Pafiliwn 20,000 sedd Pontypridd 1893 ... a'r ddyled ddaeth wedyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Darlun o Adelina Patti yn arwain canu Hen Wlad Fy Nhadau yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 yn AberhondduFfynhonnell y llun, Henry Guttmann Collection
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o Adelina Patti yn arwain canu Hen Wlad Fy Nhadau yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 yn Aberhonddu - ond roedd pafiliwn Pontypridd 1893 yn fwy!

Ar ôl i Cymru Fyw gyhoeddi erthygl am bafiliynau enfawr y gorffennol yn dal 8,000 o bobl mae stori Eisteddfod Pontypridd 1893 wedi dod i'r fei gan guro'r ffigwr hwnnw o dipyn.

Dychmygwch yr olygfa: rydych chi mewn Eisteddfod Genedlaethol ar droad y ganrif ddiwethaf mewn pafiliwn sydd ag 20,000 o seddi - 10 gwaith capasiti pafiliwn Eisteddfod Tregaron 2022 - ac mae'r lle'n llawn i'r ymylon o bobl yn gwrando ar gorau o bob cwr o Gymru yn cystadlu am y brif wobr.

Mae'r adeilad mor fawr a'r to mor uchel mae angen cerddorfa i gyfeilio iddyn nhw.

Rhwng y cystadlu mae'r miloedd o Gymry capelgar yn diddanu eu hunain drwy ganu emynau mewn harmoni gan ysgogi gohebwyr papur newydd y dydd i ysgrifennu'n frwd am yr awyrgylch anhygoel yn eu hadroddiad y diwrnod wedyn.

Dyma stori Eisteddfod Pontypridd 1893, sydd wedi bod yn angof am 130 mlynedd yn ôl awdur llyfr newydd am yr hanes.

Yn y gyfrol No One Remembers Pontypridd: The Forgotten Story of the 1893 National Eisteddfod of Wales, a gafodd ei lawnsio fis Mawrth 2022 yn Amgueddfa Pontypridd, mae Sheldon Phillips wedi tyrchu mewn hen bapurau newydd i ddod o hyd i'r stori - o guro cais gan ddinas Chicago i gynnal y brifwyl, yr addewid i greu 'eisteddfod orau'r ganrif' a gwario miloedd o bunnau ar bafiliwn o ddur a gwydr o Wlad Belg, i siom y dyledion enfawr a ddaeth yn ei sgil.

Cystadlu gyda Chymry Chicago

Darganfyddodd Sheldon Phillips hanes Eisteddfod Pontypridd wrth ymchwilio i hanes ei deulu a darganfod bod ei hen ewythr yn ysgrifennydd cyffredinol yr ŵyl.

Darllenodd bod Pontypridd wedi cael brwydr fawr gydag Abertawe dros gynnal yr ŵyl yn 1891, a cholli, cyn gwrthsefyll cais gan Chicago am ei chynnal yn 1893.

"Fel y rhan fwyaf o bobl ro'n i'n meddwl pam ar wyneb daear fyddai Chicago yn rhoi bid am yr Eisteddfod Genedlaethol?" meddai wrth Cymru Fyw.

"Wnes i ffeindio allan am y nifer o Gymry wnaeth allfudo i America, a Chicago yn arbennig, ac mai'r Cymry wnaeth sefydlu dinas Chicago felly roedd poblogaeth Gymreig fawr yno.

"Roedden nhw'n dathlu'r World Fair yn Chicago yn1893, felly roedd Cymry Chicago nid yn unig eisiau'r Eisteddfod Ryngwladol yno ond roedden nhw eisiau i'r Eisteddfod Genedlaethol fynd i Chicago hefyd."

Ond Pontypridd aeth â hi.

"Roedd Pontypridd eisiau gwneud datganiad am dwf y dref fel grym economaidd yng Nghymru ac roedden nhw eisiau rhoi'r Eisteddfod Genedlaethol orau allen nhw gyda'r gwobrau ariannol mwyaf yn cael eu rhoi ac fe adeiladon nhw bafiliwn oedd yn dal 20,000 o bobl.

"A nid pafiliwn o gynfas a rhaffau oedd hwn ond adeilad mawr o ddur a gwydr."

Cafodd ei gosod ym Mharc Ynys Angharad gan gontractwyr oedd wedi dod draw gyda hi o Wlad Belg.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Llun o du mewn y pafiliwn oedd yn rhaglen swyddogol Eisteddfod 1893 sy'n dangos y maint a'r golau naturiol oedd yn dod i mewn o'r to, er ansawdd gwael y llun. (Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd caredig Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf)

"Y peth arall rhyfeddol ydy ei fod yn llawn dop ar gyfer prif gystadlaethau'r corau - y prif gystadleuaeth corawl a chystadleuaeth y corau meibion.

"Y flwyddyn honno fe gurodd tim rygbi Cymru Loegr o 11-10 yng Nghaerdydd ac roedd 15,000 o bobl yno ond yma ym Mhontypridd roedd yna 20,000 yn gwylio'r corau!

"Ac roedd y gynulleidfa, rhwng y cystadleuaethau, yn canu emynau cyfarwydd y dydd. Yn ôl adroddiadau rhai o'r papurau newydd roedd yr awygylch roedd hynny'n ei greu yn gyrru ias lawr yr asgwrn cefn. Oherwydd yn amlwg ar y pryd roedden nhw i gyd yn gapelwyr, yn gwybod emynau'r dydd ac yn y pafiliwn enfawr yma roedd yn amlwg yn creu awyrgylch anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Tiffany Treadway, Amgueddfa Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Lansiwyd No One Remembers Pontypridd yn Amgueddfa Pontypridd nos Fercher, 22 Mawrth a chyflwynodd Sheldon Phillips (ar y dde) un o'r papurau newydd prin daeth ar eu traws yn ei ymchwil i'r amgueddfa

Daw'r llyfr wrth i Rondda Cynon Taf baratoi i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2024 a fydd yn nodi'r tro cyntaf mewn 130 mlynedd i dref Pontypridd ymwneud â chynnal y brifwyl.

Mae'r lawnsiad hefyd yn digwydd yr un wythnos â chyhoeddiad yr Eisteddfod eu bod yn creu dwy ganolfan gystadlu lai yn 2023 yn lle'r pafiliwn mawr traddodiadol sydd wedi dominyddu'r maes ers degawdau yn 2023. Arwydd efallai o'r newid mawr sydd wedi bod ers troad y ganrif pan oedd cymdeithas ac economi Cymru yn wahanol iawn a thua miliwn o bobl yn siarad Cymraeg.

Y ddyled

Yn anffodus i Bontypridd, aeth pethau ddim fel y cynlluniwyd ac fe fuon nhw'n talu am hynny, yn llythrennol, am flynyddoedd wedyn.

"Cyfanswm y gost o ddarparu'r pafiliwn oedd £3,600 (sydd yn gyfystyr â thua £325,000 heddiw). Roedd hyn o leiaf dwywaith mor ddrud ag eisteddfodau cynt. Cyfrannodd hyn at golled cyfan gwbl o £2,600 - tua £230,000 heddiw.

"Wedyn yn amlwg roedd rhaid i Bontypridd ddelio gyda'r ddyled oedd yn cynyddu yn ddyddiol oherwydd y llog yn y banc. Roedd rhaid iddyn nhw fynd nôl at y tua 300 o warantwyr i gael yr arian ganddyn nhw.

"Ond doedd rhai o'r gwarantwyr ddim am dalu felly aed â nhw i'r llys ac yn y diwedd roedd rhaid iddyn nhw dalu a setlwyd y ddyled. Ond nid tan ryw bum mlynedd wedyn.

"Fe aeth yn flêr ac roedd lot o gydymdeimlad gyda Phontypridd ar y pryd. Doedd dim amheuaeth fod yr eisteddfod wedi bod yn llwyddiant mawr ac roedd yn amlwg yn siomedig nad oedd y sefyllfa ariannol wedi gweithio.

"Gan eu bod nhw wedi mynd amdani i'w gwneud yr Eisteddfod Genedlaethol orau a'r mwyaf oedd wedi bod yn y 19eg ganrif, fe wnaethon nhw ei chael hi'n anodd yn ariannol.

Tywydd gwael a streic

"Roedd y tywydd yn eu herbyn hefyd - fe wnaeth hi bistyllio bwrw gan gadw rhai pobl draw ac fe gychwynnodd streic glowyr fawr ar yr un diwrnod â dechrau'r eisteddfod - pob math o broblemau wnaeth arwain at broblem ariannol."

Ond cost y pafiliwn achosodd y twll mwyaf yn y cyfrifon.

Ffynhonnell y llun, Sheldon Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Ar glawr y llyfr mae darlun wnaeth ymddangos yn un o bapurau'r cyfnod o seremoni agor yr Eisteddfod ar y Maen Chwyf ym Mhontypridd

"Fe brynon nhw'r pafiliwn ar y sail y gallen nhw ei gwerthu wedyn ond wnaeth hynny ddim gweithio.

"O edrych nôl, o safbwynt ariannol fe fyddai wedi bod yn well iddyn nhw logi rhywbeth llai [sef y drefn arferol] ond yn amlwg ar y pryd roedden nhw eisiau gwneud datganiad am Bontypridd a'i gwneud yr eisteddfod orau allen nhw. Ac fe wnaethon nhw hynny.

"Hon hefyd oedd yr eisteddfod gyntaf oedd â cherddorfa eisteddfodol yn cyfeilio i'r cystadlaethau corawl. Cyn hynny piano neu harmoniwm fyddai'n gwneud ond mewn pafiliwn mor fawr bydden nhw wedi mynd ar goll.

"Y cynllun gwreiddiol oedd eu bod yn mynd i rannu hanner yr elw gyda chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol," meddai Mr Phillips.

Ond gan nad oedd yna elw does dim adroddiad ariannol swyddogol o'r ŵyl a dyna pam mae'n ei galw yn eisteddfod angof. Roedd rhaid i Mr Phillips dyrchu drwy nifer o ffynonellau i gael hyd i wybodaeth gan gynnwys prynu hen bopur newydd gan ddyn o'r Almaen ar eBay..

Mae Mr Phillips yn falch felly ei fod wedi gallu rhoi'r hanes ar glawr.

"Dyma fy nghyfraniad i i gofnodi'r digwyddiad," meddai.

"Mae'n hanes mor ddiddorol ac yn gefndir i'r cyfan mae'r cyfnod o dwf economaidd ym Mhontypridd, ond hefyd y tlodi ac ecsploitio'r dosbarth gweithiol, felly mae hynny hefyd yn y llyfr."

Hefyd o ddiddordeb: