Cyfarfod clybiau i drafod newidiadau bwrdd rheoli URC

  • Cyhoeddwyd
Ieuan EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd URC, Ieuan Evans, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru i esbonio'r newidiadau

Bydd cynrychiolwyr cannoedd o glybiau rygbi yn cwrdd ddydd Sul ar gyfer cyfarfod arbennig i ystyried cynnig i foderneiddio Undeb Rygbi Cymru (URC).

Bydd y cyfarfod cyffredinol eithriadol ym Mhort Talbot yn trafod newidiadau sylweddol i fwrdd rheoli URC, yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru wnaeth ddatgelu honiadau o ddiwylliant gwenwynig a chasineb tuag at ferched o fewn yr undeb.

Bydd cynrychiolwyr 282 o glybiau o bob cwr o Gymru yn cael pleidleisio ar y cynnig, ac mae angen i 75% ei gefnogi er mwyn i'r newidiadau ddod i rym.

Os yw'r newidiadau yn cael sêl bendith y clybiau, fe fydd o leiaf pump allan o 12 aelod y bwrdd rheoli yn fenywod, gan gynnwys naill ai'r cadeirydd neu'r prif weithredwr.

Fe fydd nifer yr aelodau annibynnol yn dyblu o dri i chwech - yn ogystal â chadeirydd annibynnol - a nifer yr aelodau sy'n cael eu hethol gan y clybiau yn gostwng o wyth i bedwar.

'Angen newid a moderneiddio'

Y nod, yn ôl arweinwyr yr undeb, yw sicrhau amrywiaeth ehangach o ran sgiliau busnes, meddylfryd, rhywedd a chynrychiolaeth ddiwylliannol ar y bwrdd rheoli.

Mae cadeirydd URC, Ieuan Evans, a'r prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ledled Cymru i esbonio'r newidiadau.

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Walker ei fod yn "hyderus ond ddim yn hunanfodlon" y byddai digon o glybiau yn cefnogi'r cynnig.

Cafodd cynnig i benodi cadeirydd annibynnol i'r bwrdd ei wrthod ym mis Hydref 2022 oherwydd doedd y nifer o blaid ddim wedi croesi'r trothwy o 75%.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Walker fod gwahaniaethau barn, ond bod angen moderneiddio URC

Ond mae'r prif weithredwr dros dro yn credu bod agweddau wedi newid bellach.

"Mae'r ymateb gan glybiau ar hyd a lled y wlad wedi bod yn wahanol y tro hwn," meddai Mr Walker.

"Ry'n ni wedi esbonio pam bod angen y newidiadau hyn, ac roedd pobl yn awyddus i'n herio ni, sy'n gwbl gywir

"Mae 'na wahaniaethau barn ynglŷn â sut y dylwn ni newid, ond mae pobl sy'n poeni am rygbi Cymru - y clybiau, y rhanbarthau, y chwaraewyr, swyddogion a staff - yn derbyn bod angen newid a moderneiddio."