Dedfryd o garchar am oes i ddyn a laddodd ei ffrind

  • Cyhoeddwyd
Mark JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Jones yn treulio o leiaf 16 mlynedd dan glo ar ôl lladd Kyle Whalley

Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar am oes gydag isafswm o 16 mlynedd a 126 diwrnod dan glo, ar ôl cael ei ganfod yn euog o lofruddio'i ffrind mewn fflat yn Wrecsam yn 2021.

Fe wnaeth Mark Harley Jones, 20, rannu fideos o'i ymosodiad ar Kyle Walley, 19, ar ap cymdeithasol Snapchat.

Roedd y ddau ddyn wedi cwrdd er mwyn gwylio ffeinal Euro 2020, ond fe wnaeth Jones ymosod ar Mr Walley ar ôl i'r ddau ddechrau dadlau.

Fe wnaeth ffrindiau gysylltu â'r heddlu ar ôl gweld y fideos ar Snapchat.

Roedd Jones wedi mynnu ei fod yn amddiffyn ei hun oherwydd bod Mr Walley wedi dod ato gyda chyllell.

Fe gyfaddefodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug iddo drywanu Mr Walley, ond roedd wedi gwadu llofruddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kyle Walley yn dilyn digwyddiad yn ei gartref ym mis Gorffennaf 2021

Yn dilyn y ddedfryd dywedodd Andrew Warman o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): "Roedd Kyle Whalley yn bwriadu gwylio'r pêl-droed gyda'i ffrind, ond yn lle hynny cafodd ei lofruddio gan berson roedd wedi ymddiried ynddo a gadael i mewn i'w dŷ.

"Mae'r ffaith bod y weithred angheuol wedi ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn ysgytwol, ac mae'n rhaid ei fod wedi bod yn erchyll i'r bobl a welodd beth ddigwyddodd.

"Fe wnaeth y CPS brofi nad oedd Jones yn amddiffyn ei hun, fel y gwnaeth o fynnu, ac mae'r euogfarn yn ei ddwyn i gyfiawnder.

"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Kyle, sydd wedi dangos cryfder mawr trwy gydol proses y llys."

'Sylwadau o dan y fideos yn ffiaidd'

Yn y llys fe ddarllenodd tad Kyle, Robert Walley, ddatganiad personol dioddefwr.

Dywedodd: "Roedd Kyle yn blentyn hapus, roedd o hyd yn barod am jôc, roedd yn dod ymlaen gyda phawb.

"Ar amser ei farwolaeth roedd yn aros i ddechrau prentisiaeth fel trydanwr. Rydyn ni'n teimlo bod blynyddoedd gorau ei fywyd wedi cael eu cymryd oddi wrtho.

"Roedd ei farwolaeth yn erchyll a'n sioc lwyr i'r teulu cyfan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Gan gyfeirio at y fideos a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Rydw i'n gallu cofio pobl yn cysylltu â ni amdano o hyd.

"Cawsom lawer iawn o alwadau gan nifer fawr o bobl am y ffaith bod y fideos ar-lein.

"Dydw i heb wylio'r fideos ond dwi'n pryderu fod Caitlin, chwaer Kyle, wedi ac mi rydw i wedi sylwi sut mae wedi effeithio arni'n feddyliol.

"Mae'r sylwadau o dan y fideos yn ffiaidd. Ni ddylai unrhyw un orfod gweld y sylwadau yna am eu plentyn.

"Cyn gynted y byddai'r fideos yn cael eu dileu bydden nhw'n cael eu rhoi yn ôl i fyny gan bobl eraill ac mi fyddai'r boen yn parhau.

"Mae ein teulu gyda thwll enfawr na fydd byth yn cael ei lenwi."

'Fideos erchyll'

Wrth ddedfrydu Jones, dywedodd y barnwr Mr Justice Eyre wrth Jones: "Cafodd Kyle Walley ei ladd yn 19 oed oherwydd eich awydd hunanol am gydnabyddiaeth.

"Mi wnaethoch chi ffilmio a darlledu delweddau o Kyle yn gafael yn ei frest a'n erfyn arnoch chi i roi'r gyllell i lawr.

"Ar ôl iddo gwympo'n farw ar y llawr mi wnaethoch chi gicio a stampio ar ei gorff gan weiddi'n ffiaidd arno.

"Mi wnaethoch chi ddarlledu'r fideos erchyll yma ar Snapchat.

"Rwy'n fodlon eich bod wedi gwneud hyn yn bwrpasol gan eich bod eisiau cael eich gweld yn bychanu Kyle fel hynny."

Pynciau cysylltiedig