Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc 41-28 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gael FickouFfynhonnell y llun, FRANCK FIFE

Llwyddodd Cymru i sicrhau pwynt bonws er iddyn nhw golli i Ffrainc yn eu gornest olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Cafodd Cymru'r dechrau perffaith i'r ornest, gyda phwysau cynnar ar y linell gais yn dwyn ffrwyth yn y diwedd wrth i George North groesi dan y pyst.

Ond yn dilyn trosiad Dan Biggar tarodd Ffrainc yn ôl bron yn syth.

Llwyddodd Romain Ntamack i ganfod bwlch yng nghanol cae, ac yn dilyn pas hyfryd Antoine Dupont fe diriodd Damien Penaud yn y gornel, gyda Thomas Ramos yn trosi.

Cafodd y crysau cochion ddigon o feddiant a thiriogaeth yn y cyfnod wedi hynny, gyda Ffrainc yn llwyddo i osgoi cardiau melyn i Uini Antonio am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol, a Gael Fickou am dacl flêr ar Alun Wyn Jones.

Ond wrth i sgrym Cymru ddechrau gwegian, fe agorodd y tîm cartref fwlch am y tro cyntaf wedi hanner awr o chwarae diolch i ddwy gic gosb gan Ramos.

Funudau'n ddiweddarach fe aeth y canolwr Jonathan Danty drosodd yn y gornel wedi symudiad slic, gyda Ramos yn trosi unwaith eto o'r ystlys i sicrhau mantais o 20-7 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Richard Heathcote

O fewn llai na 10 munud o'r ail hanner roedd y Ffrancwyr wedi sicrhau eu pwynt bonws, a'r fuddugoliaeth.

Yn gyntaf fe daranodd Antonio dros y llinell gais, cyn i Fickou wedyn ganfod bwlch arall a chroesi, gyda Ramos yn trosi'r ddau i gadw'i record gicio 100%.

Daeth rhywfaint o gysur i Gymru wedi hynny fodd bynnag, gyda'r eilydd Bradley Roberts yn croesi a Biggar yn ychwanegu'r gic.

Gyda chwarter awr i fynd caewyd y bwlch ymhellach wrth i eilydd arall, Tomos Williams ganfod Justin Tipuric gyda phas hir cyn bod wrth law i orffen y symudiad.

Croesodd Antoine Penaud am bumed cais i'r Ffrancwyr, ond fe aeth y gair olaf i Rio Dyer wrth i'r asgellwr sicrhau pwynt bonws gyda chais yn symudiad olaf yr ornest.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n gorffen yn bumed yn y Bencampwriaeth eleni, gan golli i bob tîm onibai am Yr Eidal.