Ateb y Galw: Elin Wyn Williams

  • Cyhoeddwyd
Elin a'i ffrind BetsanFfynhonnell y llun, Elin Wyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Elin (ar y dde) a'i chwaer, Betsan (chwith)

Elin Wyn Williams, perchennog Bant a la Cart yng Nghaerdydd, sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu.

Mae'n enedigol o Bontyberem, ond wedi cyfnod yn Aberystwyth mae Elin yn byw ym Mharc Fictoria yng Nghaerdydd. Yn gyn-isdeitlydd byw ac athrawes mae hi nawr yn rhedeg deli a chwmni arlwyo allanol Bant a la Cart ym Mhontcanna.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Wi'n un o'r rheiny sy' bellach ddim yn cofio beth wnes i o ddydd i ddydd ac ma deifio i ddwfn y cof cyntaf yn orchwyl sy'n pery penbleth. Ma eiliad o lun neu eiriau person yn gallu tycio'r cof i greu delwedd a chreu senario a fu.

Felly dwi'n mynd i gamu i dîr solet a nodi atgof pum mlwydd oed yn eistedd tu ôl i ddesg bren fechan yn Ysgol Bancffosfelen a honno'n dyst i raffiti cerfiedig disgyblion a fu. Am chwarter wedi deg yn ddyddiol byddai'r monitor llaeth yn cnocio'r drws a phawb yn ei dro yn camu i nôl y botel fechan wydr a'r clawr ffoil aur. Bys bawd bach yn 'i wthio lawr a chofio arogl yr haenen dew o hufen ar dop y llaeth yn bwrw'r ffroenau.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Allen i nodi edrych lawr dros Bontyberem o dŷ fy mebyd pan fo tawch y Gwendraeth Fawr yn boddi'r Cwm ac Eglwys Capel Ifan yn arnofio uwchben y niwlen, neu fachlud Aberystwyth wrth danio'r prom a suddo'n ddi-nod tu ôl i'r castell. Ond y gwir yw mai Port Talbot sy'n hawlio'r tlws.

Does 'na ddim cyswllt o fath rhyngddo i a'r lle ond ma gweld y gwaith dur yn ei holl ogoniant hyll yn fy atynnu bob tro. Ma 'na rywbeth oesol, cynhanesyddol sy'n denu'r llygad a'r synhwyrau. Fel merch o Gwm Gwendraeth sy'n dal i gofio olion diwydiant glo ddiffoddwyd, ma golygfa ddiwydiannol y dref fach 'ma, y mwg a'r fflamau tawel, yn hwb i'r enaid. Boed yn ddydd neu'n nos, ma 'na gyfaredd iasol yn perthyn i'r lle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith dur Port Talbot

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ma 'na lu o nosau'n cystadlu am y fraint yma ond o ran swrealeidd-dra gwylio'r Spectra wrth y gerddi ym Marina Bay Sands yn Singapore. Sioe olau a dŵr mewn dinas o oleuadau a chysyniadau arall fydol. Ffigyrau, siapiau, adeiladau'n ymddangos o'r unlle a phedwar ohonom wedi'n cyfareddu.

Wrth i'r sioe ddod i ben ma 'na dawelwch o werthfawrogiad wrth i'r dorf araf dreiddio'n ôl i grombil y ddinas i fwynhau'r bwyd stryd a'r bywyd nos yng nghysgodion y temlau a'r mosaic.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Darbodus (dylanwad Mamgu), swnllyd (medde'n Fam), cystadleuol (pan ddaw hi'n gêm o Scrabble).

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan oeddwn yn dysgu Hanes yn yr hen Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth, roedd dysgu bois blwyddyn 7 yn dipyn o her. Dyma i chi fechgyn a'u bryd ar gontracto a pheiriannau trwm. Roedd yr ystafell Hanes ar lawr uchaf yr adeilad wrth y gylchfan ar yr heol fawr ac yng nghanol gwers, pan fyddai Llywelyn Fawr yn herio'r gelyn ar ddiger neu'r Dywysoges Gwenllian yn gwrthymosod ar quad bike fe gaed cadfloedd sydyn....'Mansel!'

Fel haid o forgrug byddai'r garfan wrywaidd yn heidio am y ffenest fawr i eilun addoli pa dancyr neu lori fawr Mansell Davies fyddai'n digwydd pasio. Bydde'r gyrwyr bob tro yn barod eu corn a'r bechgyn dan gyfaredd y talpiau mawr 'ma o fetal. Hyd yn oed heddi, wrth weld lori Mansel Davies, wi'n rhannu gwên yn nileit bois Mach.

