Rhanbarthau rygbi Cymru i gynnig cytundebau ffurfiol
- Cyhoeddwyd
Bydd rhanbarthau rygbi Cymru yn gallu dechrau cynnig cytundebau ffurfiol wedi iddyn nhw ddod i gytundeb gyda'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).
Dim ond cytundebau anffurfiol roedd Caerdydd, y Scarlets, y Gweilch a'r Dreigiau wedi gallu cynnig dros yr wythnosau nesaf.
Fe wnaeth y rheiny arwain at fygythiad o streic, gyda thrafodaethau dwys cyn i chwaraewyr Cymru gytuno i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad dair wythnos yn ôl.
Ond mae chwaraewyr y rhanbarthau yn disgwyl na fydd y cytundebau newydd yn talu cystal.
Cam i 'sicrhau dyfodol cynaliadwy'
Dywedodd cadeirydd y PRB, Malcolm Wall: "Mae hyn yn gam arwyddocaol yn y broses yr ydym yn ei ddilyn a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Rydym yn bles iawn i ddweud bod ein pedwar tîm proffesiynol nawr mewn sefyllfa i gynnig contractau rhwymol yn ôl yr angen.
"Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i'r chwaraewyr am eu hamynedd a dealltwriaeth, ac yn edrych ymlaen nawr i'r pwynt lle fydd cytundeb llawn yn gallu cael eu harwyddo a fydd yn sail i strategaeth y PRB ar gyfer dyfodol y gêm - moment y mae'r datblygiad diweddaraf yma'n profi sy'n agosach nawr nag erioed."
Dywedodd Nigel Walker, prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC), fod y datblygiad yn "arddangosiad cryf o undod ar gyfer ein gêm".
Ychwanegodd fod "cam sylweddol wedi cael ei wneud ac rydym ni nawr yn agos iawn at ddiwedd y broses yma, newyddion a fydd yn rhoi hwb sylweddol i bawb yn ymwneud efo'r gêm yng Nghymru".
Toriadau i gyflogau
Ond ar hyn o bryd nid oes fframwaith ariannu hir dymor newydd gyda'r URC wedi cael ei gytuno, ac mae'r pedwar rhanbarth yn wynebu toriadau cyllideb ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Caerdydd wedi dweud eu bod yn ceisio "datgloi" arian er mwyn lleddfu'r pwysau a sicrhau bod ganddynt ddigon o chwaraewyr ar gyfer 2023-24.
Ac mae yna awgrymiadau y gallai chwaraewyr sydd ar gyflogau o hyd at £250,000 ar hyn o bryd, cael cynnig o gyn lleied â £30,000 y flwyddyn, gyda chwaraewyr fel y cefnwr Liam Williams, sy'n chwarae i Gymru, yn ystyried gadael Caerdydd er mwyn chwarae yn Japan neu Ffrainc.
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, Ashton Hewitt, ei fod yn disgwyl gweld chwaraewyr yn gadael Cymru os ydyn nhw'n wynebu toriadau i'w cyflogau, ac ychwanegodd fod chwaraewyr yn "cymryd y baich" o anawsterau ariannol rygbi Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023