Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig 'gweledigaeth hael'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cymdeithas fwy hael ar gyfer yr heriau sy'n wynebu Cymru a'r DU heddiw, meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wrth aelodau'r blaid.
Mae Jane Dodds yn dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig "gweledigaeth hael ar gyfer ein gwlad".
Dyma'r dewis arall yn lle "dinistr difeddwl" y Ceidwadwyr, "rheolwriaeth" Llafur ac "atebion gwag, poblogaidd" Plaid Cymru, meddai Ms Dodds.
Fe siaradodd ddydd Sadwrn ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd ddeuddydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gafodd ei chynnal yn Abertawe.
'Cysylltiadau cryfach ag Ewrop'
Gan addo y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwarae eu rhan i gael gwared ar bob AS Ceidwadol o Gymru yn etholiad cyffredinol y DU a ddisgwylir y flwyddyn nesaf, dywedodd Ms Dodds ei bod yn falch bod ei phlaid "yn gwneud yr achos dros gysylltiadau cryfach ag Ewrop, ail-ymuno â'r farchnad sengl, ac undeb tollau".
Fe wnaeth ddadlau bod angen hyn er mwyn "dadebru ein heconomi ac amddiffyn ein rhyddid", a helpu i adeiladu "gwladwriaeth les hael fel rhan hanfodol o greu dyfodol tecach i bob un ohonom".
Dywedodd Ms Dodds wrth y gynhadledd fod gweinidogion Ceidwadol y DU yn "gyrru ein gwlad i'r ddaear", "yn pardduo'r rhai mwyaf bregus, yn chwalu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn chwalu ein heconomi".
Ond fe wnaeth hefyd ymosod ar y wleidyddiaeth ym Mae Caerdydd, gan ddweud ei bod hi "mor rhwystredig pan mae'n teimlo fel ein bod ni'n fodlon yng Nghymru i gymryd camau bach iawn fesul tipyn.
"Chwarae gemau pan mae pobl yn aros blynyddoedd am driniaeth iechyd, mae plant a phobl ifanc yn dihoeni ar restrau aros iechyd meddwl, ac mae deintyddiaeth y GIG mewn argyfwng."
Ymhlith y dadleuon yn y gynhadledd dros y penwythnos mae cynigion ar greu "pwerdy Môr Celtaidd", sefydlu gweithrediaeth GIG annibynnol i arwain y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a symud i wythnos waith pedwar diwrnod.
Ms Dodds yw'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol ymhlith 60 aelod Senedd Cymru, a does gan y blaid ddim ASau yn San Steffan.
Cafodd y blaid enillion sylweddol ym Mhowys yn etholiadau lleol y llynedd, gan ddod y blaid fwyaf ac arwain y cyngor - a oedd yn cael ei arwain yn annibynnol yn flaenorol - trwy ymuno â chynghorwyr Llafur i ffurfio cabinet.
Yn Etholiad Cyffredinol 2019 daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail i'r Ceidwadwyr yn seddi Powys, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, a Sir Drefaldwyn.
Mae disgwyl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y DU, Ed Davey hefyd annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017