Disgrifiad o’r llun,

Loriau Mansel Davies o Sir Benfro

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Flynydde'n ôl bellach, dyma ymweld â Chastell y Blarney gyda ffrindiau a phenderfynu mynd i'r dafarn leol i ddisychedu wedi'r dringo a chusanu'r garreg. Mewn ychydig, fe ddaeth pâr i fewn a'r wraig yn digwydd gwisgo cardigan hynod o hynod! A thra bod y ddau ddyn yn cymharu rhinweddau'r Guinness dyma'r ddwy ohono ni'n dechrau arsylwi ar y wisg fel rhyw fashionistas o fry.

Eisteddodd y pâr wrth y bwrdd nesa heb ddweud gair a dyma ddechrau trafod a oedden nhw 'di cweryla a chreu senários crazy am hynny. Dyma orffen ein diod a chodi i adael pan ddaeth llais benywaidd o fwrdd y tawedogion yn dymuno diwrnod da i ni - a hynny yn y Gymraeg!

Mae'n rhaid dweud bod y dychymyg yn gallu mynd yn wyllt mewn tafarn Wyddelig pan fo person yn credu bod iaith leiafrifol yn glogyn hud! Cywilydd arnom ni.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ma'n chwaer newydd gael ci ac yn sydyn ma pob cydnabod a theulu yn gi-garwyr! A dyma esbonio pam mod i'n darllen pwt mewn papur am berchennog yn gwahodd cŵn eraill i ymuno â hi a'i chi Ella am wâc ar draeth cyn rhoi'r ci i gysgu oherwydd anhwylder. Rhannwyd y neges 1,200 o weithiau ac fe rannodd Ella'r traeth gyda degau o gŵn a'u perchnogion am dro tywodlyd, llaith, a hynny am y tro olaf. A do, fe wnes i grio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n gasglwraig. Wi'n dwli ar ocsiynnau byw ac ar-lein, a'r siopau ail law ac ar sgips. Wi'n casglu llyfrau coginio, llyfrau barddoniaeth, casglu hen greiriau, henebion hynod, casglu celf, casglu planhigion tŷ, casglu planhigion gardd, casglu cypyrddau cornel - tan i mi redeg allan o gorneli.

Mae'r tŷ dan ei sang a phob wal ac wyneb yn gwegian. Ond i gasglwraig ffanatig, ma 'na gymaint sy'n dal i erfyn i gael eu casglu ac ma 'na fodd creu lle i bopeth! Jyst!

Ffynhonnell y llun, Elin Wyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Silff llyfrau coginio Elin

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi wastad wedi dwli ar eiriau ond llyfr Cwtsho gan Manon Rhys oedd y symbyliad i roi geiriau ar bapur arweiniodd at wneud y Cwrs Cyfansoddi fel rhan o'm gradd Hanes yn y Coleg yn Aber.

Dwi hefyd yn ymddiddori'n forbid ym myd y serial killers ac ma' 'Silence of the Lambs' yn ffilm sy bob amser yn mynnu glasied o Rioja a stafell dywyll, dawel i graffu ar eiriau olaf surfelys Hannibal Lecter at Clarice Starling.

O ran podlediad - Clera, The Garden History Podcast a Fortunately…. with Fi and Jane. Bach o bopeth i ddeffro a dofi'r meddwl.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi'n ffysi mewn sawl agwedd ond yn gwbwl ffysi am win! Felly dyma wahodd prif winwyddwyr Seland Newydd yn Marlborough i gludo'u cynnyrch i'm gardd ar ddiwrnod hyfryd o haf yn y 'Diff i gwrdd â'r ffrindiau hynny sy'n rhannu'r blas am y rawnwinen arbennig yma ac i rannu tips ar sut i'w tyfu yn ein gerddi ni yng Nghymru gan fod yr hinsawdd bellach yn ffafriol iawn i'r ffrwyth bach 'ma!

Ffynhonnell y llun, Elin Wyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Elin Wyn Williams (chwith) a'i ffrind Rhian Williams

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae'n gas gen i baked beans a phob pulse (ond nid yr un yn y wythien waed!).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud

Codi'n gynnar i stretsio hyd y diwrnod.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Fel teulu, dy'n ni ddim yn bobl lluniau camera. Welwch chi ddim albyms yn y tŷ na lluniau mewn ffrâm. Felly dwi'n cyflwyno ffrâm wag fel bod modd i realaeth, y dychymyg neu'r cof newid y cynnwys yn ôl y dewis a'r diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffrâm a llun dychmygol Elin

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bydde bod yn deithiwr drwy amser yn grêt gyda'r gallu i newid cwrs hanes os yw hanes yn mynnu hynny.

Ond er gwell neu er gwaeth yng ngeiriau Mynediad Am Ddim - y fi yw y fi yw y fi yw y fi. Et id est.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig