20 mlynedd ers Rhyfel Irac: 'Doedd dim rheswm i ni fod yna'
- Cyhoeddwyd
Bron i 20 mlynedd ers iddo wasanaethu yn Irac, mae cyn-filwr o ogledd Cymru'n dweud ei fod yn dal i geisio dygymod gyda'i brofiadau.
Fe ddechreuodd rhyfel Irac ar 19 Mawrth 2003 pan ymosododd y Cynghreiriaid - lluoedd America a Phrydain yn bennaf - ar Irac.
Wrth edrych yn ôl, mae Jason Hughes yn dweud ei fod wedi treulio'r ddau ddegawd diwethaf yn brwydro â gorbryder, alcohol a chyffuriau.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud eu bod yn "gwerthfawrogi'n fawr" wasanaeth cyn-filwyr.
'Dwi dal yn stryglo'
Llai na deufis o ryfel confensiynol oedd 'na yn Irac, gyda'r rhengoedd Iracaidd yn ildio'n gymharol rhwydd.
Ond fe barahodd yr ansefydlogrwydd, y trais a'r lladd am flynyddoedd.
Yn 16 oed, fe ymunodd Jason Hughes, yn wreiddiol o Gaernarfon, â'r fyddin ychydig fisoedd cyn y rhyfel.
"O'n i fatha 'ia, dwi'n soldiwr rŵan. Dwi'n mynd i 'neud bob dim', achos doedd genna fi ddim fear o farw," meddai.
Flwyddyn yn ddiweddarach roedd Jason yn Irac yn wynebu ymosodiadau'r gwrthryfelwyr.
"Ers hynny, a dod allan a gweld fi'n stryglo a gweld ffrindiau fi'n stryglo, gweld ffrindiau fi'n lladd eu hunain, a gweld be' oedd yn digwydd yn y newyddion, dwi 'di mynd dros y blynyddoedd: 'Doedden ni ddim i fod yna'.
"Doedd 'na ddim rheswm i ni fod yna o gwbl.
"Blwyddyn yn ôl nes i gyrraedd pwynt lle o'n i ddim isio bod dim mwy.
"Oedd genno fi ddim rheswm i fod yn anhapus. O'n i newydd gael babi, gwraig perffaith, oedd bob dim yn grêt yn bywyd fi.
"Ond o'n i jyst mewn cell bach yn dywyll yn y nos, yn yfed a trio delio efo be' oedd yn mynd ymlaen yn pen fi. A methu.
"Dwi dal yn stryglo rŵan. Er bod fi'n sobr a dwi'n byw'n lot mwy iach, dwi dal yn stryglo byw efo stress, efo gwaith, dwi'n overthinkio a dwi'n meddwl bod fi mewn rhyfel."
Diffyg paratoi?
Roedd llawer yn y gorllewin yn gwrthwynebu ymosod ar Irac, ac roedd 'na lawer o brotestiadau yng Nghymru a thu hwnt yn erbyn y rhyfel.
Ond yn ogystal â disodli unben Irac, Saddam Hussain, roedd llywodraethau America a Phrydain yn mynnu bod rhaid ymosod i gael gwared ar arfau cemegol a biolegol oedd ganddo.
Ni chafodd y rheiny fyth mo'u darganfod, ac mae'r cwestiynau am gymhelliant y Cynghreiriad wedi parhau.
Felly hefyd, y cwestiynau am y paratoi i ailadeiladu'r wlad ar ôl y brwydro.
Tra'n hyfforddi'r heddlu yn Bosnia y cafodd John Hughes Jones ei alw i wneud yr un gwaith yn Irac yn 2003.
"Doedd 'na ddim cynllun mewn lle i wneud hynny," meddai. "Roedden nhw'n reit hapus efo'r ffordd roedden nhw wedi ennill y rhyfel.
"Ond yn anffodus dyna lle mae rhai o'r problemau wedi dechrau, ac maen nhw'n dal i fodoli yna.
"A dyna lle dwi'n meddwl mae gwleidyddion y gorllewin wedi gadael pobl Irac i lawr."
Amddiffyn rhan Blair
Fe wnaeth lluoedd olaf Prydain adael Irac yn 2009.
Roedd y diffyg paratoi ar gyfer diogelu Irac wedi'r brwydro, a dinas Basra yn arbennig, yn un o nifer o fethiannau gafodd eu rhestru gan adroddiad Syr John Chilcot wedi ei ymchwiliad i ymgyrch Prydain.
Ymhlith y camau gwag eraill oedd pendefyniad unplyg y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, i ymrwymo i'r rhyfel heb drafod â'i gabinet, ar sail cudd-wybodaeth wallus ac ar sail penderfyniad cyfreithiol gafodd ei wneud mewn amodau "anfoddhaol".
Wedi ymchwiliad Chilcot, roedd Tony Blair yn dal i fynnu ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir yn mynd i ryfel.
Mae un oedd yn Gennad Arbennig iddo i Irac, cyn-Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, yn cytuno.
"Oedden ni'n gwybod sut ddyn oedd Saddam Hussein, sut roedd o'n trin ei bobl ei hun," meddai.
"Felly y rhyfel oedd diwedd y peth, yn hytrach na'r dechrau, cyn belled ag o'n i'n y cwestiwn.
"Roedd Tony Blair yn gwrando bob tro o'n i'n dweud wrtho fo be' oedd yn anghywir yna, a be' oedd isio gwella. Roedd o'n gwrando ac ar y cyfan yn ymateb.
"Felly mae'n anheg iawn bod yr ymosodiadau yma'n dal i gael eu gwneud ar Tony Blair. Dwi hefyd yn amddiffyn Tony Blair achos dwi'n gwybod be' ddigwyddodd."
'Cynnig cymorth'
Mewn ymateb i brofiadau Jason Hughes, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwasanaeth gan filwyr a chyn-filwyr ac mae arnom ddyled i bawb a wasanaethodd yn Irac, yn aml trwy aberth personol mawr.
"Rydym yn cydnabod y gall eu gwasnaeth effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd a'u lles.
"Dyna pam ein bod yn rhoi hyfforddiant gorfodol ar iechyd meddwl, yn darparu llinell gymorth 24-awr i helpu i ddelio â straen, yn cynnig cymorth gan gyd-filwyr wedi digwyddiad trawmatig, a mynediad at gymorth iechyd meddwl ar ôl gadael y fyddin."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2016