Rheolau llymach ar y gweill ar gyfer saethu ffesantod yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai ddod yn orfodol cael trwydded ar gyfer saethu ffesantod a phetris yng Nghymru, o dan gynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru.
Tra bod saethu'r adar ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel arfer angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel arall ychydig o reoli sydd ar y gamp.
Mae CNC wedi dechrau ymgynghoriad 12 wythnos ar y mater.
Ond mae Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod eisiau rhwystro helwyr rhag mynd i saethu yn gyfan gwbl.
Cynlluniau 'ddim yn gwahardd saethu'
Mae CNC wedi rhybuddio fod rhyddhau adar ar gyfer eu saethu yn gallu bod yn niweidiol yn enwedig mewn lleoliadau sensitif neu ar lefelau sydd ddim yn gynaliadwy.
Dywedodd y corff y byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu y byddai angen "trwydded fyddai'n cael ei rhoi gan CNC" er mwyn saethu'r adar.
Ond maen nhw'n mynnu nad yw hynny'n golygu na fydd saethu adar yn cael ei ganiatáu yng Nghymru.
Dywedodd pennaeth rheoliad CNC, Nadia DeLonghi, ei bod eisiau creu system oedd yn gymesur ac yn bosib ei gweithredu.
Dywedodd: "Ry'n ni wedi defnyddio tystiolaeth i ystyried sut i reoli effeithiau ecolegol rhyddhau adar ar gyfer eu saethu heb amharu yn ormodol ar y budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n deillio o saethu.
"Nid atal rhyddhau adar ar gyfer eu saethu ydy'r amcan."
Mae cyfarwyddwr Cymreig y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth, Steve Griffiths, yn honni fod agwedd Llywodraeth Cymru tuag at saethu er mwyn hamdden "yn mynd yn fwy a mwy gelyniaethus".
"Y cynigion presennol ydy'r cam nesaf tuag at y nod terfynol o atal unrhyw saethu yng Nghymru, waeth beth fyddai'r canlyniadau ar gyfer swyddi, busnesau a chadwraeth," meddai.
"Dim ond y dechrau ydy hyn. Mae cyflwyno gwaharddiad a threfn drwyddedu yng Nghymru yn paratoi llywodraethau'r dyfodol yng Nghymru a thrwy'r DU i fedru creu rhagor o gyfyngiadau."
Dywedodd fod 'na reolau llym ar saethu yn barod, a bod "dim tystiolaeth y byddai deddfwriaeth bellach yn rhoi unrhyw fudd ychwanegol".
Ond dywedodd Will Morton, o elusen hawliau anifeiliaid y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon: "Mae mawr angen cymryd camau i ffrwyno'r arfer o ryddhau niferoedd enfawr o adar, sy ddim yn hanu o wledydd Prydain i gefn gwlad Cymru i gael eu saethu."
Ychwanegodd fod y diwydiant saethu yn magu adar i'w hela ar "raddfa ddiwydiannol", a'i fod yn fater sydd angen craffu arno'n fanylach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2016
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2016