Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig wrth i'r bwrdd rheoli ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig unwaith eto.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi gweithredu yn sgil "pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant".
Daw hynny wrth i holl aelodau'r bwrdd arweinyddiaeth ddweud nad oedd dewis ganddyn nhw ond ymddiswyddo.
Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y bwrdd "wedi cytuno i gamu o'r neilltu".
Cadarnhaodd Ms Morgan wrth BBC Cymru ei bod wedi gofyn i aelodau annibynnol o fwrdd iechyd y gogledd roi'r gorau iddi.
Bydd aelodau annibynnol newydd yn cael eu penodi i'r bwrdd i arwain y sefydliad wrth iddo barhau i adfer ei wasanaethau yn dilyn y pandemig, meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd adroddiad damniol yr wythnos ddiwethaf nad oedd arweinyddiaeth bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn gweithio'n iawn.
Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, roedd angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â "phroblemau dwfn" o fewn y bwrdd iechyd.
Galwodd awdur yr adroddiad, Adrian Crompton ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys.
'Amser am arweinwyr newydd'
Mae Betsi Cadwaladr yn cael ei harwain gan grŵp o gyfarwyddwyr gweithredol ac aelodau bwrdd annibynnol.
Tra bod swyddogion gweithredol yn gyfrifol am weithrediad gwasanaethau iechyd, mae aelodau annibynnol o'r bwrdd yno i graffu ar eu penderfyniadau.
Dywedodd Eluned Morgan fod ganddi "bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd a dwi ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dwi'n ei ddisgwyl ar gyfer pobl y gogledd".
"Dwi felly wedi penderfynu cymryd camau i unioni hyn," meddai.
"Dwi wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd fy mod yn rhoi'r sefydliad yn ôl o dan Fesurau Arbennig, a hynny ar unwaith.
"Mae'r penderfyniad sylweddol hwn yn cael ei wneud yn unol â'r fframwaith uwchgyfeirio.
"Mae'n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy'n ei atal rhag gwella.
"Dwi'n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio'n galed i oresgyn yr heriau hyn.
"Serch hynny, nawr yw'r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen."
Yn y cyfamser, dywed Llywodraeth Cymru bod Ms Morgan wedi gwneud "nifer o benodiadau uniongyrchol i'r Bwrdd i sicrhau sefydlogrwydd".
Dyfed Edwards sydd wedi'i benodi fel cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones yn aelodau annibynnol interim o'r bwrdd.
Beio'r llywodraeth
Ond mae aelodau'r bwrdd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud eu bod wedi codi pryderon iddyn nhw sawl gwaith.
Mewn llythyr i Lywodraeth Cymru a gwleidyddion eraill, dywedodd aelodau annibynnol y bwrdd: "Rydym yn ysgrifennu i fynegi ein pryderon dwys am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru yn dilyn y cyfarfod gyda'r Gweinidog y bore yma, pan gawsom ein gadael â dim opsiwn ond ymddiswyddo fel aelodau annibynnol yn syth.
"Does gennym ni ddim ffydd yng ngallu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa."
Ychwanegodd y llythyr bod aelodau'r bwrdd yn teimlo fod mwy o "gyfrifoldebau" wedi cael eu rhoi arnyn nhw nac y dylid disgwyl, pan oedd hi'n dod at redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan gyfeirio hefyd at yr ymchwiliad i dwyll ariannol o fewn y bwrdd.
"Rydyn ni'n dymuno'n dda i staff a'r sefydliad, ac yn diolch i staff am eu cefnogaeth," meddai'r aelodau.
"Fodd bynnag, mae gennym ni bryder gwirioneddol fod ymateb y Gweinidog i adroddiadu Archwilio Cymru, a'i ffocws ar aelodau annibynnol yn hytrach na'r trefniadau gweithredu, yn peri risg sylweddol i'r sefydliad a chleifion gogledd Cymru wrth symud ymlaen."
Dywedodd prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gill Harris, eu bod yn "siomedig tu hwnt" i fod yn ôl dan fesurau arbennig, ond eu bod nhw'n wynebu "heriau sylweddol".
"Rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy, ac hynny'n gynt, er mwyn adfer hyder ein staff a'n cymunedau," meddai.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad fod y bwrdd iechyd yn dychwelyd i fesurau arbennig, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George AS, na ddylai fod wedi dod allan ohonynt yn y lle cyntaf yn 2020.
"Nid oedd wedi dangos digon o gynnydd i gyfiawnhau hynny, ac mae'n ymddangos ei fod wedi cael ei wneud gan ei fod yn wleidyddol gyfleus ar y pryd, gydag etholiad ar y gorwel," meddai.
"Er ei bod hi'n rhwystredig gweld y bwrdd iechyd yn dychwelyd i fesurau arbennig, mae'n gam sydd yn rhaid ei chymryd."
Gweinidog 'angen ystyried ei swydd'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth y dylai Llywodraeth Cymru ddisgyn ar eu bai yn hytrach na "phwyntio'r bys at y bwrdd".
"Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth," meddai.
"Y peth lleiaf maen nhw'n ei haeddu ydy ymddiheuriad, ond beth 'dyn ni i gyd ei angen ydy bod y llywodraeth yn camu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am y llanast.
"Y cwestiwn ydy, faint fydd o'n ei gymryd i'r Gweinidog Iechyd ystyried ei swydd hi yn y mater yma?"
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru, ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod "aelodau annibynnol y bwrdd yn cael eu defnyddio fel bwch dihangol [scapegoat] yn fan hyn".
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn "gwneud popeth gallan nhw i sicrhau bod y bys ddim yn cael ei bwyntio atyn nhw".
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Eluned Morgan ymddiswyddo, dywedodd: "Ag hithau wedi, mor gyhoeddus, cael gwared i bob pwrpas ar y bwrdd yma, a bod mor barod i bwyntio bys ar eraill heddiw 'ma - dwi yn gofyn iddi hi, ydy hi ei hun yn ystyried go iawn mai hi ydy'r un sydd â hyder pobl i fod yn arwain yr NHS achos dwi'n ofni - yn sicr o ran pobl yn y gogledd - mai 'na' ydy hynny."
Ychwanegodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Dyma'r penderfyniad cywir, ond ddylai Llafur ddim fod wedi gadael i'r sefyllfa ddirywio i'r pwynt yma yn y lle cyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2023