y fron ym mis Ionawr 2021 a wedyn oedd hynna yn dipyn bach o sioc ar y pryd. Wnes i ddechra' cemotherapi - chwara' teg - lai na phythefnos ar ôl y diagnosis.

"Hwnnw oedd y darn gwaetha de?" gofynna Helen i Huw, yn eu cartref yn Llanberis.

Roedd Huw, oedd yn gyflwynydd i Cyw ar S4C ar y pryd, wedi dod adref o Gaerdydd i fyw gyda'i fam a'i dad yn ystod y cyfnod clo.

Meddai Huw: "Y cemo, ia, oedd hwnna yn awful. Oedd y cyfnod clo, bron yn blessing in disguise i fi achos ges i gyfla i ddod adra go iawn, i helpu Dad a 'mrawd ac i ofalu am Mam."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bu Huw yn un o gyflwynwyr Cyw am wyth mlynedd. Mae'n gyflwynydd llawrydd ac yn drydanwr erbyn hyn

Cemotherapi a chefnogaeth

Cafodd Helen chwe sesiwn o cemotherapi bob tua tair wythnos, a roedd cyfnodau gwell na'i gilydd yn ystod ac ar ôl pob sesiwn.

Eglura Helen: "O'n i'n cael cemo bob tair wythnos. O'n i'n iawn am dri neu bedwar diwrnod ar ôl y driniaeth a o'n i'n mynd i lawr allt wedyn.

"A wedyn o'n i'n gwella, o'n i'n mynd nôl am driniaeth, wedyn o'n i'n mynd lawr eto ac o'n i'n mynd yn waeth bob tro. Dyna oedd y peth 'de. Ac yr hen Huw oedd yma yn cadw bob dim efo'i gilydd chwara' teg."

Ychwanega Huw: "Oedd o'n tough, ti'n gweld rhywun yn cael cemo a fel mae Mam yn deud - mae'n iawn am few days, wedyn mae'n mynd lawr am bythefnos more or less, wedyn fel mae hi'n dechra gwella a theimlo'n well ar ôl diwadd y cyfnod o dair wythnos, mae hi'n gorfod mynd eto.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Canu'r gloch ar ôl gwella: 'Clywed y gloch sydd yn arwydd fod cyfnod ar ben'

"Ond mi wnes di 'neud o, a mi ges di gân allan ohono fo!" meddai Huw, wrth bryfocio ei fam.

"Do, wnes i 'neud o." ateba Helen. "O'n i'n benderfynol bo' fi'n mynd i 'neud o. Oeddan nhw 'di deud os ti mond yn medru 'neud tri neu ond pedwar sesiwn, mae'n well na dim byd, ond o'n i'n benderfynol 'mod i'n mynd i neud y chwe sesiwn."

'Chdi sy'n glir i fyw dy fywyd di'

Bellach mae Helen yn glir o ganser ac mae'r rhyddhad iddi hi a'i theulu i'w glywed yng ngeiriau Cân i Mam.

Fel rhan o'i thaith at wella, derbyniodd Helen driniaeth lumpectomy ac yna cemotherapi pellach:

"Ar ôl y lumpectomy, o'n i'n cal cemo bach unwaith bob tair wythnos wedyn am ddeuddag sesiwn, ond doedd hwnnw ddim hannar mor ddrwg a'r un arall, so o'n i'n gorffan triniaeth mis Mawrth flwyddyn dwytha, wedyn o'n i'n cael yr all clear mis Mehefin mewn ffordd."

'Un cam pob dydd ydy'r ffordd'

Dyna neges Huw yn ei gân Cân i Mam, a dyna fu'n rhoi nerth i Helen a phawb o'r teulu drwy'r cyfnodau anodd.

"Fel'na oedd rhywun yn ymdopi efo'r peth 'de. Oedd rhaid i chdi jest mynd o un dydd i'r llall a jest gweld sut oedd y diwrnod yn mynd," meddai Helen.

Ffynhonnell y llun, Huw Owen
Disgrifiad o’r llun,

Helen gyda chriw o ffrindiau a theulu aeth i Aberystwyth i gefnogi Huw ar Cân i Gymru

"Dwi'n meddwl bod hwnna wedi hitio lot o bobl dwi 'di siarad efo wedyn sydd wedi mynd drwy'r un peth, a maen nhw'n deud - 'Ia mae hynna yn wir - un cam bob dydd'."

Ychwanegu Huw: "Ia, o'n i'n siarad efo rhywun yn ddiweddar oedd yn dweud bo' nhw efo rywun yn y teulu rŵan sydd efo canser a dyna yr unig beth nes i ddweud wrthyn nhw, 'Jest cymera fo day by day. Paid â sbio gormod ymlaen'."

"A mae triniaeth pawb yn wahanol, mae rhai yn mynd mor sâl 'dy nhw methu 'neud y cemotherapi - o'n i'n lwcus bo fi'n medru. Ond mae triniaeth pawb yn wahanol," eglura Helen.

Canser yn ystod Covid

Yn ogystal â bod yn gefn i'w fam, roed ei fam hefyd yn gefn i Huw trwy'r driniaeth.

Meddai: "Oedd Mam hefyd yn cynnal ni gyd. Pan oedd Mam yn sâl, mae 'na gymaint mae pobl yn gorfod 'neud drostach di, oedd hi'n ddiolchgar iawn, wastad yn dallt faint o waith oedd o i bawb nid jest i fi a Dad.

"Hefyd oedd o'n gyfnod clo felly doedd 'na neb yn methu dod draw. Os fasa wedi digywdd unrhyw adag arall, fasa 'na bobl eraill wedi dod draw i helpu."

Ffynhonnell y llun, Huw Owen
Disgrifiad o’r llun,

Huw, Helen, Dafydd a Tomos

Golygodd y cyfnodau clo yn 2021 nad oedd Tomos, mab hynaf Helen a brawd mawr Huw, yn cael dod draw.

Meddai Helen: "Oedd o'n gyfnod anodd achos oeddan ni yn ganol cyfnod clo ar adega' a wedyn doedd 'na neb yn cael dod yma.

"Yn ystod y cyfnod, nath Tomos symud i Lanberis ond doedd o dal ddim yn cael dod i'n gweld ni - dyna be' oedd yn anodd, achos oedd bob dim ar Huw, jest iawn.

"Gathon ni fisitors unwaith. Ddoth Bethan a Martin a Mari i fyny o Bontypridd - doeddan ni ddim yn gwbod bo' nhw'n dod. Ddathon nhw ddim i mewn i'r tŷ.

"Oeddan ni'n ista ar soffa yn stafall ffrynt ac oeddan nhw yn ista ar y wal tu allan a ffenast yn 'gorad. Oedd hynna yn sypréis bach neis.

"Doedd o ddim yn gyfnod arferol, ond eto, mewn un ffordd, oeddach di'n teimlo fel bo' chdi'n cadw chdi'n saff achos doeddach di ddim yn cael cymysgu efo pobl. Felly o ran y salwch, oeddach di'n saffach bo' chdi ddim yn cael gweld pobl."

Cân i Mam yn Cân i Gymru

I ddangos ei werthfawrogiad o'i fam, ysgrifennodd Huw Cân i Mam. Cân gydag ystyr arbennig i'w teulu bach nhw oedd hi am amser hir cyn i Huw ei hanfon draw i gystadleuaeth Cân i Gymru.

Eglura: "Do'n i heb 'neud dim efo'r gân achos wnes i ond sgwennu fo i Mam i ddechra' - yn amlwg wnes i ddangos o i Mam, yna 'mrawd ac oedd Dad yn gwybod amdano fo. Wedyn dwi'm yn gwbod be ddoth drosta fi rili i'w anfon o i mewn!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Huw ar Cân i Gymru yn perfformio Cân i Mam

Ychwanega Helen: "Nathon ni yrru fo i jest 'chydig mwy o'n teulu bach ni wedyn do, ac oedd pawb 'di mopio."

Yn hynod falch o lwyddiant Huw yn Cân i Gymru, meddai Helen wrth ei mab:

"Oedd y gân, oedd hi yn wahanol i bob cân arall doedd, oedd 'na stori tu ôl iddi, oedd o'n neis iawn a phawb yn falch iawn ohonach di."

"Dwi 'di cal llwyth o bobl ar Facebook, Instagram a phetha' yn deud bo' nhw wrth eu bodd efo'r gân felly dwi'n chuffed," meddai Huw.

Ffynhonnell y llun, Huw Owen
Disgrifiad o’r llun,

Huw a Helen ar noson Cân i Gymru

Sul y Mamau

Yn ystod ei thriniaeth roedd Huw yn gwneud yn siŵr bod ei Fam yn bwyta, a bellach mae Huw yn dipyn o gogydd.

"Dwi'n uffar o chef 'wan. Do'n i methu cwcio cyn i Mam fynd yn sâl!" pryfocia Huw.

"Mae Mam 'di dysgu fi i neud cinio dydd Sul a 'wan dwi'n 'neud un gwell na hi!"

Ffynhonnell y llun, Huw Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cinio dydd Sul Huw - ac mae un peth yn ei wneud yn arbennig iawn - 'onion rings'!

A beth yw gobeithion Helen am ddathliadau Sul y Mamau eleni?

"'Nei di 'neud cinio dydd Sul i fi 'nei Huw?" mae Helen yn wincio ar ei mab.

Ychwanega: "Fyddwn ni ddim yn gwneud 'mwy nag arfar ond fydd o'n neis cael y teulu o gwmpas."

Hefyd o ddiddordeb: