Ystyried codi tâl ar yrwyr cerbydau sy'n llygru'n drwm
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bydd rhaid i yrwyr cerbydau sy'n llygru'n drwm dalu i deithio ar rai o ffyrdd prysuraf Cymru o dan ddeddf aer glân newydd.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd hynny ond yn digwydd os yw parthau 50mya yn methu â lleihau allyriadau.
Mae'r M4 ger Casnewydd a rhan o'r A470 ger Pontypridd eisoes wedi cael eu hystyried fel parthau aer glân posib os nad yw'r cyflymder is yn gweithio.
Mae'r pwerau i godi tâl wedi'u cynnwys mewn mesur hirddisgwyliedig, sydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer targedau cenedlaethol newydd i leihau llygredd.
Mannau penodol
Mae Mesur yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) hefyd yn dweud:
Gallai dirwyon godi ar gyfer gyrwyr sy'n gadael i'w ceir redeg tra'u bod wedi parcio, yn enwedig y tu allan i ysgolion;
Er mwyn mynd i'r afael â llygredd sŵn, bydd yn rhaid i weinidogion gyhoeddi strategaeth seinweddau (soundscapes) a fyddai hefyd yn amddiffyn synau naturiol fel cân adar;
Bydd gan gynghorau bwerau newydd i orfodi ardaloedd rheoli mwg, lle mae cyfyngiadau ar ba danwyddau y gellir eu llosgi. Ond nid yw'r llywodraeth yn cynnig gwahardd stofiau llosgi coed mewn tai.
Ar hyn o bryd, dim ond mewn rhai llefydd gall y llywodraeth gyflwyno taliadau aer glân ar ffyrdd, er enghraifft ble mae pontydd neu dwneli o leiaf 600m o hyd.
Byddai hynny'n newid dan y Mesur Amgylchedd newydd, gyda gweinidogion yn gallu creu parthau allyriadau isel unrhyw le ar y rhwydwaith o briffyrdd, sy'n cynnwys yr M4.
Mae cyfyngiadau cyflymder o 50mya wedi'u cyflwyno mewn pum lleoliad er mwyn lleihau faint o nitrogen deuocsid sy'n cael ei ryddhau gan gerbydau.
Maen nhw'n cynnwys yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 a rhan o'r A470 ger Pontypridd
'Lleihau effeithiau llygredd aer'
Mae dogfennau'r llywodraeth yn dweud y bydd parthau aer glân dim ond yn cael eu hystyried yn y ddau leoliad yna "os na fydd y terfynau cyflymder yn sicrhau cydymffurfedd parhaus hirdymor".
Ni fyddai'r gyfraith yn berthnasol mewn trefi a dinasoedd, lle mae cynghorau lleol yn gyfrifol am y ffyrdd.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud y bydd hi hefyd yn galluogi cynghorau i gyflwyno eu taliadau allyriadau eu hunain, fel sydd wedi digwydd mewn rhai dinasoedd yn Lloegr.
Dywedodd y gweinidog newid hinsawdd, Julie James ei bod yn obeithiol na fydd angen defnyddio'r mesurau i godi tâl ar yrwyr, gan ei bod yn credu y bydd y cyfyngiadau 50mya yn lleihau llygredd aer.
Mewn cynhadledd i'r wasg dywedodd: "Rwy'n disgwyl iddo weithio... ond os nad yw'n gweithio wedyn bydd yn rhaid edrych i weld a fyddwn yn rhoi parthau rheoli yn eu lle.
"Ond dwi'n meddwl y bydd yn gweithio."
Ychwanegodd bod addysg yn rhan fawr o'r cynllun, gyda thaflenni ffeithiau yn cael eu dosbarthu mewn ysgolion.
Croeso i'r mesur
Cafodd y mesur ei groesawu gan ymgyrchwyr.
Dywedodd Joseph Carter, o elusen Asthma + Lung UK: "Mae llygredd aer yn un o'r problemau iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd rydym yn eu hwynebu, ac mae'n arbennig o niweidiol i'n plant sy'n datblygu'r ysgyfaint."
Ychwanegodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, fod "llygredd aer nid yn unig yn fater iechyd cyhoeddus, ond hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac yn fater amgylcheddol".
Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros newid hinsawdd, eu bod yn "croesawu'r cam hwn" ond fod geiriad y mesur "prin hyd yn oed yn gam cyntaf i gyflwyno Deddf Aer Glan gynhwysfawr".
Ychwanegodd: "Mae angen i'r Llywodraeth Lafur godi eu gêm ac, fel sy'n wir gyda phob deddfwriaeth, bydd y diafol yn y manylion.
"Bydd cydweithwyr a minnau'n edrych i weld a yw'r Bil hwn yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r materion hirsefydlog sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023